Sut y gallai weithio?

Mae stori Jane* o gyrraedd ei nodau trwy gefnogaeth Cerys, Cysylltwr Cymunedol, yn dangos sut gall Gysylltwr Cymunedol helpu rhywun i ddarganfod ac i ddefnyddio datrysiadau yn eu cymuned. Gall hyn, ymhen tro, gael effaith bositif ar les unigolyn.

Mae Cysylltwr Cymunedol hefyd yn gallu edrych yn fwy eang ar y cyfleoedd sydd ar gael y gall gyfrannu tuag at fywyd boddhaus. Mae hyn yn cynnwys cynyddu ymwybyddiaeth o wasanaethau a chynnig cymorth i allu eu defnyddio, megis darpariaeth o addasiadau bach i’r cartref neu helpu gyda siopa.

Stori Jane

Cysylltwr Cymunedol yw Cerys sydd wedi bod yn helpu Jane am dair mis. Cysylltodd Jane gyda’r gwasanaeth ar ôl iddi sylweddoli ei bod hi’n dod yn gynyddol ynysig ac unig ar ôl i’w gŵr farw wyth mis ynghynt. Roedd Jane a’i gŵr yn ddibynnol iawn ar ei gilydd ac yn ystod afiechyd cynyddol, fe wnaeth hi ofalu amdano yn dyner am ddwy flynedd a hanner cyn iddo farw. Roedd y gofynion arni fel Gofalwr yn golygu iddi golli ei chysylltiadau cymdeithasol cynt, a gan nad yw teulu Jane yn byw yn lleol, roedd Jane yn teimlo nad oedd rheswm iddi adael ei drws ffrynt.

Pan ddechreuodd Cerys gefnogi Jane, dechreuwyd yn gyntaf trwy gwrdd ar adegau yng nghartref Jane a sgwrsio dros baned o de gan geisio gorchfygu rhai o broblemau Jane. Ar ôl dod i nabod ei gilydd, soniodd Jane yr oedd hi arfer dwlu ar ddarllen ac roedd hi wedi mwynhau peintio blynyddoedd yn ôl pan oedd hi yn fam ifanc. Er roedd hi eisiau dechrau eto, roedd y syniad o gerdded mewn i ystafell o bobl newydd yn ormod iddi.

Yn ystod y sgwrs yma, daeth Cerys i ddeall bod Jane wedi cwympo rhai misoedd ynghynt a doedd hi ddim wedi dweud wrth unrhyw un amdano gan nad oedd hi eisiau i’w theulu boeni. Roedd yn amlwg bod hwn wedi cael cryn effaith ar hyder Jane wrth gerdded a hefyd yn benodol wrth ddefnyddio grisiau. Daeth hi i’r amlwg bod hwn yn ffactor a oedd yn cyfrannu i pam doedd hi ddim eisiau gadael y tŷ.

Dywedodd Cerys fod camau bach y gellir eu gwneud i atal cwympo yn y cartref felly, gyda chaniatâd Jane, cysylltodd Cerys â Gofal a Thrwsio. Fe wnaethant ymweld â’i thŷ a gosod canllaw yn arwain i ddrws ffrynt Jane a golau gwell yn yr ardal. Gwnaeth y rhain i gyd helpu i gynyddu hyder Jane i adael y tŷ. Cafodd Cerys ganiatâd Jane hefyd i roi ei manylion i’r Gwasanaeth Tân i wneud prawf diogelwch y cartref. Fe wnaethon nhw ymweld â chartref Jane a gosod synwyryddion mwg a charbon monocsid.

Hybodd Cerys Jane i ofyn am ddosbarth cryfder a chydbwysedd yn y ganolfan hamdden leol er mwyn hybu ei hyder hyd yn oed yn fwy.

Trefnodd Cerys i fenyw arall roedd hi wedi bod yn cefnogi am resymau tebyg i gwrdd er mwyn cyflwyno ei gilydd, â chaniatâd. Roedd y ddwy ohonynt yn mwynhau celf a dysgu wrth ei gilydd. Ar ôl sefydlu grŵp yn eu cartref, maent yn cwrdd unwaith neu ddwywaith yr wythnos. Maent yn ystyried mynd i ddosbarth cryfder a chydbwysedd gyda’i gilydd a mynd i glwb cinio wedi hynny.

Mae lles, hapusrwydd a hyder Jane i gyd wedi cynyddu gan nad yw’n orbryderus o adael ei chartref bellach.

* Mae enwau wedi cael eu newid i ddiogelu anhysbysrwydd

Stori Jonathan

Mae Jonathan* yn rhiant sengl sydd â dau blentyn. Mae e’n derbyn triniaeth reolaidd ar gyfer cyflwr meddygol hir dymor sydd yn effeithio ar ei iechyd corfforol a meddyliol. Roedd gan Jonathan broblem â chronni (hoarding) eitemau. O ganlyniad, roedd y cartref yn anniben ac yn anodd rheoli.

