Mae’r holl lyfrynnau a restrir isod ar gael ar ffurf copi caled neu i’w darllen a’u lawrlwytho ar-lein. I ofyn i ni anfon copi caled atoch, ffoniwch 01970 633564 neu anfonwch e-bost at unedgofalwyr@ceredigion.gov.uk.
Asesiadau – canllaw i gael asesiad
Mae’r llyfryn hwn yn egluro nodau’r asesiad o anghenion gofalwr a’r hyn sy’n digwydd yn ystod yr asesiad.
Canllaw i ofalwyr ar reoli meddyginiaethau
Llyfryn ar gyfer gofalwyr sy’n trin a thrafod meddyginiaeth yn rheolaidd a’i rhoi i’r sawl y maent yn gofalu amdano yw hwn. Mae’n cynnwys llawer o wybodaeth am sut a phryd i roi meddyginiaeth yn ddiogel.
Cael Eich Clywed: canllaw hunaneirioli i ofalwyr
Mae canllaw Gofalwyr Cymru yn darparu cyngor i’ch helpu i roi gwybod i weithwyr proffesiynol am eich gofynion, i wybod beth yw’ch hawliau, ac i ofalu am eich llesiant.
Byddwch yn Barod – canllaw i ofalwyr ar gynllunio rhag argyfyngau
Mae’r llyfryn hwn yn llawn cyngor i’ch helpu chi i ystyried y mesurau diogelwch y gallwch chi eu rhoi ar waith rhag ofn y bydd rhywbeth yn digwydd i chi yn y dyfodol. Mae’r llyfryn hefyd yn cynnwys ffurflen gais i ymuno â Chynllun Cerdyn Argyfwng Gofalwyr Ceredigion AM DDIM.
Gadael yr ysbyty
Mae’r llyfryn hwn yn egluro sut i gynllunio ar gyfer gadael yr ysbyty er mwyn i chi wneud yn siŵr bod eich safbwyntiau a’ch teimladau’n cael eu hystyried a bod cymorth yn ei le.
Bywyd ar ôl gofalu
Mae’r llyfryn hwn yn darparu gwybodaeth a chyngor ymarferol am sut i ymdopi pan fydd eich rôl ofalu’n newid neu’n dod i ben.
Dywedwch ‘Dw i’n iawn’ … a’i olygu!
Mae’r llyfryn ‘Dywedwch ‘Dw i’n iawn’ … a’i olygu!’ yn ceisio cynorthwyo gofalwyr i ofalu am eu hiechyd meddwl a’u lles emosiynol.
Cliciwch ar unrhyw un o'r dolenni cyswllt isod i fynd i wefannau mudiadau lleol a chenedlaethol i chael gwybodaeth a newyddion buddiol.
Ofalwyr Y DU
Ofalwyr Cymru Wales
Ymddiriedolaeth y Dywysoges Frenhinol i Ofalwyr
NHS Social care and support guide
www.nhs.uk/conditions/social-care-and-support-guide