Daw 2 miliwn o bobl yn ofalwyr bob blwyddyn, felly'r peth cyntaf i chi gofio yw nad ydych ar eich pen eich hun! Mae'n bwysig i chi gydnabod eich bod yn ofalwr. Nid yw llawer o bobl yn ystyried eu bod yn ofalwyr.

Mae Gofalwyr yn darparu gofal di-dâl drwy edrych ar ôl perthynas, ffrind neu bartner sy'n sâl, yn fregus neu'n anabl.

Os ydych yn ŵr, yn wraig, yn fab neu ferch, yn gyfaill neu'n gymydog, os ydych chi'n darparu gofal di-dâl i gyfaill neu rywun annwyl, mae gofyn i chi gydnabod eich bod yn ofalwr er mwyn i chi gael y gofal a'r cymorth angenrheidiol.

Dyma ambell i air o gyngor i'ch helpu wrth fynd i'r afael â'ch swyddogaeth newydd:

1) Gadewch i rywun wybod

Peidiwch â cheisio ymdopi ar eich pen eich hunan. Rhowch wybod i'ch teulu a'ch ffrindiau er mwyn iddynt fod yn ymwybodol o'ch cyfrifoldebau a'ch baich gwaith ychwanegol.

Rhowch wybod i'ch meddyg teulu eich bod yn darparu gofal sylweddol; efallai y gallant roi archwiliad iechyd rheolaidd i chi.

2) Siaradwch â'r Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi cymorth i bobl sâl neu anabl, a'u gofalwyr. Os ydych yn ofalwr gallwch ofyn am Asesiad Gofalwr a fydd yn nodi unrhyw wasanaethau y gallech elwa arnynt. Gall y Gwasanaethau Cymdeithasol ddarparu amrywiaeth o wybodaeth ac addasiadau sydd wedi'u llunio i wneud eich bywyd yn haws.

3) Gofal a Gwaith

Efallai y dylech ystyried rhoi gwybod i'ch cyflogwr ynglŷn â'ch swyddogaeth newydd fel gofalwr. Mae'n bosib y gallech fanteisio ar gymorth neu drefniadau gweithio hyblyg sydd eisoes ar gael. Gall pethau bach fel cael mynediad at ffôn neu fedru parcio yn agos i'ch lle gwaith fod o gymorth mawr wrth dawelu'ch meddwl.

4) Holwch pa fudd-daliadau y gallwch eu hawlio

Os ydych wedi rhoi'r gorau i weithio er mwyn gofalu'n llawn amser, gallech fod yn gymwys i dderbyn budd-daliadau. Os ydych eisoes yn derbyn budd-daliadau, efallai nad ydych yn sicr eich bod yn derbyn popeth y gallech ei hawlio. Mae'r system fudd-daliadau yn gallu bod yn ddigon dyrys, felly gallai fod o fudd i chi holi am gyngor a chael archwiliad budd-daliadau.

Mae Cyngor ar Bopeth yn cynorthwyo pobl yn hyn o beth. Os oes gennych ddiddordeb mewn cael archwiliad budd-daliadau cysylltwch â Canolfan Cyngor ar Bopeth

Aberteifi: 01239 613707
Aberystwyth: 01970 612817

Rhiant neu'n gofalu am blentyn gydag anabledd?

Ymgyrch gwneud cais am fudd-daliadau i blant anabl

5) Ceisiwch gymorth

Ceir grwpiau cymorth i ofalwyr yn lleol sy'n darparu gwybodaeth a hyfforddiant ac yn cynnig gweithgareddau hamdden a chyswllt cymdeithasol â gofalwyr eraill. Efallai mai dim ond clust i wrando am awr sydd angen arnoch. Gallwch drefnu cyfarfod personol â gweithiwr cymorth, neu gael cymorth dros y ffôn. Hefyd, cynhelir cyfarfodydd cymorth i ofalwyr bob mis yng Ngheredigion.

6) Gofalwch am eich hunan

Mae'n bwysig eich bod yn gofalu amdano'ch hunan nawr fod gennych gyfrifoldebau gofalu. Gall gofalu achosi blinder a straen, ac oherwydd natur ymdrechgar gwaith gofalu, mae llawer o bobl yn cael anawsterau iechyd os nad ydynt yn ofalus. Mae'n bwysig i chi roi amser o'r neilltu i hamddena a chael seibiant. Mae cyrsiau hyfforddiant i ofalwyr ar gael a fydd yn dysgu technegau gwahanol i chi er mwyn hwyluso'r gwaith gofalu.