Mae Wythnos y Gofalwyr yn ymgyrch genedlaethol sy’n cael ei chynnal yn flynyddol i godi ymwybyddiaeth o ofalu, i dynnu sylw at yr heriau y mae Gofalwyr yn eu hwynebu ac i gydnabod eu cyfraniad i’w teuluoedd a’u cymunedau.
Fel arwydd bach o werthfawrogiad am bopeth yr ydych yn ei wneud, mae'r Uned Gofalwyr a'n partneriaid lleol a chenedlaethol wedi bod yn cynllunio llawer o weithgareddau i chi gymryd rhan ynddynt. Dyma un o'r ffyrdd yr ydym am ddangos faint yr ydych chi'n cael eich gwerthfawrogi. Gweler digwyddiadau isod. Mae'r holl weithgareddau a welir isod ac yn y Cylchlythyr AM DDIM i Ofalwyr di-dâl.
Rydym hefyd wedi llunio'r Cylchlythyr Wythnos y Gofalwyr arbennig i chi. Mae'n gyfle i'ch gwneud chi'n ymwybodol o'r holl weithgareddau sydd AM DDIM yn ystod mis Mehefin. Gobeithio y byddwch yn ymuno gyda ni i ddathlu yr hyn rydych yn ei wneud dros eich teuluoedd a’r cymunedau yn eich ardal.
- Tip:Gallwch hefyd ymuno ag unrhyw sesiwn Zoom dros y ffôn trwy alw 0330 088 5830 a rhoi manylion ID y cyfarfod. Byddwch yn talu cyfraddau lleol i ymuno o ffôn y tŷ. Os byddwch yn defnyddio ffôn symudol, bydd y munudau a ddefnyddir yn dod o’ch lwfans galwadau.
Yn ogystal â Gofalwyr di-dâl yng Ngheredigion, mae rhai o'r digwyddiadau yn agored i Ofalwyr di-dâl sy'n byw / gofalu yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Chymru i gyd. Gweler y rhestr isod.
Dydd Llun, 7fed o Fehefin 2021 - 15:00pm - 16:00pm
Sefwch i fyny, Siarad Allan – gyda Gofalwyr Cymru mewn partneriaeth â Chwarae Teg
Agored i bob Gofalwr di-dâl sy'n byw / gofalu yng Nghymru
- Mae Gofalwyr Cymru, mewn partneriaeth â Chwarae Teg, yn croesawu pob gofalwr benywaidd di-dâl i ymuno â webinar, ar Zoom, wedi’i gynllunio i wella hyder i ailymuno â’r gweithle.
Mae archebu'n hanfodol. I gofrestru: Returning to the workplace training for unpaid carers - I ymuno dros y ffôn, cysylltwch gyda Dawn ar 07933 218261 neu Amber ar 07523 812478
Dydd Mawrth, 8fed o Fehefin 2021 - 10:00am - 16:00pm
Diwrnod Encil Gofalwyr – gyda Gofal Ioga Holistig Cymru
Agored i bob Gofalwr di-dâl sy'n byw / gofalu yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin, a Sir Benfro
- Cefnogaeth therapiwtig i Ofalwyr di-dâl (ar draws Zoom) gan gynnwys Ymwybyddiaeth Ofalgar i leihau pryder, therapi ioga ysgafn, gwaith anadlu a thechnegau ymlacio.
Mae archebu'n hanfodol. Am fwy o wybodaeth / i archebu'ch lle am ddim: 07891 504090 / 01437 562200
Dydd Mawrth, 8fed o Fehefin 2021 - 11:00am
Sesiynau collage crefftau natur (wythnos 2) – gyda Gofalwyr Ceredigion Carers
Agored i bob Gofalwr di-dâl sy'n byw / gofalu yng Ngheredigion
- Mae Gofalwyr Ceredigion Carers yn eich gwahodd i ymuno â nhw ar Zoom am 3 sesiwn, gan edrych ar 3 math gwahanol o adar brodorol Prydain, eu cynefinoedd, eu nythod a'u hwyau, yn ogystal â'r hyn maen nhw'n swnio fel. Yna byddwch chi'n gwneud collage syml gan ddefnyddio papur a deunydd o amgylch y cartref.
Gweler cylchlythyr Wythnos y Gofalwyr am y deunyddiau y bydd eu hangen arnoch chi.
Wythnos 1: Adar duon. Ymunwch â Chyfarfod Zoom
Cyfarfod ID:971 6991 1972 Cod Pas: 432419
Dydd Mawrth, 8fed o Fehefin 2021 - 11:30am - 13:30pm
Fforwm Gofalwyr – gyda’r Uned Gofalwyr
Agored i bob Gofalwr di-dâl sy'n byw / gofalu yng Ngheredigion
- Gwnewch baned i chi’ch hun ac ymunwch a’r Uned Gofalwyr ar Zoom am sgwrs yn ein sesiwn galw heibio anffurfiol.
