Beth yw e?

Gwefan yw Dewis Cymru y mai awdurdodau lleol ledled Cymru yn berchen, ac sy’n cael ei weithredu ar eu rhan gan yr Uned Ddata Llywodraeth Leol. Mae ganddo gyfarwyddiadur sy'n cynnal amryw o gyfleoedd, digwyddiadau a gwasanaethau yn y gymuned. Gall sefydliadau, cymunedau ac aelodau o’r cyhoedd ddefnyddio Dewis Cymru i adael i bobl wybod beth sydd ar gael yn eu hardal.

Mae gan Dewis Cymru gyfarwyddiadur ledled y wlad lle mae trigolion Ceredigion yn gallu darganfod yr adnoddau helaeth sydd yn y sir.

Er enghraifft; efallai bod grŵp cyfeillgarwch yn cynnal boreau coffi rheolaidd, bod grŵp cymunedol yn trefnu teithiau cerdded yn yr ardal leol, neu efallai bod tafarn yn cynnal nosweithiau meic agored. Gall unrhyw ddigwyddiad neu adnodd gael ei osod ar Dewis Cymru, unwaith iddo gael ei gymeradwyo gan Olygydd Dewis Cymru. Gall y Cyngor, grŵpiau elusennol neu trydydd sector hefyd osod gwybodaeth am yr adnoddau a gwasanaethau maent yn cynnig ar Dewis Cymru.

Mae Dewis Cymru yn adnodd pwysig i’r Cyngor cyfan – nid Gofal Cymdeithasol yn unig – gan ei fod yn galluogi’r Cyngor i restru ei wasanaethau ar y wefan. Mae hefyd yn helpu pobl i helpu eu hunain ac i gynnal annibyniaeth os oes angen cefnogaeth arnynt cyn o reidrwydd dod i’r Cyngor. Bydd unrhyw berson sydd yn dod i’r Cyngor yn parhau i gael eu helpu.

Sut gall e weithio?

Mae’r astudiaeth achos isod yn dangos sut y gall pobl ddefnyddio Dewis Cymru i gefnogi eu lles. Cynhyrchwyd yr astudiaeth achos yn wreiddiol fel datganiad i’r wasg gan Gyngor Bro Morgannwg.

Astudiaeth achos

Mae preswylwyr mewn cartref ymddeol wedi dod yn fwy actif gyda diolch i ddosbarth ymarfer corff wedi’i drefnu trwy Dewis Cymru.

Fel siop un stop ar gyfer llesiant yng Nghymru, mae Dewis Cymru yn cynnig cyfeirlyfr sy’n galluogi defnyddwyr i fanteisio ar amrywiaeth o wasanaethau mewn meysydd megis iechyd, rheoli arian a diogelwch.

Gall pobl sy’n mynd i wefan Dewis Cymru ddewis y categori y mae diddordeb ganddynt ynddo ac mae amrywiaeth o gyngor a dolenni i wasanaethau ar gael. Neu, mae’n bosibl chwilio fesul lleoliad i ddod o hyd i wasanaeth penodol mewn ardal benodol.

Dyma’r hyn a wnaeth swyddog Cymunedau yn Gyntaf Cyngor Bro Morgannwg, Mark Ellis, pan oedd am ddod o hyd i hyfforddwr Ymestyn Ffitrwydd ar gyfer preswylwyr cymuned ymddeol yn Llanilltud Fawr.

Ymarfer corff ysgafn sy’n cynnwys symud i gerddoriaeth yw Ymestyn Ffitrwydd. Cysylltodd ag Alana Bevan, sydd wedi bod yn cynnig dosbarthiadau rheolaidd.

“Ymgynghorwyd â phreswylwyr ac un o'u syniadau oedd dosbarth Ymestyn Ffitrwydd," meddai Mark. “Defnyddiais Dewis Cymru i ddod o hyd i hyfforddwr lleol a ddaeth i gynnal sesiynau rheolaidd gyda’r preswylwyr ac ymunodd pobl sy'n byw'n allanol â’r sesiynau hefyd. Roedd defnyddio'r gwasanaeth mor hawdd a des o hyd i'r union beth roeddwn am ei gael. Teipiais hyfforddwr ffitrwydd, ymddangosodd y manylion a ffoniais hi yn syth. Mae Lana yn wych ac mae pawb yn mwynhau’r dosbarthiadau’n fawr. Defnyddiais y gwasanaeth i ddod o hyd i athro celf hefyd. Mae’r cyfeirlyfr yn ddefnyddiol wrth chwilio am sawl peth.”

Dywedodd warden y cartref ymddeol, Sheralee Baldwin: “Mwynhaodd y preswylwyr y sesiynau yn fawr – mae’n ymwneud â chael hwyl a pheidio â chymryd pethau ormod o ddifri. Mae’n sesiwn i grŵp, rhywbeth y maent yn ei hoffi, yn enwedig gan ei fod mor hwyliog. Gallwch wneud nifer o’r ymarferion wrth eistedd mewn cadair trwy godi eich coesau neu’ch breichiau – does dim pwysau. Mae’n wych bod gwasanaeth fel Dewis Cymru ar gael i’n helpu ni i drefnu’r math hwn o weithgaredd.”

Preswylydd 80 oed o’r cartref ymddeol yw Teresa James, sy’n cymryd rhan yn y dosbarthiadau Ymestyn Ffitrwydd: “Gwnes i fwynhau’r dosbarth yn fawr. Mae'n cynnwys ymarfer corff a chymdeithasu. Mae’n braf bod mewn grŵp gyda phobl eraill yn ymarfer corff gyda’i gilydd. Rydym yn ymarfer ein breichiau, ein harddyrnau a’n coesau. Wrth fynd yn hŷn, mae’n bwysig parhau i ymarfer corff a byddwn i’n hoffi cael dosbarthiadau bob dydd.”