Bydd un o wyliau diwylliannol mwyaf Ewrop yn dod i Geredigion ym mis Awst 2022. Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Nhregaron rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst 2022.

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn ddathliad o ddiwylliant Cymru, yn gymysgedd o gystadlaethau talent a chyngherddau gyda'r nos, gigs, dramâu ac arddangosfeydd; ac yn y prif bafiliwn cynhelir seremonïau lliwgar ac unigryw yr orsedd.

Dewch i ddysgu mwy am yr eisteddfod trwy ddarllen Canllaw yr Eisteddfod.

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan yr Eisteddfod.

Tra bo'r Eisteddfod yn cael ei chynnal yng Ngheredigion, beth am ymweld â rhai o'n trefi hardd, ein harfordir a'n hardaloedd gwledig?

Gwyliwch y fideo hwn i ddod i adnabod ein sir:

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Darganfod Ceredigion.

Pum ffaith am Dregaron:

  • Tref farchnad yw Tregaron, ac mae marchnad da byw yn parhau yn y dref hyd heddiw
  • Enw’r afon sy’n llifo trwy’r dref yw Afon Brenig
  • Mae eglwys a chapel yn y dref, sef Eglwys Sant Caron a Chapel Bwlchgwynt
  • Mae cofeb ar y sgwâr i'r Apostol Heddwch, Henry Richard
  • Roedd Tregaron yn rhan bwysig o lwybr y porthmyn ac agorwyd Banc Aberystwyth a Thregaron yn 1810 i ddosbarthu ei bapurau banc ei hun. Byddai nifer y defaid du ar y papurau banc yn dangos eu gwerth. Os hoffech chi weld y papurau banc gwreiddiol, galwch heibio i Amgueddfa Ceredigion

Darllenwch fwy am hanes yr ardal ar wefan Darganfod Ceredigion.

Mae nifer o Eisteddfodau mawr a bach yn cael eu cynnal ledled y sir.

Yr Arglwydd Rhys, tywysog y Deheubarth, oedd y cyntaf i gynnal eisteddfod pan gasglodd feirdd a cherddorion ynghyd yn ei gastell newydd yn Aberteifi yn 1176 i gystadlu i weld pwy oedd y gorau. Heddiw, mae cystadleuwyr o bob oed yn cadw traddodiad yr eisteddfod yn fyw ledled Ceredigion.

Darllenwch fwy am draddodiad Eisteddfodol Ceredigion ar wefan Darganfod Ceredigion.

Croeso i Bentre’ Ceredigion.

Dyma gartref Cyngor Sir Ceredigion ar faes yr Eisteddfod.

Eleni, mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn cael ei chynnal yng Ngheredigion, ac yn ardal Pentre’ Ceredigion fe gewch flas o’r sir yn ei holl ogoniant.

Mae gennym ardal chwarae helaeth i blant a phobl ifanc, ardal werdd i ymlacio ac edmygu byd natur, ynghyd â llwyfan perfformio ‘Llwyfan-ni’ yn llawn dop o ddigwyddiadau a pherfformiadau cyffrous.

Mae yna hefyd gytiau pren lle byddwn yn cefnogi busnesau bach o’r sir trwy gydol yr wythnos, ac yn y prif adeilad bydd amryw o ddigwyddiadau, sgyrsiau a gweithdai yn cael eu cynnal i ddathlu Ceredigion fel y lle delfrydol i fyw, perthyn, dysgu a llwyddo.

Cofiwch alw heibio. Welwn ni chi yna.

Mae amserlen Pentre’ Ceredigion i'w gweld islaw:

Amserlen Pentre' Ceredigion

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau ar wefan yr Eisteddfod.

Amserlenni Eisteddfod 2022