Nid oes angen archebu ymlaen llaw - ymunwch pan allwch chi: Linc y cyfarfod: Ymunwch â Chyfarfod Zoom
Cyfarfod ID: 948 2902 8429
Dydd Mawrth, 8fed o Fehefin 2021 - 13:00pm - 14:00pm
Technegau Cwsg ag Ymlacio – Mewn cydweithrediad â Rhaglen Hunanofal ‘Monitro Gweithredol’ Mind
Agored i bob Gofalwr di-dâl sy'n byw / gofalu yng Ngheredigion
- Mae MIND yn cyflwyno awgrymiadau a syniadau ar Zoom i’ch helpu i wella eich technegau cwsg ag ymlacio, i helpu chi edrych ar ôl eich hunan pan rydych yn poeni neu o dan straen. Gall y syniadau yma helpu chi wella eich hunanofal a darganfod ffyrdd i ffitio ymlacio mewn i’ch bywyd bob dydd.
Mae archebu'n hanfodol. Am fwy o wybodaeth / i archebu'ch lle am ddim: info@mindaberystwyth.org / 01970 626225 (9am to 1pm).
Dydd Mercher, 9fed o Fehefin 2021 - 11:45am - 13:15pm
Sgwrs Cwsg i Rieni Gofalwyr - gyda Cerebra
Agored i bob Gofalwr di-dâl sy'n byw / gofalu yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin, a Sir Benfro
- Sgwrs addysgiadol wedi'i dilyn gan sesiwn Holi ac Ateb, ar draws Zoom, am Gwsg a sut i gael y gefnogaeth i reoli problemau cwsg eich plentyn. Wedi'i anelu at rieni a gofalwyr plant sydd â chyflyrau niwrolegol sy'n gysylltiedig â'r ymennydd.
Nid oes angen archebu ymlaen llaw. Linc cyfarfod: Ymunwch â Chyfarfod Zoom
Cyfarfod ID: 913 0530 4878
Dydd Iau, 10fed o Fehefin 2021 - 12:00pm - 13:00pm
Ioga ar-lein – Mewn cydweithrediad â Mind Aberystwyth a Meriel Goss
Agored i bob Gofalwr di-dâl sy'n byw / gofalu yng Ngheredigion
- Symudwch tuag at ymlacio gyda’n sesiwn Ioga agored ar Zoom. Dewch draw i ymarfer technegau anadlu syml i helpu gyda straen ac i ddysgu sut i gymryd amser i ganolbwyntio arnoch chi’ch hun. Mae’r Ioga yn cynnig dewisiadau fel bod pawb yn gallu ymuno yn eu ffordd eu hunain.
Mae archebu'n hanfodol. Am fwy o wybodaeth / i archebu'ch lle am ddim: info@mindaberystwyth.org / 01970 626225 (9am to 1pm).
Dydd Mawrth, 15fed o Fehefin 2021 - 11:00am
Sesiynau collage crefftau natur (wythnos 2) – gyda Gofalwyr Ceredigion Carers
Agored i bob Gofalwr di-dâl sy'n byw / gofalu yng Ngheredigion
- Mae Gofalwyr Ceredigion Carers yn eich gwahodd i ymuno â nhw ar Zoom am 3 sesiwn, gan edrych ar 3 math gwahanol o adar brodorol Prydain, eu cynefinoedd, eu nythod a'u hwyau, yn ogystal â'r hyn maen nhw'n swnio fel. Yna byddwch chi'n gwneud collage syml gan ddefnyddio papur a deunydd o amgylch y cartref.
Gweler cylchlythyr Wythnos y Gofalwyr am y deunyddiau y bydd eu hangen arnoch chi.
Wythnos 2: Llinos Aur. Ymunwch â Chyfarfod Zoom
Cyfarfod ID: 957 0609 7559. Cod Pas: 909006
Dydd Mawrth, 22ain o Fehefin 2021 - 11:00am
Sesiynau collage crefftau natur (wythnos 3) – gyda Gofalwyr Ceredigion Carers
Agored i bob Gofalwr di-dâl sy'n byw / gofalu yng Ngheredigion
- Mae Gofalwyr Ceredigion Carers yn eich gwahodd i ymuno â nhw ar Zoom am 3 sesiwn, gan edrych ar 3 math gwahanol o adar brodorol Prydain, eu cynefinoedd, eu nythod a'u hwyau, yn ogystal â'r hyn maen nhw'n swnio fel. Yna byddwch chi'n gwneud collage syml gan ddefnyddio papur a deunydd o amgylch y cartref.
Gweler cylchlythyr Wythnos y Gofalwyr am y deunyddiau y bydd eu hangen arnoch chi.
Wythnos 3: Titw cynffon hir. Ymunwch â Chyfarfod Zoom
Cyfarfod ID: 955 6312 0496. Cod Pas: 711311
Dydd Mawrth, 29fed o Fehefin 2021 - 10:00am - 20:00pm**
Diwrnod Lles Rhithwir Gofalwyr Cymru – gyda Gofalwyr Cymru
Agored i bob Gofalwr di-dâl sy'n byw / gofalu yng Nghymru
- Mae Gofalwyr Cymru yn cynnal diwrnod llawn o weithgareddau ar Zoom i gefnogi ymwybyddiaeth ofalgar a lles Gofalwyr di - dal ar 29ain Mehefin 2021. Mae pob sesiwn yn unigol a gallwch ymuno a chynifer neu gyn lleied ag y dymunwch. Nid oes raid i chi ymrwymo i'r diwrnod cyfan.
