Cynhelir etholiadau Senedd Ewrop ar 23 Mai 2019. Mae Prydain wedi'i hamserlennu nawr i gymryd rhan.

Mae gan breswylwyr hyd at 5yp, ddydd Mawrth, 7 Mai i gofrestru i bleidleisio os nad ydynt eisoes ar y Gofrestr Etholwyr. Bydd cerdyn pleidleisio yn cael ei anfon yn fuan at bob etholwr cymwys, yn darparu gwybodaeth am eich gorsaf bleidleisio ddynodedig, ynghyd â manylion am sut y gallwch bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy os na allwch bleidleisio’n bersonol ar y diwrnod.

Gall preswylwyr wneud cais am bleidlais drwy'r post neu drwy ddirprwy hyd nes 5yp ddydd Mercher, 08 Mai 2019. Gellir cael ffurflenni cais Pleidlais Bost o https://www.gov.uk/government/publications/apply-for-a-postal-vote, gellir cael ffurflenni cais am bleidlais drwy ddirprwy o https://www.gov.uk/apply-vote-proxy. Fel arall, gallwch gysylltu â swyddfa'r Gwasanaethau Etholiadol ar 01545 572032 neu e-bostiwch gwasanaethauetholiadol@ceredigion.gov.uk.

Os ydych chi’n ddinesydd un o wledydd yr Undeb Ewropeaidd (UE) gallwch gofrestru i bleidleisio yn y DU mewn etholiad Senedd Ewrop. Os ydych chi’n ddinesydd cymwys yr UE sy'n byw yng Ngheredigion, byddwch yn derbyn llythyr gennym yn fuan, yn eich gwahodd i gofrestru ar gyfer yr Etholiadau Ewropeaidd o'ch cyfeiriad yng Ngheredigion. Rhaid llenwi'r ffurflen (UC1) a'i chyflwyno erbyn dydd Mawrth 07 Mai 2019 gan ddefnyddio'r amlen ragdaledig a ddarperir neu drwy e-bostio gwasanaethauetholiadol@ceredigion.gov.uk.

Os ydych chi’n dymuno pleidleisio o'ch mamwlad, efallai yr hoffech gysylltu â'ch Llysgenhadaeth berthnasol, a allai eich cynghori ar sut i gofrestru a bwrw’ch pleidlais. Cliciwch ar y ddolen i gael rhagor o wybodaeth am lysgenadaethau tramor yn y DU: https://www.gov.uk/government/publications/foreign-embassies-in-the-uk

Am ragor o wybodaeth am Etholiadau Senedd Ewrop, ewch i https://www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/etholiadau-a-chofrestru-etholiadol/etholiad-seneddol-ewropeaidd-23-mai-2019/

Mae’r amserlen canlynol yn cynnwys dyddiadau cau ar gyfer yr Etholiadau Senedd Ewrop:

Digwyddiad

Dyddiad Cau

Amser

Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau i gofrestru

Dydd Mawrth, 07 Mai 2019

Hanner nos

Dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni UC1 - Os ydych chi’n ddinesydd o un o wledydd yr UE, gallwch gofrestru i bleidleisio yn y DU mewn etholiad Senedd Ewrop

Dydd Mawrth, 07 Mai 2019

Hanner nos

Dyddiad cau ar gyfer derbyn:

- ceisiadau newydd am bleidlais drwy’r post;

- ceisiadau newydd am bleidlais bost drwy ddirprwy;

- newidiadau i bleidleisiau drwy’r post a phleidleisiau drwy ddirprwy sydd ar waith eisoes

Dydd Mercher, 08 Mai 2019

5pm

Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau newydd am bleidlais drwy ddirprwy (nid pleidlais bost drwy ddirprwy neu bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng)

Dydd Mercher, 15 Mai 2019

5pm

Diwrnod yr Etholiad

Dydd Iau, 23 Mai 2019

7am-10pm

 

25/04/2019