Ymunwch â'r Gofrestr Plant ag Anabledd

Os oes gennych blentyn ag anabledd (0 – 18 oed) efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi ychwanegu eich manylion at gofrestr Plant ag Anabledd Ceredigion.

Mae'r gofrestr yn gofrestr wirfoddol o blant ag anableddau y mae'n rhaid i bob cyngor ei darparu a'i chadw'n gyfredol. Mae'n rhad ac am ddim i ymuno ond gallwch ddewis os hoffech gael eich cynnwys.

Bydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei ychwanegu at ein rhestr bostio a byddwch yn derbyn diweddariadau rheolaidd am wybodaeth a allai fod o ddiddordeb i chi gan gynnwys grwpiau sy’n cael eu cynnal yn lleol.

Sut mae'r Gofrestr Plant ag Anabledd yn gweithio

Mae'r gofrestr yn gronfa ddata ddiogel o enwau, cyfeiriadau a manylion eraill ein plant a phobl ifanc anabl lleol (0 -18 oed) sy'n byw yng Ngheredigion.

Nid yw cofrestru ar y gofrestr yn gysylltiedig mewn unrhyw ffordd â gwneud cais am unrhyw fudd-dal neu gymorth arall.

Efallai y byddwch am gofrestru ar y gofrestr os oes gan eich plentyn anghenion gofal ychwanegol. Gall hyn fod oherwydd bod ganddynt:

  • Anhawster corfforol
  • Anhawster dysgu
  • Nam synhwyraidd neu gyfathrebu
  • Anabledd sy'n achosi ymddygiad heriol yn yr ysgol neu'r cartref
  • Anghenion Iechyd Cymhleth
  • Cyflwr sy'n anablu sydd angen triniaeth dros gyfnod hir

Nid oes rhaid i chi gofrestru ar y gofrestr. Fodd bynnag, os byddwch yn gwneud hynny byddwch yn derbyn Gwybodaeth am weithgareddau, cynlluniau chwarae, cymorth i ofalwyr a datblygiadau gwasanaeth eraill.

Bydd enw eich plentyn yn cael ei dynnu oddi ar y gofrestr yn awtomatig pan fydd yn 18 oed.

Sut i wneud cais i'r gofrestr

Cliciwch ar y ddolen isod i gofrestru manylion eich plentyn.

Cofrestr Plant ag Anabledd

Os nad ydych yn gallu cyrchu'r ddolen, cysylltwch â Clic, ein Canolfan Gyswllt gofal cymdeithasol, ar 01545 574000.