Mae Cynllun y Bathodyn Glas yn drefniant Ewropeaidd sy'n ymwneud â chonsesiynau parcio i bobl sy'n anabl neu sy’n cael anawsterau difrifol wrth gerdded neu sydd â nam gwybyddol difrifol.

Mae bathodyn glas ar gael i yrwyr a theithwyr. Diben y cynllun Ewropeaidd yw galluogi'r rhai sy'n meddu ar fathodyn (y person sydd wedi derbyn y bathodyn) i barcio'n agosach at eu cyrchfan.

Pwy sy’n gymwys?

Mae’r meini prawf wedi’u rhannu i ddau grŵp. Mae’r rhain fel a ganlyn:

  1. Pobl sy’n gymwys am fathodyn heb yr angen am asesiad pellach - gan amlaf oherwydd eu bod eisoes yn derbyn rhai budd-daliadau gwladol. Weithiau, cyfeirir at hyn fel hawl awtomatig
  2. Pobl sy’n gymwys am fathodyn ar ôl asesiad pellach - nid yw pobl yn y grŵp hwn gan amlaf yn derbyn unrhyw fudd-daliadau gwladol a bydd angen iddynt roi tystiolaeth o’u cyflwr a sut mae’n effeithio ar eu symudedd

Gallwch wirio a ydych chi'n gymwys ar tudalen Bathodynnau Glas: pwy sy'n gymwys? Llywodraeth Cymru.

Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais (mae'r broses yr un fath os ydych chi'n gwneud cais am y tro cyntaf neu os oes gennych fathodyn glas yn barod).

Mae hwn yn wasanaeth newydd sy'n cael ei reoli gan GDS/GOV.uk, sydd ar hyn o bryd yn datblygu'r opsiynau iaith. I gwblhau eich cais yn Gymraeg cliciwch ar y botwm dechrau Gwyrdd ac yna dewiswch 'Cymraeg' yn y panel llwyd ar waelod y dudalen.

Gwnech gais ar-lein drwy GOV.UK

Fell arall gallwch ffonio'r Ganolfan Gyswllt ar 01545 900333.

Os byddwch yn ein ffonio ni, bydd y Swyddog Cyswllt yn gofyn am wybodaeth sylfaenol am yr unigolyn a fydd yn defnyddio’r Bathodyn. Bydd hyn yn cynnwys enw llawn, dyddiad geni, cyfeiriad, cod post a rhif ffôn.

Yna, byddwch yn cael pecyn Bathodyn Glas (cyn pen ychydig ddyddiau fel arfer, ond dylech ganiatáu wythnos cyn i chi ffonio eto, rhag ofn y bydd unrhyw oedi gyda’r post). Bydd y pecyn yn cynnwys ffurflen gais, nodiadau cyfarwyddyd (ynghylch sut i lenwi’r ffurflen gais) a llythyr fydd yn nodi eitemau eraill y bydd angen i chi eu hanfon atom.

Os nad yw eich Taliad Annibynnol Personol (PIP) wedi’i adnewyddu neu ei ymestyn, mae gennych yr opsiwn i wneud cais o dan y llwybdewisol (anawsterau cerdded). Os ydych yn gwneud cais ar-lein dewiswch anawsterau cerdded. Fel arall, cysylltwch â ni ar 01545 900333 am gyngor pellach.

Oes rhaid i mi dalu am Fathodyn Glas?

Mae Bathodynnau Glas am ddim ar hyn o bryd i unigolion a chodir tâl o £10 am Fathodynnau i Sefydliadau. Fodd bynnag, codir tâl o £10 os bydd angen bathodyn arall yn lle’r un a roddwyd yn flaenorol. Fel arfer, bydd y bathodyn yn ddilys am dair blynedd o’r dyddiad cyhoeddi oni bai bod eich Lwfans Byw i’r Anabl neu Lwfans Annibynnol Personol yn dod i ben cyn y dyddiad hwn.

Oes angen i mi ddarparu tystiolaeth?

Oes, mae’r cyfrifoldeb arnoch chi, yr ymgeisydd, i ddarparu tystiolaeth eich bod yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd. Os bydd unrhyw gostau yn codi er mwyn cael y dystiolaeth angenrheidiol, ni fydd yr Awdurdod Lleol yn gallu helpu gyda’r costau hyn.

Tystiolaeth Addas

Beth sy’n digwydd wedi i mi gyflwyno fy nghais?

Ar ôl i’r Ganolfan Gyswllt benderfynu eich bod yn gymwys i gael bathodyn, bydd y bathodyn yn cael ei gyhoeddi a’i anfon atoch yn y post. Dosberthir Bathodynnau Glas Adnewyddol tuag un wythnos cyn i’ch bathodyn presennol ddod i ben.

Byddwch yn cael derbynneb am unrhyw ffi a dalwyd ynghyd â llyfryn (a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru) a fydd yn cynnwys manylion am le a phryd y bydd modd i chi ddefnyddio’ch Bathodyn Glas.

Noder, rydym yn delio â cheisiadau am Fathodynnau Glas yn ddyddiol a byddwch yn cael eich bathodyn cyn gynted ag y bo modd.

Gofynnwn i chi ganiatáu 4 wythnos i ni brosesu eich cais o’r dyddiad y byddwn yn ei dderbyn.  Os, fodd bynnag, y bydd gennych bryderon ynghylch yr amser y mae’n ei gymryd i brosesu’ch bathodyn, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt ar 01545 900333 a chewch gyngor ynghylch y rheswm dros yr oedi.

