Logo Tim Plant AnablMae Gwasanaeth Seibiannau Byr Tîm Plant Anabl Ceredigion yn trefnu seibiannau byr i blant anabl rhwng 1 a 18 oed sy’n byw yng Ngheredigion.

Nod y gwasanaeth yw darparu cymorth i deuluoedd a chaniatáu i’r plentyn gael profiadau newydd drwy gynnig seibiannau byr gyda theuluoedd lleol yn y gymuned.

Mae’r gwasanaeth yn cynnig ‘gwasanaeth gwarchod’ neu ‘wasanaeth gofalwyr cyswllt teulu’.

Pwy Yw’r Gofalwyr?

Pobl yn y gymuned yw’r gofalwyr sy’n gwneud cais i ddod yn ofalwyr plant anabl. Mae’n bosibl na fyddant ond yn medru cynnig gofal am awr neu ddwy bob wythnos / mis neu ychydig yn fwy. Mae Gweithwyr Cymdeithasol Seibiannau Byr yn eu hasesu, eu cefnogi a’u goruchwylio ac mae’n ofynnol i’r gofalwyr wynebu gwiriadau llym gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, y Swyddfa Cofnodion Troseddol a’r Gwasanaeth Iechyd.

Er bod gofalwyr yn cael eu hystyried yn wirfoddolwyr, maent yn derbyn taliadau oddi wrth Wasanaeth Seibiannau Byr y Tîm Plant Anabl am bob sesiwn o ofal y maent yn ei roi. Caiff lwfans milltiredd a threuliau hefyd eu talu.

Paratoir cytundeb ysgrifenedig rhwng pob ochr ac fel arfer gwneir trefniadau rhwng y Gofalwr a’r teulu. Ni chodir tâl ar deuluoedd plant anabl.

A fyddech chi’n dymuno cefnogi plentyn anabl a’i deulu?

A oes gennych chi brofiad o anableddau neu ddiddordeb yn y maes hwn?

A fyddech chi’n medru cynnig cyfleoedd gwerthfawr i blentyn / person ifanc anabl a’i gefnogi?

Nid oes angen i chi o anghenraid feddu ar brofiad o weithio â phlant anabl i ddod yn Warchodwr neu Ofalwr Cyswllt Teulu.

Ni fyddwn yn gofyn i chi wneud dim na fyddwch yn gysurus ag ef a byddwch yn cael cymorth parhaus oddi wrth y Gweithwyr Cymdeithasol Seibiannau Byr.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn Warchodwr neu’n Ofalwr Cyswllt Teulu, cysylltwch ag un o Weithiwyr Cymdeithasol Seibiannau Byr y Tîm Plant Anabl:

Post:

Gwasanaeth Seibiannau Byr
Tîm Plant Anabl
Pantyfedwen
9 Stryd y Farchnad
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 1DL

Ffôn:

01545 574000

Allwch chi ddarparu cartref i blentyn/person ifanc?

Comisiwn Cyngor Sir Ceredigion DASH (Anabledd a Hunan Help), darparwr trydydd sector lleol, i hwyluso darpariaeth Seibiant Byr preswyl ar gyfer plant ag anableddau a'u teuluoedd. Mae DASH yn cefnogi plant yn Nhŷ Glyn, byngalo pwrpasol wedi'i logi ger Aberaeron. Mae DASH wedi'i gofrestru gyda AGC fel cartref plant yn y lleoliad hwn. Mae staff DASH a'r Gweithiwr Cymdeithasol Seibiannau Byr o Gymorth Estynedig yn cydlynu penwythnosau ac yn sicrhau bod gofynion AGC yn cael eu dilyn.

Mae 'Penwythnosau DASH’ (DAW) yn ddarpariaeth seibiant byr sy'n cael ei hyrwyddo mewn partneriaeth â'r elusen leol, DASH (Anabledd a Hunan Help). Mae pobl ifanc yn cael cynnig seibiannau byr mewn cyfleuster â staff gyda grŵp o gyfoedion sydd wedi'u paru'n ofalus. Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig penwythnosau preswyl yn ystod y flwyddyn ar gyfer grwpiau penodol o rhwng tua 3-6 o bobl ifanc, 8-18 oed.

 Mae DASH yn cynnal penwythnosau o gefnogaeth (nos Wener i brynhawn Sul) er mwyn i bobl ifanc ag anableddau gael cyfle i fod yn annibynnol, datblygu a chynnal cyfeillgarwch ac ehangu eu profiadau. Mae teuluoedd yn elwa hefyd o’r seibiannau o ansawdd hyn sy’n cael eu darparu, gan wybod bod staff sydd wedi'u hyfforddi'n dda yn gofalu am eu plentyn ac sydd â dealltwriaeth o anghenion cymorth ac iechyd penodol. Mae rhieni/gofalwyr yn cael cyfle i ymlacio a/neu dreulio amser gyda’u plant eraill.

 

A oes gennych chi ddiddordeb?

Ffon: 01545 570881

E-bost: clic@ceredigion.gov.uk