Roedd Jonathan yn orbryderus ac yn isel iawn; roedd e wedi ei lethu gan yr annibendod a doedd e ddim yn gallu ffocysu ar ei lanhau. Doedd gan ei fab – Emyr – ddim ffrindiau i chwarae gyda gan roedd gormod o gywilydd arno i gael ffrindiau i ddod i’r tŷ. Roedd Emyr hefyd yn dangos ymlyniad anarferol o gryf tuag at ei deganau ac roedd yn anfodlon i’w tacluso neu adael fynd o hen rai nad oeddent yn briodol ar gyfer ei oedran mwyach.

Doedd Jonathan ddim yn gallu glanhau yn effeithiol a doedd dim digon o le diogel i’r plentyn iau – Carys – i gropian a cherdded. Cafodd y cartref sgôr uchel o risg mewn gwiriadau diogelwch tân yn bennaf oherwydd y gormodedd o eitemau fflamadwy a ffyrdd dianc wedi eu blocio.

Roedd yr eiddo mewn lleoliad ynysig ac yn anodd cyrraedd. Doedd y teulu ddim wedi sefydlu yno ac roeddent eisiau symud.

Beth oedd Jonathan eisiau

Roedd Jonathan eisiau cael gwared ar yr annibendod ac i gael amgylchedd mwy minimalaidd.

Roedd e eisiau clirio ei ddyled a chymryd ei deulu ar wyliau trwy werthu eitemau doedd e ddim eu hangen rhagor. Roedd e hefyd eisiau rhoi rhai eitemau i elusennau neu i bobl oedd eu hangen.

Roedd Jonathan hefyd eisiau cefnogaeth i gael cartref mwy addas.

Camau tuag at newid

Gwnaethpwyd cais am Gefnogaeth Cysylltwr Cymunedol gan ymwelydd iechyd teuluol.

Cysylltwraig Cymunedol yw Buddug a weithiodd mewn partneriaeth gyda Jonathan a’i deulu gyda’r bwriad o ymchwilio a chyflawni’r canlyniadau positif roeddent eisiau gwneud.

Fe weithiodd hi gyda Jonathan i drefnu ymweliad gan Swyddog Gwasanaethau Amgylcheddol i weld pa effaith roedd y cronni yn cael ar y tŷ. Gwnaethpwyd ymweliad ar y cyd gyda’r Gwasanaeth Tân i atgyfnerthu negeseuon iechyd pwysig. Fe wnaeth Buddug hefyd ymweld â mam Jonathan i’w chynnwys hi yn y cynllun i’w helpu.

Trefnodd Buddug i Emyr fynychu rhaglen diogelwch tân yn yr orsaf dân lleol i atgyfnerthu negeseuon diogelwch pwysig o safbwynt plentyn.

Dechreuodd Jonathan dacluso gan ddefnyddio canolfan gymunedol leol fel safle i gadw eitemau ar gyfer gwerthu, i roi eitemau doedd e ddim eisiau i elusen ac i fynychu gweithgareddau crefft. Fe wnaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol hefyd helpu Jonathan i gael gwared ar rai eitemau. Cafodd Jonathan gymorth yn y cychwyn i ddatblygu rhestr o waith tŷ addas ar gyfer Emyr, ond maent nawr yn gwneud y gwaith tŷ gyda’i gilydd.

Fe wnaeth Buddug gefnogi Jonathan i fynychu rhaglen lles fer wedi ei gynnal gan elusen iechyd meddwl. Fe wnaeth Buddug helpu Jonathan i ymweld â chanolfan gymunedol ble cafodd hyfforddiant ac mae e nawr yn gwirfoddoli yno.

Trefnodd Buddug i weithiwr Gwasanaethau Tai i gefnogi’r teulu i edrych mewn i opsiynau tai arall a oedd yn fwy addas i’w hanghenion.

Fe wnaeth Buddug gyflwyno Emyr i’r Prosiect Gofalwyr Ifanc a oedd yn cynnig cefnogaeth ymarferol ac emosiynol. Fe wnaeth e gwrdd â rhwydwaith newydd o ffrindiau trwy ei gyfranogiad yn y grŵp cefnogaeth gofalwyr ifanc.

Fe wnaeth cefnogaeth ddwys orffen ar ôl gweld gwelliant ym mhob maes a oedd yn peri gofid. Roedd y rhain yn cynnwys pryderon am fod yn rhiant, teulu, diogelwch yn y cartref a datblygiad plant. Gwahoddwyd Jonathan i barhau i fynychu gweithdai a gweithgareddau yn y ganolfan.