Sut dylid gofyn am asesiad

Ffoniwch Porth Gofal ar 01545 574000.

Ysgrifennwch at: Porth Gofal, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn Crescent, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3UE

E-bostiwch ni: contact-socservs@ceredigion.gov.uk

Os ydych chi’n cysylltu â ni ar ran person arall mae’n bwysig eich bod yn derbyn eu caniatâd i wneud hynny.

Cyn y gallwch dderbyn unrhyw wasanaeth oddi wrth y Gwasanaethau Cymdeithasol bydd angen i ni gynnal asesiad o anghenion yr unigolyn sydd angen cymorth.

Gelwir hyn yn Asesiad o’r angen a bydd yn edrych ar yr anawsterau a wynebir gennych, yr hyn sy’n bwysig i chi o ran sut y gellir cefnogi eich anghenion a’ch dymuniadau ac os ydych wrth gwrs yn gymwys i dderbyn cymorth oddi wrth Wasanaethau Cymdeithasol.

Mae’n bosib y gwneir yr asesiad dros y ffôn (os yw eich anghenion yn syml a heb fod yn gymhleth) neu mae’n bosib y bydd angen ymweld â chi yn eich cartref os bydd eich anghenion yn fwy cymhleth neu y bydd angen asesiad proffesiynol llawn.

Mae’n bosib y gwneir yr asesiad gan unigolyn proffesiynol heb gymwysterau (asesiadau syml) neu gan weithiwr cymdeithasol neu therapydd galwedigaethol. Mae’n bosib y caiff rhai asesiadau eu cwblhau ar y cyd gyda swyddog proffesiynol ym maes iechyd, er enghraifft, nyrs gymunedol. Mae’n bosib i’ch teulu, ffrind neu ofalwr fod gyda chi yn ystod eich asesiad os hoffech eu cefnogaeth neu os hoffech chi iddynt ddisgrifio’r anawsterau a brofir gennych.

Bydd yr asesiad yn ein galluogi i:

  • Ddeall yr anawsterau a brofir gennych
  • Clustnodi’r hyn sy’n bwysig i chi
  • Meddwl am yr hyn fyddai o gymorth i chi gyflawni eich nodau
  • Pa cymorth neu gefnogaeth rydych chi eisoes yn ei dderbyn gan bobl / asiantaethau eraill
  • Trafod pa wasanaethau (naill ai oddi wrthym ni neu’r gymuned ehangach) sydd ar gael i’ch cynorthwyo ymhellach

Er enghraifft:

  • Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd sefyll i baratoi pryd poeth, byddem yn gyntaf yn asesu eich gallu i aildwymo pryd rhewedig am y byddai hyn yn rhoi dewis i chi pryd a beth y byddwch chi’n ei fwyta
  • Os ydych chi’n dychwelyd adref o’r ysbyty yn dilyn llawdriniaeth ar eich glin (er enghraifft) ac yn cael ffwdan gwisgo rhan isaf eich corff, bydd yr ysbyty yn eich darparu â chyfarpar bydd yn eich galluogi i fod yn annibynnol yn y tasgau yma. Mae’n bosib y bydd angen cyfnod byr arnoch o anogaeth a goruchwylio er mwyn rhoi’r hyder i chi ddefnyddio’r cyfarpar pan fyddwch chi’n dychwelyd adref ac mae’n bosib y bydd gwasanaethau cymdeithasol yn medru eich darparu â chyfnod byr o gymorth gyda hyn
  • Os yw eich anghenion yn fwy sylweddol, mae’n bosib bod rhai pethau y gallwch eu gwella ac mi allwn edrych ar hyn gyda chi. O ran y tasgau byw o ddydd i ddydd a gofal personol nad ydynt yn bosib i chi eu gwneud, mae’n bosib y gallwn ddarparu pecyn gofal yn y tymor hir fydd yn eich galluogi i barhau yn eich cartref eich hun

Oni bai fod gennych lefel uchel o anghenion cefnogi, bydd y cymorth a ddarperir gennym dros gyfnod byr yn unig ac fe’i darperir drwy ein Gwasanaeth Galliogi.