Yng Ngheredigion, mae ystod eang o wasanaethau ar gael i helpu pobl sydd â nam synhwyraidd i fod mor annibynnol ag y bo modd a rheoli eu bywydau eu hunain gymaint ag y bo modd.

Nam synhwyraidd yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio anableddau fel:

  • Dallineb/Nam ar y Golwg
  • Byddardod/Colli eich Clyw
  • Dallineb byddar (Colled Golwg a Chlyw)

Os mai dyma’r tro cyntaf i chi sylwi ar nam ar eich golwg neu’ch clyw, argymhellwn yn gryf i chi gysylltu a’ch Meddyg. Mae’n bwysig eich bod yn cael y diagnosis a’r driniaeth gywir ar gyfer eich cyflwr.

Os oes gennych nam ar eich golwg sy'n effeithio ar eich bywyd o ddydd i ddydd, gall Gofal Cymdeithasol roi asesiad o'ch anghenion a gweithio gyda chi, gan eich helpu i fod mor annibynnol â phosibl. Efallai y byddwn yn gallu cynnig y gwasanaethau canlynol yn dibynnu ar eich anghenion a aseswyd:

  • Swyddog Adsefydlu – mae hwn/hon wedi cael hyfforddiant arbennig ym maes nam synhwyraidd ac mae’n gweithio gyda phobl o bob oedran sy’n dioddef problemau gyda’u golwg. Mae’n cynnal asesiadau arbenigol ac yn darparu gwybodaeth, cyngor ac adsefydlu i bobl sydd wedi colli eu golwg
  • Hyfforddiant Symudedd – gallwn ddarparu hyfforddiant i chi i’ch helpu i symud o gwmpas yn fwy diogel ac yn fwy annibynnol, y tu mewn ac yn yr awyr agored
  • Cymhorthion Golwg Gwael – gellir rhoi cyngor i chi ar gymhorthion sydd ar gael i’w prynu fel chwyddwydrau a setiau teledu cylch cyfyng ar gyfer darllen ac ati.  Efallai y bydd y gweithiwr yn gallu dangos rhywfaint o offer gyda chi cyn prynu
  • Hyfforddiant a Chymhorthion Cyfathrebu – gallwn eich helpu i ymestyn eich sgiliau cyfathrebu presennol a rhoi cyngor am gymhorthion fel ffonau sy’n cynnwys botymau mawr a phennau ysgrifennu sy’n amlwg i’w gweld
  • Llyfrau a Phapurau Newydd Llafar – gallwn drefnu bod y rhain yn cael eu dosbarthu i chi
  • Benthyca Offer – gellir benthyca rhai eitemau o offer am ddim.  Mae angen bodloni meini prawf cymhwysedd er mwyn cael gafael ar yr offer hwn - gall y gweithiwr drafod hyn gyda chi yn ystod yr asesiad
  • Budd-daliadau Ariannol – gallwn roi cyngor i chi am fudd-daliadau perthnasol hefyd a sut i wneud cais amdanynt. Mae gan R.N.I.B. (Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall) linell gymorth genedlaethol hefyd a all ddarparu cyngor - Ffôn 0303 1239999
  • Cofrestru rhywun sydd â Nam ar ei Golwg neu nam difrifol ar ei Golwg - Os nad ydych wedi cael eich cofrestru fel rhywun sydd â Nam ar ei Golwg neu nam difrifol ar ei Golwg, ond rydych yn pryderu am eich golwg, dylech drafod hyn gyda’ch Meddyg Teulu neu’ch Arbenigwr llygaid

Os oes gennych nam ar y clyw sy'n effeithio ar eich bywyd o ddydd i ddydd, gall Gofal Cymdeithasol roi asesiad o'ch anghenion a gweithio gyda chi, gan eich helpu i fod mor annibynnol â phosibl. Efallai y bydd y gwefannau canlynol yn ddefnyddiol i chi hefyd:

 

Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw – Cefnogi pobl sy'n fyddar, sydd wedi colli eu clyw neu sydd â thinitws

Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw - Elusen genedlaethol colli clyw

 

DeafBlind UK – helpu pobl sydd wedi colli eu golwg a’u clyw

Deafblind UK | Cefnogi Dallfyddardod yn y DU

 

Sense – helpu pobl sy’n ddall fyddar neu sydd ag anableddau cymhleth i gyfathrebu, profi’r byd a chyflawni eu potensial

Sense | Ar gyfer pobl ag anableddau cymhleth

 

Hearing Direct – yn darparu cymhorthion clyw ac ategolion clyw

www.hearingdirect.com

 

Cyngor Cymru i Bobl Fyddar – sefydliad gwirfoddol cenedlaethol ar gyfer pobl sy'n Fyddar, wedi'u byddaru, yn drwm eu clyw ac yn Ddall fyddar yng Nghymru

Cyngor Cymru i Bobl Fyddar - Cefnogi Pobl sydd wedi Colli Clyw (wcdeaf.org.uk)