Heddlu Dyfed Powys – Gall Swyddogion Cam-drin Domestig gynnig cymorth a chyngor i ddioddefwyr sydd angen cymorth mewn sefyllfa nad yw’n argyfwng.

Rhif ffôn cyswllt - 101 (galwad am ddim)

Gwefan: www.dyfed-powys.police.uk

Gwasanaeth Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru – Mae’r gwasanaeth yn cynnig lloches i fenywod, plant a dynion sy’n dianc rhag cam-drin domestig. Yn ogystal, mae gan y gwasanaeth linell gymorth gyfrinachol sydd ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ynghyd â gwasanaethau cymunedol sy’n cynnwys cymorth un i un a rhaglenni grwp ar gyfer oedolion a phlant.
 
Dyma fanylion cyswllt y llinell gymorth 24 awr: 
Gogledd Ceredigion: 01970 625585
De Ceredigion: 01239 615385
 
Gwefan: www.westwalesdas.org.uk
E-bost: info@westwalesdas.org.uk

Logo Mid Wales Rape Support CentreCanolfan Gymorth Trais Canolbarth Cymru - yn cynnig gwasanaethau cymorth argyfwng trais ac ymosodiadau rhywiol.

Cysylltwch ar - 01970 610124

Gwefan: midwalesrsc.org.uk

Llinell Gymorth 24 awr Byw Heb Ofn ar gyfer Cymru Gyfan - 0808 801 0800

Gwefan: livefearfree.gov.wales

Mae BAWSO yn cefnogi pobl o gefndiroedd lleiafrifol du ac ethnig sy’n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig a ffurfiau eraill o gam-drin gan gynnwys Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod, Priodas Dan Orfod, masnachu pobl, puteindra a’r hyn a elwir yn drais ar sail anrhydedd.

Cysyllt: llinell gymorth 24 awr – 0800 731 8147

Gwefan: www.bawso.org.uk

Logo Cymru DdiogelachMae Prosiect Dyn - Cymru Ddiogelach yn darparu cymorth i ddynion Heterorywiol, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol sy’n cael eu cam-drin gan eu partneriaid.

Cysylltwch ar: 0808 801 0321

Gwefan: www.saferwales.com

Logo Broken Rainbow UKMae Broken Rainbow yn rhoi cymorth i bobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LGBT) sy’n dioddef o gam-drin domestig.

Cysylltwch ar: 0800 999 5428

Gwefan: www.brokenrainbow.org.uk

Mae Karma Nirvana yn llinell gymorth ar gyfer pobl sy’n dioddef o drais ar sail anrhydedd a phriodas dan orfod.

Cysylltwch ar: 0800 5999 247

Gwefan: www.karmanirvana.org.uk

Mae NSPCC yn darparu llinell gymorth 24 awr sy’n cynnig cwnsela, gwybodaeth a chyngor i unrhyw un sy’n poeni am blentyn a rhoddir gwybodaeth a chyngor i blentyn.

Cysylltwch ar: 0808 800 5000 (oedolion) neu 0800 1111 os ydych o dan 18 oed.

Gwefan: www.nspcc.org.uk

Mae SEREN yn darparu gwasanaethau cwnsela am ddim i oedolion a ddioddefodd gamdriniaeth rywiol yn ystod eu plentyndod.

Cysylltwch ar: 0845 4561657

Gwefan: www.seren-wales.org.uk

Mae Respect yn fudiad ag aelodaeth yn y Deyrnas Unedig ar gyfer gweithio gyda chyflawnwyr camdriniaeth ddomestig, dioddefwyr gwrywaidd a phobl ifanc.

Llinell gymorth ar gyfer cyflawnwyr camdriniaeth ddomestig: 0808 802 4040
Llinell gyngor ar gyfer dioddefwyr gwrywaidd o gam-drin domestig: 0808 801 0327

Gwefan: respect.uk.net

Logo Victim SupportMae Cymorth i Ddioddefwyr yn darparu cymorth i ddioddefwyr o drosedd os ydy’r drosedd wedi ei hadrodd i’r heddlu neu beidio.

Cysylltwch ar: 0300 123 2996

Gwefan: www.victimsupport.org.uk

Logo Polski Telefon ZaufaniaNowe Życie Bez Przemocy (Bywyd Newydd Heb Drais) – Llinell Gymorth ar gyfer Dioddefwyr sy’n siarad Pwyleg – ar agor ar ddydd Mercher ac Iau o 9.30am hyd 1.30pm.

Cysylltwch ar: 01270 260106

Gwefan: www.nowezyciebezprzemocy.co.uk

​Cam-drin Domestig yw pan fydd eich partner neu aelod o’ch teulu agos yn eich cam-drin yn gorfforol, ariannol, emosiynol, rhywiol neu seicolegol.

Mae hefyd yn cynnwys stelcio ac aflonyddu. Gall fod yn un digwyddiad ond mae fel arfer yn batrwm ymddygiad. Os ydych yn teimlo eich bod yn cael eich bygwth gan neu’n ofnus o’ch partner neu aelod o’ch teulu agos i’r pwynt ble rydych yn teimlo fod yn rhaid i chi newid eich ymddygiad i ddelio â phethau, yna efallai eich bod yn profi cam-drin domestig.

Mae trais rhywiol yn cynnwys cam-drin rhywiol, ymosodiad rhywiol, camfanteisio rhywiol, puteindra, anffurfio organau cenhedlu benywod a threisio. Pryd bynnag ddigwyddodd, os ddigwyddodd unwaith neu sawl gwaith, os oedd o’ch anfodd yna mae’n annerbyniol.

Os ydych yn teimlo bod eich partner neu aelod o’ch teulu agos yn eich bygwth chi, os oes ofn arnoch o’r ffordd bydd eich partner neu aelod o’ch teulu agos yn ymateb i bethau, mae asiantaethau ar gael i’ch helpu.

Fodd bynnag, os ydyw’n argyfwng dylech ffonio’r heddlu ar 999.