Ar 25 Ebrill 2013 mabwysiadodd Cyngor Sir Ceredigion y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl). Mae'n disodli Cynllun Fframwaith Dyfed a'r Cynllun Datblygu Unedol.

Nid yw'r Cynllun Datblygu Lleol yn neilltuo tai ar gyfer pob anheddiad. Yn y CDLl mae aneddiadau Ceredigion wedi eu rhannu'n 4 categori:

  1. Canolfannau Gwasanaeth Trefol: sef Aberaeron (Llwyncelyn) Aberystwyth, Aberteifi, Llanbedr Pont Steffan, Tregaron, Llandysul, Castellnewydd Emlyn / Adpar
  2. Canolfannau Gwasanaeth Gwledig: sef aneddiadau gweddol fawr megis Aberporth/Parc-llyn, Llan-non a Thal-y-bont (gweler rhestr Aneddiadau CDLl)
  3. Aneddiadau Cyswllt: sef 91 o aneddiadau sydd wedi eu diffinio at ddibenion y CDLl ac sydd wedi eu cysylltu (at ddibenion polisi cynllunio) ag un o'r Canolfannau Gwasanaethau Trefol neu Wledig.
  4. Lleoliadau Eraill – mae'r rheiny oll yn aneddiadau, yn bentrefannau ac yn ardaloedd daearyddol nad ydynt wedi eu henwi na'u diffinio'n benodol fel Canolfannau Gwasanaethau (Trefol neu Wledig) nac yn Aneddiadau Cyswllt at ddibenion y CDLl (hynny yw, nid ydynt wedi eu henwi ar restr Aneddiadau CDLl).

Mae'r Sir wedi ei rhannu'n ddaearyddol yn 22 o Grwpiau Aneddiadau at ddibenion y CDLl. Mae pob un o'r grwpiau aneddiadau'n cynnwys Canolfan Gwasanaethau Trefol neu Ganolfan Gwasanaethau Gwledig, Aneddiadau Cyswllt a Lleoliadau Eraill. Gyda'i gilydd mae gan bob un o'r Grwpiau Aneddiadau nifer o unedau tai a allai gael eu codi yn ystod cyfnod y cynllun (2007 -2022). Byddai'n rhaid codi'r rhan fwyaf o'r datblygiadau hyn o fewn y Canolfannau Gwasanaethau Trefol neu Wledig yn unol â'r Strategaeth.

Strategaeth y Cynllun Datblygu Lleol yw y bydd 51% o'r datblygiadau tai newydd ledled y sir dros gyfnod y cynllun yn digwydd mewn Canolfannau Gwasanaethau Trefol, 24% yn y Canolfannau Gwasanaethau Gwledig a 25% yn yr Aneddiadau Cyswllt a Lleoliadau Eraill. Mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn gosod rhaniad canrannol ar gyfer pob un o'r Grwpiau Aneddiadau ymhlith y Canolfannau Gwasanaethau a'r Aneddiadau Cyswllt a'r Lleoliadau Eraill er mwyn cyrraedd targed y Sir sef 51%:24%:25%. Bydd rhaniad % y Grwpiau Aneddiadau'n amrywio o'r naill Grŵp i'r llall.

Felly, byddai angen codi'r rhan fwyaf o'r datblygiadau tai yn y Canolfannau Gwasanaethau Trefol neu Wledig yn unol â'r Strategaeth.

Darperir datganiad misol o'r sefyllfa ar y wefan ynghylch y canlynol:

Pob lleoliad (gan gynnwys Aneddiadau Cyswllt):

  • Ffigur A: Ffigurau Tai'r CDLl: mae'r ddogfen hon yn manylu ynghylch yr ymrwymiadau (caniatadau sydd heb eu gweithredu ac sydd wedi eu cwblhau) yn ôl Grwpiau Aneddiadau, Canolfannau Gwasanaethau a'r 'Aneddiadau Cyswllt a Lleoliadau Eraill' o fis Ebrill 2007 ymlaen hyd at ddiwedd y mis blaenorol (Polisïau S01-S04)
  • Ffigur B: Ffigurau Tai'r CDLl (graffiau): mae'r ddogfen hon yn darlunio'r ymrwymiadau o ran lle mae'r ymrwymiadau hynny arni ar ddiwedd y mis blaenorol o'i gymharu â lle y mae'r CDLl yn darogan y dylai'r ymrwymiadau fod arni er mwyn cyflawni Strategaeth y CDLl erbyn diwedd cyfnod y Cynllun (2022) (Polisïau S01-S04)

Defnyddir dogfennau A a B uchod i benderfynu ynghylch pob cais cynllunio sy'n ymwneud a thai (gan gynnwys yr Aneddiadau Cyswllt). Caiff y dogfennau eu diweddaru'n fisol ac o'r herwydd gall y ffigurau amrywio o'r naill fis i'r llall.

Yr Aneddiadau Cyswllt yn Unig:

  • Ffigur C: Ffigurau Tai'r CDLl yn yr Aneddiadau Cyswllt: mae'r ddogfen hon yn rhestru'r holl ymrwymiadau yn yr Aneddiadau Cyswllt sydd wedi ei henwi hyd at drothwy (12%) a allai fod yn dderbyniol (yn amodol ar gyflawni rhannau eraill o Bolisi S01 ac S04) yn seiliedig ar nifer y tai yn yr anheddiad yn 2007. Defnyddir y ddogfen hon i benderfynu a yw'r cynigion yn unol â Pholisi S04.
  • Ffigur D: Ffigurau Tai Treigl 5 mlynedd y CDLl ar gyfer Aneddiadau Cyswllt: mae'r ddogfen hon yn gosod ffigurau ar gyfer Aneddiadau Cyswllt o ran y gyfradd ddatblygu uchaf (4%) a allai fod yn dderbyniol (yn amodol ar gyflawni rhannau eraill o Bolisi S01 ac S04) mewn unrhyw gyfnod treigl 5 mlynedd (Polisïau S04 a DM01)

Defnyddir dogfennau C a D uchod ar gyfer datblygiadau mewn Aneddiadau Cyswllt yn unig a byddant yn ychwanegol at ddogfennau A a B yn yr amgylchiadau hynny.

I weld polisïau uchod y Cynllun Datblygu Lleol gweler yma.

Mae nifer y tai'n cael eu diweddaru'n barhaus ac mae'n bosibl y bydd y niferoedd yn amrywio rhywfaint o ddydd i ddydd. Os ydych am weld y ffigurau ar ddyddiad penodol cysylltwch â'r tîm polisi a chynllunio at y dyfodol ar ldp@ceredigion.gov.uk

I weld ffigurau'r mis blaenorol cysylltwch â'r Tîm Polisi Cynllunio ar ldp@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch: 01545 572123