Ymunwch â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr i gael:

  • cylchgrawn y Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr rheolaidd
  • gwybodaeth ddefnyddiol a fydd yn cael ei theilwra i ateb eich gofynion chi am bethau fel gwasanaethau, cymorth, deddfwriaeth ac ati
  • gwybodaeth am y Fforwm Gofalwyr sy’n cwrdd yn rheolaidd i roi cymorth, i rannu gwybodaeth ac i feithrin cyfeillgarwch
  • gwybodaeth am ddigwyddiadau i Ofalwyr
  • gwybodaeth am gyrsiau hyfforddi perthnasol
  • gwybodaeth am ymgyngoriadau ar faterion lleol a chenedlaethol – eich cyfle chi i leisio’ch barn ar faterion sy’n effeithio ar Ofalwyr

Gallwch chi ymuno â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr i gael y buddion uchod. Gallwch ymuno â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr AM DDIM.

Os hoffech chi ymuno â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr i gael y manteision a restrir uchod, cysylltwch â ni dros y ffôn, drwy e-bost neu drwy lythyr, neu llenwch y ffurflen isod a’i hanfon i’r Tîm Gofalwyr a Chymorth Cymunedol:

Ffurflen Gofrestru ar gyfer Y Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr

Cylchgrawn y Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr

Croeso cynnes i bawb i Gylchgrawn y Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr ar gyfer Gofalwyr Ceredigion (gynt Jigso). Byddwn yn cyhoeddi rhifynnau ym mis Chwefror, mis Mai/Mehefin a mis Hydref.

Mae'n darparu gwybodaeth leol a chenedlaethol a allai fod yn fuddiol i Ofalwyr a gweithwyr proffesiynol. Nod Cylchgrawn i Ofalwyr yw hysbysu Gofalwyr ynghylch y newyddion diweddaraf, digwyddiadau ar ddod, llwyddiannau a gwybodaeth am gymorth a gwasanaethau sydd ar gael yn genedlaethol ac yn lleol.

Cylchgrawn y Gofalwyr - Gwanwyn 2024

Cylchgrawn y Gofalwyr - Gaeaf 2023

Cylchgrawn y Gofalwyr - Haf 2023

Cylchgrawn y Gofalwyr - Gwanwyn 2023

Cylchgrawn y Gofalwyr - Hydref 2022

Cylchgrawn y Gofalwyr - Gwanwyn 2022

Mae croeso i chi anfon awgrymiadau a syniadau ar gyfer rhifynnau nesaf y gylchgrawn. Rydym yn dal i fod yn awyddus i gynnwys tudalen o lythyron gan ddarllenwyr, felly byddem yn falch o dderbyn llythyron, boed am gynnwys y gylchgrawn neu am fater arall sy’n agos at eich calon. Os oes gennych chi syniad ar gyfer erthygl neu os ydych chi am rannu eich syniadau a’ch sylwadau, cysylltwch â ni yn yr Uned Gofalwyr.

Post

Uned Gofalwyr
Canolfan Rheidol
Rhodfa Padarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3UE

Ffôn

01970 633564

Ebost

unedgofalwyr@ceredigion.gov.uk

Ymunwch â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr i gael Cylchgrawn y Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr rheolaidd. Cewch hyd i fwy o wybodaeth ar y tudalen Y Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr.