Ni yw Maethu Cymru Ceredigion. Rydym yn rhan o’r rhwydwaith cenedlaethol o 22 gwasanaeth maethu gan Awdurdodau Lleol Cymraeg, ac yn gweithio gyda’ gilydd i adeiladu gwell dyfodol i’n plant lleol. Tîm Maethu Cymru Ceredigion yw eich darparwr a chefnogaeth maethu lleol.

Fel sefydliad nid-er-elw, rydym yn ymroddedig i weithio fel tîm gyda gofalwyr maeth i helpu i greu dyfodol mwy disglair i blant lleol yn ardal Ceredigion. Rydym yn eu helpu i aros yn eu hamgylcheddau lleol cyfarwydd, pan fydd yn iawn iddyn nhw.

Mae gofalwyr maeth yn dod o amrywiol gefndiroedd ac yn meddu ar lefelau gwahanol o brofiad. Ni does angen profiad o ofalu ar ôl plant arnoch i ddod yn ofalwr maeth, ac rydym yn croesawu ymholiadau wrth bobl sydd yn sengl neu â phartner, sy’n gweithio neu’n ddi-waith.

Mae llawer o wahanol ffyrdd o faethu sy’n amrywio o faethu tymor hir a maethu tymor byr iawn (cyn lleied ag un wythnos y mis), mewn argyfwng neu leoliadau seibiant, ar gyfer plant a phobl ifanc o’i geni hyd at 18 oed. Rydym hefyd yn darparu cefnogaeth i bobl ifanc yn dilyn eu pen-blwydd yn 18 i’w helpu a’u paratoi i fyw’n annibynnol.

 

Fel gofalwr maeth gyda Maethu Cymru Ceredigion, byddwch yn derbyn:

  • Lwfans ariannol hael
  • Lwfans ychwanegol ar benblwyddi a gwyliau crefyddol ynghyd â lwfans gwyliau blynyddol.
  • Lwfans ychwanegol ar gyfer bod ar rota argyfwng.
  • Lwfans gwasanaeth parhaus.
  • Tîm ymroddedig o staff maethu profiadol ynghyd â chefnogaeth mentor Cyfoed Gofalwyr Maeth yng Ngheredigion
  • Grwpiau Cymorth Lleol
  • Sesiynau Lles misol lleol
  • Gweithgareddau Teuluoedd Maethu Misol i’r teulu cyfan
  • Dull unigol ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o ddysgu a datblygu, gyda hyfforddiant rheolaidd ar-lein ac mewn person.
  • Cyfle a chefnogaeth i sicrhau cymhwyster Lefel 3 mewn Gofalu am Blant a Phobl Ifanc.
  • Aelodaeth i’r Rhwydwaith Maethu
  • Aelodaeth o gynllun CADW
  • Aelodaeth tocyn hamdden ar gyfer Teuluoedd Maeth i gael mynediad i Hybiau Lles a Phyllau Nofio.

 

I gael gwybod mwy am faethu yng Ngheredigion, ewch i wefan Maethu Cymru Ceredigion.

Cysylltwch â Maethu Cymru Ceredigion

Cyfeiriad: Penmorfa, Aberaeron, Ceredigion SA46 0PA
Rhif Ffôn: 01545 570881
E-bost: clic@ceredigion.gov.uk