Bydd Gwasanaethau Cymdeithasol yn cynorthwyo pobl yng Ngheredigion fydd o bosib angen gwybodaeth, cyngor, cefnogaeth, gofal neu eu hamddiffyn er mwyn eu galluogi i fyw yn ddiogel yn y gymuned.

Bydd hyn yn cynnwys pobl â salwch neu anabledd, anableddau dysgu, pobl hŷn, pobl â phroblemau iechyd meddwl neu broblemau cam-drin sylweddau, plant a theuluoedd a’r rheiny sy’n darparu gofal anffurfiol i eraill (gofalwyr).

Gwybodaeth a chyngor

Nid yw pawb am weithio gyda Gwasanaethau Cymdeithasol ac oherwydd ein hadnoddau prin mae’n bosib na fyddwn yn medru gweithio gyda phawb sydd am weithio gyda ni. Yn aml, mae gwasanaethau, sefydliadau neu adnoddau cymunedol eraill fydd yn medru eich cynorthwyo gyda’ch anghenion yn well ac mi allwn eich cynghori pa rai fyddai orau i’ch amgylchiadau.

Bwriad y wybodaeth a’r cyngor a ddarperir gennym ar ein gwefan ac yn ein taflenni mewn trafodaeth â Porth Gofal yw eich annog i wneud eich penderfyniadau eich hun er mwyn i chi fedru cadw mor annibynnol â phosib a pharhau i fyw yn eich cartref eich hun mor hir ag yr hoffech wneud hynny, drwy reoli’r her o fagu eich plant neu fod yn rhan o’r gymuned. Rydym am eich cynorthwyo i dderbyn y cymorth rydych chi ei eisiau, pan rydych chi ei eisiau.

Cymorth a chefnogaeth

Gan taw swm penodol o arian sydd gennym i ddarparu’r holl wasanaethau sy’n ofynnol arnom i’w darparu, bydd angen i ni sicrhau ein bod yn cynorthwyo’r rheiny sydd â’r angen fwyaf, felly mae’n rhaid i ni ddefnyddio ‘meini prawf cymhwysedd’ ar gyfer achosion daw ger ein bron. Llywodraeth Cymru sy’n gosod y meini prawf cymhwysedd.

Er mwyn penderfynu a ydych chi’n cyflawni’r meini prawf cymhwysedd bydd angen i ni gynnal asesiad o’r angen. Bydd y math o asesiad a wneir yn ddibynnu ar bwy sydd angen y gefnogaeth, sef oedolyn neu blentyn a’i deulu. Fodd bynnag bydd y ddau asesiad yn edrych ar yr anawsterau a wynebir gennych chi neu eich teulu (hynny yw y rheswm paham rydych chi neu rywun arall wedi gofyn am gymorth), pa gefnogaeth sydd gennych mewn lle ar hyn o bryd, beth allwch chi ei wneud i chi eich hunain neu eich plentyn (hynny yw eich cryfderau ar hyn o bryd), yr hyn sy’n bwysig i chi (hynny yw i aros yn y cartref) a pha gymorth sydd ei angen naill ai drwy Wasanaethau Cymdeithasol neu’r gymuned yn ehangach.

Os hoffech fwy o wybodaeth am yr asesiad cliciwch yma:

Os nad ydych chi’n gymwys ar gyfer cefnogaeth oddi wrth y Gwasanaethau Cymdeithasol mae’n bosib y gallwn eich cyfeirio at asiantaethau / sefydliadu eraill a all eich cynorthwyo.

Bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd yn medru darparu nifer o wasanaethau arbenigol os oes gennych: