Gall fod yn anodd mynd o le i le yng nghefn gwlad, yn enwedig os nad oes gennych gar neu drwydded yrru. Ceir amrywiaeth o ffyrdd o ddefnyddio cludiant cyhoeddus yng Ngheredigion sy’n addas ar gyfer amrywiaeth o anghenion.
Bysus
Mae llawer o wasanaethau bws yng Ngheredigion sy’n mynd i bob rhan o’r sir yn ogystal â darparu cysylltiadau i drefi mawr mewn siroedd eraill. Amserlennu Bws.
Cludiant Cymunedol
Adnoddau Cludiant Arall
Ceir Ambiwlans – 0300 123 2303 Monday – Friday 08.00 – 18:00
Cludiant am ddim pan nad yw’n argyfwng sy’n galluogi pobl i fynd i’r ysbyty neu’r clinig ar gyfer apwyntiadau arferol fel cleifion allanol. Cynigir amrywiaeth o gerbydau i fodloni anghenion gwahanol gleifion.
Ar waith o ddydd Llun i ddydd Gwener
Gwefan: www.ambulance.wales.nhs.uk
Gwasanaeth Cludo Cleifion Sant Ioan – 0303 003 0106
Gwasanaeth cludiant personol sy’n mynd i ble bynnag y dymuna rhywun deithio. Mae ganddynt amrywiaeth fawr o gerbydau, gan gynnwys ambiwlansys a cheir y gellir mynd i mewn iddynt â chadair olwyn, ac felly mae rhywbeth sy’n addas i anghenion pawb.
Cost: ffoniwch am y prisiau diweddaraf
Yn gweithredu saith diwrnod yr wythnos
Yn gwasanaethu: Pob rhan o’r Deyrnas Gyfunol
Gwefan: www.stjohnwales.co.uk
Bydd y ddolen isod yn mynd â chi i Dewis Cymru. Cyfeiriadur o wasanaethau yw Dewis Cymru y gall pobl ei ddefnyddio i gael gwybod am y gwasanaethau a’r cyfleoedd sydd ar gael yn lleol ac yn genedlaethol.
Gellir cael rhagor o wybodaeth ynglŷn â Dewis yma.