Cydweithio gyda theuluoedd

Tîm bach ydym o Weithwyr Teuluol medrus sy'n gweithio gyda rhieni a Gofalwyr di-dâl er mwyn ailddatblygu cydnerthedd a hunanddibyniaeth teulu. Byddwn yn gwneud hyn trwy gynorthwyo rhieni i gryfhau eu lles eu hunain a dysgu sgiliau newydd er mwyn ymdopi.

Rydym yn strwythuro cynlluniau gyda theuluoedd gan ddefnyddio Arwyddion Diogelwch a Lles, sy'n helpu i nodi datrysiadau posibl yn hytrach na chanolbwyntio ar broblemau. Mae hyn yn cynorthwyo aelodau teuluol i nodi a gweithredu'r camau y byddant yn cyflawni eu nodau nhw.

Gall y gwasanaethau a gynigir helpu oedolion i ailsefydlu eu rolau a'u patrymau teuluol, gan ddarparu hyfforddiant ynghylch technegau rhianta cadarnhaol, nodi a rhoi llais i ddymuniadau a theimladau pob unigolyn, yn enwedig rhai y plant yn y teulu, helpu i ymgysylltu gyda gweithgareddau cymdeithasol a chymunedol a chynorthwyo rhieni a gofalwyr i ailddatblygu presenoldeb, lles a chydnerthedd rhieni unigol trwy gyfrwng gwaith grŵp.

Rydym yn darparu rhaglenni rhieni cydnabyddedig ac sy'n cael eu gwerthuso, gan gynnwys;

  • Rhaglen Maethu; mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Family Links (Saesneg yn unig)
  • Rhaglen y Blynyddoedd Rhyfeddol; mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Incredible Years (Saesneg yn unig)
  • Rhaglen Take 3 (Meithrin, Strwythur, Hunanofal); mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Take 3 Parenting (Saesneg yn unig)

Yn ogystal, rydym yn cynnig gweminarau megis Rhoi'r bai ar yr Ymennydd, Rhoi'r bai ar yr Ymennydd ar gyfer Tadau a gweminar Diogelwch a Chwarae Gemau Ar-lein er mwyn cynorthwyo dealltwriaeth o ddatblygiad pobl ifanc, a chryfhau sgiliau a strategaethau er mwyn rheoli elfennau agored i niwed mewn perthynas ag iechyd rhywiol, sylweddau a pherthnasoedd. Gellir darparu'r rhaglenni hyn yn unigol pan fydd rhieni yn ei chael hi'n anodd ymgysylltu mewn lleoliadau eraill efallai, neu mewn grwpiau os bydd yn well gan rieni ddysgu yng nghwmni eraill.

Yn ogystal, mae Tîm Teulu yn cydweithio'n agos gyda Chydlynwyr Tîm o Amgylch y Teulu er mwyn cynnig cymorth gan gymheiriaid mewn grwpiau bychain gan gynnwys Gofidio am eich Plentyn yn eu Harddegau a Meithrin Plant yn eu Harddegau sy'n Gydnerth ar lefel Emosiynol ar gyfer rhieni y mae ganddynt bryderon am faterion megis plentyn yn cam-drin rhiant, ymddygiad gwrthgymdeithasol, camddefnyddio sylweddau, hunan-niwed neu gamfanteisio rhywiol. Estynnir gwahoddiad i rieni ymuno â gweithwyr proffesiynol o wasanaethau partner dros bedair sesiwn wythnosol er mwyn rhannu eu gwybodaeth a chyd-greu ffyrdd o gydweithio fel oedolion er mwyn cynnal diogelwch pobl ifanc. Mae hyn yn helpu rhieni i wella'u lles eu hunain ac mae'n eu hannog i gyflawni rôl rhagweithiol wrth drafod risgiau gyda'u plant.