Nid trwydded i barcio yn unrhyw le y mynnwch yw’r Bathodyn Glas.  Gweler y dudalen ganlynol sy’n nodi lle na ddylech barcio.

Cofiwch

  • Os byddwch yn parcio mewn lle a fyddai’n creu rhwystr neu berygl i ddefnyddwyr eraill y ffordd gall yr heddlu fynd â’ch cerbyd oddi yno. Gallech hefyd gael eich erlyn a cholli eich bathodyn
  • Nid yw’n gyfreithlon i glampio olwynion cerbyd ar y briffordd gyhoeddus am dorri rheoliadau parcio os oes Bathodyn Glas dilys wedi’i arddangos yn briodol arno. Serch hynny, dylech fod yn ymwybodol y gallai olwynion
    eich cerbyd gael eu clampio os byddwch yn parcio’n amhriodol ar dir preifat
  • Rhaid symud y cerbyd os bydd heddwas neu warden traffig mewn lifrai yn gofyn i chi wneud hynny

Sut i ddefnyddio’r bathodyn

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu taflen yn ymwneud â’ch cyfrifoldebau fel deiliad bathodyn a sut y dylech ddefnyddio’r bathodyn hwn.

Byddwch yn derbyn copi o’r daflen pan fydd eich bathodyn yn cael ei gyhoeddi, ond gallwch ddod o hyd i gopi yma hefyd:

Sut i defnyddio'r Bathodyn?

Beth allaf ei wneud os na fydd yr ymgeisydd yn gallu llofnodi’r ffurflen? 

Pan fo modd, dylid sicrhau llofnod yr unigolyn sy’n gwneud cais am y bathodyn. Os yw’r ymgeisydd dan ddeg oed, dylai’r rhiant/gwarcheidwad lofnodi. Os na fydd yr ymgeisydd yn gallu llofnodi oherwydd anabledd, dylent wneud eu marc arferol a ddefnyddir ar sieciau banc a dogfennau cyfreithiol eraill.

Gwrthodwyd fy nghais am Fathodyn Glas, a oes modd i mi apelio?

Nid oes proses apelio ffurfiol. Mae’ch cais wedi cael ei asesu’n ofalus yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru felly ni allwn ond ailystyried ein penderfyniad os ydych yn cyflwyno tystiolaeth newydd ar gyflyrau meddygol na wnaethoch gynnwys yn wreiddiol ar eich ffurflen gais neu os yw’ch cyflwr wedi gwaethygu.

Fel arall dylech aros chwe mis cyn eich bod yn gwneud cais arall.

Beth ellir ei wneud os na fydd yr ymgeisydd yn gallu mynd i mewn i gaban tynnu lluniau i dynnu llun?

Mae angen dau lun diweddar maint pasbort arnom (wedi’u llofnodi gan yr ymgeisydd ac wedi’u tynnu yn y 4 wythnos ddiwethaf). Neu, gallwch anfon dau lun arferol neu luniau o gamera digidol a dynnwyd yn ddiweddar, lle y mae nodweddion eich wyneb yn amlwg. Os byddant yn briodol, byddwn yn torri’r rhain i’r maint cywir. Os na fyddwch yn gallu darparu’r rhain, dylech ein ffonio ar 01545 900333.

Mae fy Mathodyn wedi dod i ben, a oes modd i mi ei ddefnyddio tra fy mod yn aros am fy mathodyn newydd?

Na, mae’n anghyfreithlon defnyddio’r bathodyn a dylech ei ddychwelyd yn syth i’r Ganolfan Gyswllt.

A oes rhaid i mi ddefnyddio’r bathodyn yn yr un cerbyd?

Gellir defnyddio’r bathodyn mewn unrhyw gerbyd ar yr amod bod deiliad y bathodyn yn bresennol. Fodd bynnag, ni ddylid defnyddio’r bathodyn os bydd deiliad  y bathodyn yn aros yn y car a bod rhywun nad ydynt yn anabl yn mynd allan, hyd yn oed os byddant yn mynd allan ar ran ddeiliad y bathodyn yn unig.

Consesiynau eraill i Ddeiliaid Bathodynnau

Nid oes yn rhaid i ddeiliaid bathodynnau dalu wrth groesi rhai afonydd. Mae modd cael mwy o fanylion ynglŷn â hyn drwy gysylltu â Llywodraeth Cymru.

Gan fod y Bathodyn Glas bellach yn un Ewropeaidd, gall deiliaid y bathodynnau hefyd fanteisio ar freintiau parcio modurwyr anabl lle bynnag y maent yn yr Undeb Ewropeaidd.

Sut i gysylltu â ni

Ceisiadau:

Ffôn: 01545 900333

E-bostbathodynglas@ceredigion.gov.uk

Cyfeiriad: Y Gwasanaethau Cymdeithasol, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE
Neu trwy Neuadd Ceredigion Aberaeron, Neuadd Cyngor Aberaeron, Llyfrgell Llanbedr Pont Steffan a Llyfrgell Aberteifi

Ar-leinwww.gov.uk/apply-blue-badge

Parcio:

Ffôn: 01545 572572

E-bosthpw@ceredigion.gov.uk

Cyfeiriad: Neuadd Cyngor, Stryd y Farchnad, Aberaeron SA46 0AT

Adrodd problem ar-leinOfferyn riportio ar-lein