Mae gofalwyr yn edrych ar ôl teulu; partneriaid neu gyfeillion sydd angen cymorth gan eu bod yn sâl, yn fregus neu'n anabl. Maent yn darparu gofal yn ddi-dâl.
Gofalwr Ifanc yw rhywun iau na deunaw oed sydd â bywyd cyfyng oherwydd yr angen i fod yn gyfrifol am berthynas yn sgil salwch, anabledd, anawsterau iechyd meddwl neu anawsterau alcohol neu gyffuriau.
Gofalwr sy'n rhiant yw rhywun sy'n gofalu am blant neu oedolion ag anabledd dysgu neu salwch sy'n cyfyngu ar eu bywydau.
Mae Gofalwyr yn gallu darparu gofal corfforol, emosiynol neu gymdeithasol. Gallai hynny olygu mynd ati'n ddiwyd bob diwrnod, neu roi gofal yn fwy achlysurol. Efallai eich bod chi eisoes yn darparu gofal sylweddol.
Amcangyfrifir bod yno 6 miliwn o ofalwyr yn y Deyrnas Unedig, gydag oddeutu 350,000 ohonynt yng Nghymru. Bydd 7 o bob 10 menyw a bron i 6 o bob 10 dyn yn Ofalwyr ar ryw adeg yn eu bywydau (Carers UK 2001).
Wrth ofalu, efallai'ch bod yn byw â'r sawl sy'n cael cymorth gennych, yn byw gerllaw neu'n byw yn o bell i ffwrdd. Ceir Gofalwyr o bob oedran, a rhaid iddynt hefyd ymdopi â chyfrifoldebau eraill fel gwaith a gofal plant.
Ar unrhyw adeg yn ein bywydau mae'n bosib y bydd gofyn i ni ofalu am rywun agos atom sydd wedi mynd yn sâl neu'n anabl, ac felly'n methu ymdopi ar eu pennau'u hunain yn y cartref heb ein cymorth ni ac eraill.
Os ydych chi'n ofalwr, yn aml disgwylir mai chi sy'n darparu'r rhan helaeth o'r cysur a'r gofal sydd angen ar y sawl yr ydych yn gofalu amdano/amdani. Gall hyn fod yn dra llethol, yn enwedig felly os oes gofyn am ofal hirdymor. Mae miloedd o bobl yng Ngheredigion eisoes yn wynebu'r fath sefyllfa. Yn ôl Cyfrifiad 2001 roedd yno 7,494 o ofalwyr, sef 10.4% o'r boblogaeth. O blith y rhain, roedd 1,981 (2.6%) yn gofalu am dros 50 awr yr wythnos.
Pwy sydd ddim yn Ofalwyr?
Pobl sy'n gofalu am blant nad ydynt ag anabledd neu salwch sy'n byrhau bywyd.
Pobl sy'n gweithio ym maes gofal – gweithwyr gofal, cynorthwywyr gofal, staff meddygol, gweithwyr cymunedol.