Mae nifer o doiledau cyhoeddus wedi eu lleoli ar draws y Sir.
Gallwch gael gwybodaeth bellach am eu lleoliadau ar y tudalen Toiledau Cyhoeddus.
Allwedd Toiledau i’r Anabl / Allweddi Radar
Os oes gennych anabledd, gallwch brynu allwedd RADAR a fydd yn caniatáu i chi gael mynediad at doiledau sydd ar glo ar draws y Deyrnas Unedig.
Mae’r allweddi ar gael i’w prynu ar-lein. Gallwch hefyd eu prynu yn eich fferyllfa leol a thrwy Gyngor Sir Ceredigion.
Os ydych yn dymuno prynu allwedd drwy Gyngor Sir Ceredigion, cysylltwch â CLIC neu’ch Canolfan Groeso agosaf.