Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ar 10 Chwefror 2022 y bydd yn buddsoddi £96m fel bod tua 53,000 o weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cael taliad gros ychwanegol o £1,498. Dylai gweithwyr gofal sy’n talu treth incwm ar y gyfradd sylfaenol fod yn gallu derbyn tua £1,000 net ar ôl didyniadau.
Cyhoeddwyd y meini prawf ar gyfer bod yn gymwys a gellir eu gweld yma:
Bydd Awdurdodau Lleol yn gweinyddu’r cynllun ar ran Llywodraeth Cymru. Felly bydd Cyngor Sir Ceredigion yn gweinyddu’r taliad ac yn rhoi cyllid i gyflogwyr sydd â lleoliad gofal yng Ngheredigion.
Bydd yr holl staff cymwys yn derbyn y taliad yn eu cyflog ym mis Mehefin 2022.
Beth nesaf
Mae Cyngor Sir Ceredigion wrthi’n cysylltu â phob cyflogwr yn y sir a allai fod â staff sy’n gymwys.
Dylai pob aelod o staff cymwys dderbyn ffurflen hawlio oddi wrth eu cyflogwr yn ystod wythnosau cyntaf mis Ebrill 2022. Os ydych yn credu eich bod yn gymwys i gael y taliad ond nad ydych wedi derbyn ffurflen hawlio eto, dylech gysylltu â’ch cyflogwr yn y lle cyntaf.
Ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill dylech gysylltu â’r Cyngor drwy e-bostio carerspayment@ceredigion.go.uk.