Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Ceredigion yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles, annibyniaeth a chyfleoedd bywyd i blant (o dan 18 oed) yng Ngheredigion.
Rydym yn cydnabod am resymau gwahanol ei fod yn bosib y bydd teulu angen ychydig o gefnogaeth ychwanegol ar adegau- mae’n bosib y bydd y gefnogaeth yma dros gyfnod byr neu hir. Bydd ein timau yn gweithio gyda’r teuluoedd hynny sydd â’r angen fwyaf, a lle y mae risg i les neu ddiogelwch y plentyn. Gall gwaith o’r fath gynnwys:
- Plant ag anableddau
- Plant mewn risg o niwed oherwydd esgeulustod, camfanteisio’n rhywiol ar blant, cam-drin
- Plant y mae eu teuluoedd angen cymorth ychwanegol i ofalu amdanynt yn ddiogel
- Plant nad ydyw’n bosib iddynt fyw mwyach gyda’u teuluoedd geni neu ofalwyr
- Plant sy’n gofalu am eraill er enghraifft aelod o’r teulu
- Plant sydd mewn trafferth gyda’r heddlu
Rydym yn gweithio’n agos gyda nifer o asiantaethau gan gynnwys ysgolion i ddarparu cyngor a chefnogaeth i deuluoedd.