​Asesu'r angen am ofal a chymorth yng Ngorllewin Cymru

Mae Adran 14 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a'r Byrddau Iechyd Lleol gynnal Asesiadau o'r Boblogaeth sy'n dynodi'r angen am ofal a chymorth, ac am anghenion cymorth y gofalwyr, yn eu hardal. Hefyd, mae'n ofynnol iddynt ddynodi'r ystod o wasanaethau sydd eu hangen, i ba raddau mae'r anghenion hyn yn cael eu diwallu ac ym mha fodd bydd gwasanaethau'n cael eu darparu'n Gymraeg. Rhaid cynnal Asesiadau o'r Boblogaeth bob pum mlynedd.

Mae Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru wedi cyhoeddi ei Asesiad cyntaf o boblogaeth y rhanbarth. Mae'r Bartneriaeth yn tynnu partneriaid ynghyd o gynghorau Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sefydliadau o'r trydydd sector a'r sector annibynnol, ynghyd â defnyddwyr a gofalwyr. Mae'r Asesiad ar gael isod.

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru ar gael yma: www.wwcp.org.uk. I gael rhagor o wybodaeth am yr Asesiad o'r Boblogaeth a sut bydd y Bartneriaeth yn defnyddio'i chanfyddiadau i wella gofal a chymorth yn y dyfodol, cysylltwch â Martyn Palfreman, Pennaeth Cydweithredu Rhanbarthol: MJPalfreman@sirgar.gov.uk

Gorllewin Cymru Asesiad Poblogaeth 2017

Sut y bydd hyn yn effeithio ar fy ngofal a'm cymorth?

Grŵp o dwyloMae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn gyfraith newydd a fydd yn rhoi llawer mwy o lais i chi o ran y gofal a'r cymorth a gewch.

I'ch cefnogi i wella eich llesiant, byddwch yn gwneud penderfyniadau am eich gofal mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol. I'ch helpu i wneud hynny, bydd gennych fynediad rhwydd at wybodaeth a chyngor am yr hyn sydd ar gael yn eich ardal chi.

Bydd gan ofalwyr yr un hawliau â'r rhai y maent yn gofalu amdanynt o ran cael asesiadau am gymorth, a bydd gan fwy o bobl yr hawl i gael Taliadau Uniongyrchol.

Bydd proses asesu gofal a chymorth newydd yn seiliedig ar yr hyn sy'n bwysig i chi fel unigolyn. Bydd yn ystyried eich cryfderau personol a'r cymorth sydd ar gael i chi gan eich teulu, eich ffrindiau ac eraill yn y gymuned.

Bydd yr asesiad yn fwy syml a bydd modd i unigolyn ei gynnal ar ran amrywiaeth o sefydliadau.

Bydd mwy o wasanaethau er mwyn rhwystro problemau rhag gwaethygu, er mwyn i'r cymorth cywir fod ar gael pan mae ei angen arnoch chi.

Bydd pwerau cryfach i gadw pobl yn ddiogel rhag cam-drin neu esgeulustod hefyd yn cael eu cyflwyno.

Bydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn dod i rym ym mis Ebrill 2016. Byddwch yn dilyn y broses newydd yn eich asesiad nesaf.

Mae’r ffilm fer hon yn cyflwyno'r Ddeddf mewn fformat sy'n hawdd i’w ddeall: www.ssiacymru.org.uk/home

Medrwch gael rhagor o wybodaeth am y Ddeddf yma: www.gov.wales/socialcare

Cwestiynau Cyffredin

Mae'r ddogfen boblogaidd hon yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall cynnwys y Ddeddf. Mae hefyd yn rhoi trosolwg da i'r holl ddarllenwyr: www.gov.wales/topics