Bydd y diwrnod yn edrych fel hyn:
- 10.00 - 11.20 - Dawns i bawb
- 11.30 - 12.50 - Ioga Dru
- 14.30 - 15.50 - Salsa i ddechreuwyr
- 16.00 - 17.20 - Ioga Chwerthin i bawb
- 17.30 – 18.50 – Zwmba i ddechreuwyr
- 19.00 – 20.20 - Ioga Qi Gong sesiwn blasu
Gallwch gofrestru am docyn yma - Carers Wales Wellbeing Day
I ymuno dros y ffôn, cysylltwch gyda Dawn ar 07933 218261 neu Amber ar 07523 812478
Cyfle i chi ymuno â Gofalwyr di-dâl o Sir Gâr a Sir Penfro
Rydym hefyd yn gweithio gyda'n gwasanaethau Gwybodaeth Gofalwyr cyfatebol yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin i ddod â hyd yn oed mwy o sgyrsiau a chyfleoedd hyfforddi i chi yn ystod y flwyddyn.
Mae gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Sir Gaerfyrddin yn gwahodd Gofalwyr di-dâl yng Ngheredigion i ymuno â nhw yn y gweithgareddau canlynol yn ystod Wythnos Gofalwyr 2021:
Dydd Llun, 7fed o Fehefin 2021 - 1.30pm
‘Awtistiaeth a Chyfathrebu' – gyda Autside
- Sesiwn ymwybyddiaeth ar-lein sy'n canolbwyntio ar y rhyngweithio cymdeithasol a'r gwahaniaethau cyfathrebu y mae pobl awtistig yn eu profi
- Hyd – 2 awr
Cyfarfod ID: 927 0495 4772, Cod Pas: 250999
CTCWW Hwylusydd Staff: Marcia.vale@ctcww.org.uk Rhif ffôn: 07971 598997
Dydd Mercher, 9fed o Fehefin 2021 - 2.00pm
‘Fi yw Fi o Hyd’ - gyda ‘Apple-a-Day’
- Gweithdy lles ar-lein - yn cofio pwy ydw i yn ogystal â bod yn ofalwr
- Hyd - 1 awr
Cyfarfod ID: 894 3975 1629, Cod Pas: 362520
CTCWW Hwylusydd Staff: Liz.edwards@ctcww.org.uk Rhif ffôn: 07817 676029
Dydd Mercher, 9fed o Fehefin 2021 - 7.00pm
Celf Stensil Syml - gweithdy celf ar-lein
- Rhowch gynnig ar greu dyluniadau stensilio syml ond syfrdanol. I ddechreuwyr. Gwnewch stensil syml gan ddefnyddio papur a deunyddiau o amgylch y cartref.
- Hyd – 1 awr
Pethau y bydd eu hangen arnoch chi:
- Papur, Pensil, Paent (unrhyw), Sbwng, Brws paent mawr, Pot dŵr, Tissues, Siswrn
- Unrhyw wrthrychau siâp diddorol sydd gennych wrth law; e.e. dail o'r ardd, allweddi / topiau potel, corc, darnau arian, clipiau, ac ati
Cyfarfod ID: 811 8564 2779, Cod Pas: 036436
CTCWW Hwylusydd Staff: Cathy.boyle@ctcww.org.uk Tel: 07971 598994
Dydd Iau, 10fed o Fehefin 2021 - 6.30pm
Cwis Gofalwyr - cwis hwyl ar-lein i ofalwyr
- Timau bach neu gyfranogiad unigol
- Hyd – 1 awr
Cyfarfod ID: 814 8318 8155, Cod Pas: 196945
CTCWW Hwylusydd Staff: Liz.edwards@ctcww.org.uk Rhif ffôn: 07817 676029
Mae'r holl weithgareddau sy'n digwydd yn Sir Benfro ar gyfer Wythnos Gofalwyr 2021 yn agored i Ofalwyr di-dâl yng Ngheredigion.
Nodwch: mae lleoedd ar rai cyrsiau yn gyfyngedig.
Gweler y tabl llawn o weithgareddau ar y dudalen ganlynol i gael manylion a gwybodaeth archebu:
Cysylltu Sir Benfro - Gwneud Gofalu’n Weladwy ac yn Werthfawr
Rydym yn diweddaru ein tudalennau gwe gyda gweithgareddau newydd yn rheolaidd. Cadwch eich llygaid wedi'u plicio am ragor o wybodaeth yma ac ar ein cyfryngau cymdeithasol ac (i'r rhai ohonoch sydd eisoes wedi cofrestru i'n gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr) yn eich e-byst / yn y post.