A oes rywun yn eich niweidio, eich esgeuluso neu eich cam-drin a neu a ydych chi’n gwybod am rywun neu’n drwgdybio fod oedolyn neu blentyn sy’n agored i niwed yn dioddef yn y ffordd yma?
Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i edrych ar ôl ein gilydd.
Gall y cam-drin yma fod mewn nifer o wahanol ffyrdd - corfforol, seicolegol /emosiynol, rhywiol, ariannol neu esgeulustod - boed hynny’n digwydd nawr neu’n beryg o ddigwydd.
- Bydd Cam-drin Corfforol yn cynnwys bwrw, ysgwyd, gwasgu, trafod yn arw, cicio, llosgi neu gnoi. Bydd enghreifftiau eraill yn cynnwys rhoi cyffuriau, alcohol neu sylweddau gwenwynig amhriodol
- Cam-drin Seicolegol / Emosiynol i gynnwys cam-drin geiriol, bychanu, rhoi bai neu godi ofn ar rywun, bod yn sarhaus, ceisio rheoli rhywun, ceisio rhoi pwysau ar rywun, harasment, bygythiadau o niwed neu o adael rhywun, hepgor cyswllt neu gyfathrebu, cael eich ynysu neu eich tynnu allan o wasanaethau neu rwydweithiau cefnogol
- Mae Cam-drin Rhywiol yn cynnwys trais, llosgach, cam-drin rhywiol, gorfodi neu ddenu oedolyn neu blentyn sy’n agored i niwed i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhyw neu weithgaredd rhyw sy’n ddigyswllt megis foyeuriaeth neu fod yn agored i bornograffi
- Esgeulustod neu anweithred gan gynnwys hepgor elfennau angenrheidiol bywyd megis maeth, dillad, gwres a lloches ddigonol gan beidio â darparu man diogel ar gyfer unigolyn neu eu diogelu rhag peryg, anwybyddu anghenion gofal meddygol neu gorfforol, methu darparu mynediad i iechyd, gofal cymdeithasol neu wasanaethau addysgol priodol
- Cam-drin Ariannol (Oedolion yn unig) bydd hyn yn cynnwys dwyn, twyll, ecsbloetio, dwyn pwysau ar rywun mewn cysylltiad â thrafodion ariannol, eiddo, ewyllysiau neu etifeddiaeth, cam-drin neu gamddefnydd o eiddo neu fudd-daliadau
Nid yw'r rhestr hon yn gyflawn - os oes gennych unrhyw bryderon, siaradwch â ni.
Nid oes unrhyw un yn haeddu hyn ac nid oes gan unrhyw un yr hawl i wneud hyn i rywun arall.
Beth allwch chi ei wneud amdano?
Da chi, byddwch yn ddigon dewr i gysylltu â ni - rydym yma i’ch helpu. Os byddwn yn dod i gasgliad nad oes unrhyw beth i’w boeni yn ei gylch ni fyddwch mewn dŵr poeth cyn belled ag yr oeddech chi wir yn meddwl bo rywun mewn risg.
Os byddwch chi’n poeni fod yr unigolyn dan sylw mewn peryg ar hyn o bryd, ffoniwch yr heddlu ar 999.
Neu os hoffech chi adrodd eich pryderon i ni, ffoniwch Porth Gofal ar:
Oriau Swyddfa - 01545 574000
Neu y tu allan i oriau Swyddfa - 0300 4563554
Os ydych chi'n weithiwr proffesiynol, gallwch ein ffonio gyda'ch pryderon, ond bydd yn rhaid i chi hefyd lenwi mewn Ffurflen Atgyfeirio Aml-asiantaethol (MARF). Gellir cael y ddwy ffurflen isod:
Oedolion wrth Risg - Ffurflen Atgyfeirio Aml-asiantaethol (MARF)
Plant wrth Risg - Ffurflen Atgyfeirio Aml-asiantaethol (MARF)
Bydd angen i ni gadw ein hoedolion a phlant sy’n agored i niwed yn ddiogel gan ddangos ein bod yn eu gwerthfawrogi o fewn y cartref a’n cymunedau.