Logo y ganolfan teulu penparcau

Mae Canolfan Deuluoedd Penparcau yn hyrwyddo cysylltiadau a pherthnasoedd cadarnhaol rhwng rhieni a'u plant trwy greu profiadau chwareus a chymorth cadarnhaol yn ôl yr angen. Ar hyn o bryd, rydym yn cynnal ystod eang o grwpiau a chyrsiau ar-lein diogel a hwyliog. Cyflenwir deunyddiau ac adnoddau ar gyfer pob cwrs er mwyn dwyn y Ganolfan Deuluoedd i'ch cartref. Rydym yn deall bod rhianta yn gallu bod yn brofiad heriol ar brydiau, heb sôn am yn ystod pandemig! Gan ystyried hyn, mae ein grwpiau a'n cyrsiau yn rhai byr a hawdd manteisio arnynt, ac maent yn cael eu teilwra i anghenion pob grŵp.

Mae Grŵp Rhieni Ifanc Penparcau yn grŵp gweithgarwch misol rhith ar gyfer rhieni ifanc dan 25 oed. Rydym yn cynorthwyo eich lles fel person ifanc yn ogystal ag fel rhiant ac mae ein sesiynau yn llawn hwyl a chwarae creadigol, wrth ddysgu sut i dyfu fel rhiant.

Mae Stori a Sbri yn seiliedig ar Iaith a Chwarae ac mae'n cynnig lle rheolaidd i rieni/gofalwyr a'u plant 0-3 oed er mwyn cynorthwyo eu cyfathrebu, eu hiaith a'u llythrennedd trwy chwarae.

Mae Tylino Babanod yn rhaglen grŵp saith wythnos i hyrwyddo rhyngweithio, cyswllt ac ymlyniad rhwng babanod a rhieni, ynghyd â gallu rhieni i ddarllen ciwiau eu babanod trwy ddefnyddio tylino.

Mae Neilltuo Amser i Chi yn grŵp rhith ar ffurf chwe sesiwn i rieni plant 5-8 oed, sy'n ceisio cryfhau lles rhieni gan ddefnyddio technegau fel gosod nodau, ymwybyddiaeth ofalgar ac ymlacio.

Mae Grobrain yn rhaglen un i un dros bum wythnos sy'n ystyried iechyd meddwl babanod gyda rhieni babanod o'r cyfnod cyn genedigaeth nes byddant yn 3 oed, a sut y mae perthnasoedd cynnar yn siapio'r ymennydd sy'n datblygu. Ewch i wefan Grobrain (Saesneg yn unig) i gael mwy o wybodaeth.

Yn ychwanegol i'n grwpiau a'n cyrsiau, mae Canolfan Deuluoedd Penparcau yn cynnig cymorth un-i-un wedi'i deilwra ar gyfer teuluoedd yn yr ardal, ar y cyd â Thîm Teulu.

Rhieni Hapus, Plant Hapus = Teulu Hapus.

Rydym yn sicrhau bod gwybodaeth fanwl a'r wybodaeth ddiweddaraf ar gael bob amser er mwyn galluogi teuluoedd i wneud dewisiadau gwybodus ac i fod yn ymwybodol o'r holl wasanaethau sydd ar gael iddynt.

Hysbysiad Preifatrwydd:

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n tudalen Hysbysiad Preifatrwydd.

Sut allaf i fanteisio ar gymorth Tîm Teulu?

Llenwch y ffurflen Cais am Gymorth isod neu cysylltwch â ni i ofyn am gopi papur trwy'r post.

Ffurflen Cais am Gymorth

Hysbysiad cymorth er mwyn manteisio ar gymorth ar-lein:

E-bost: timteulu@ceredigion.gov.uk
Ffôn: 01545 572649

Manylion Cyswllt:

Tim Teulu
Canolfan Deuluoedd Penparcau
105-106, Heol Tyn Y Fron
Penparcau
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3YP

  • A fyddech gystal â sicrhau bod eich teulu yn byw yng Ngheredigion
  • Eich bod wedi llofnodi eich bod yn rhoi eich caniatâd gwybodus i'r cam o rannu eich gwybodaeth bersonol gyda ni a'n hasiantaethau partner
  • Y byddwch wedi dechrau penderfynu pa feysydd yr hoffech gael cymorth gyda nhw