Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru’n cynnig cyngor a gwybodaeth am sut allwch ddiogelu’ch cartref. Maent hefyd yn cynnig gwiriad diogelwch tân yn y cartref am ddim ar gyfer adeiladau domestig ac yn gallu darparu a gosod synwyryddion mwg yn rhad ac am ddim.

Am ragor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad cysylltwch â ni ar 0800 169 1234.

Neu gallwch gael rhagor o wybodaeth neu ofyn am ymweliad ar-lein: www.mawwfire.gov.uk

Os ydych wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Oedolion Ceredigion ac yn derbyn gwasanaeth, byddwn yn gofyn am eich caniatâd i rannu’ch cyfeiriad gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fel eu bod yn medru cysylltu â chi i weld os ydych eisiau gwiriad diogelwch tân yn y cartref.