Beth yw'r cyfnod ymgynghori Ychwanegol ynghylch Safleoedd Ymgeisiol?

Mewn paralel gyda'r ymgynghoriad ar y Strategaeth y Ffafrir ar gyfer CDLl2, mae'r cyngor yn cyflwyno ail wahoddiad i dirfeddianwyr gyflwyno manylion safleoedd ('Safleoedd Cais') ar gyfer ystyriaeth fel tir datblygu wedi'i ddyrannu yng nghyfnod nesaf y cynllun. Yn benodol byddai'r Cyngor yn croesawi safleoedd sy'n gysylltiedig i'r Canolfannau Gwasanaethau arfaethedig, wedi'u rhestru yn y Strategaeth y ffafrir.

Bydd modd cynnig Safleoedd Ymgeisiol at ddibenion posib megis: tai, cyflogaeth, manwerthu, hamdden, gwastraff, trafnidiaeth (e.e. safleoedd parcio a theithio), mannau agored, iechyd a chymuned. Dylid cynnig hyd yn oed y safleoedd hynny sydd wedi eu cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) oherwydd ni fydd modd eu trosglwyddo'n syth i'r CDLl newydd.

Yr hyn y bydd angen i chi ei wneud

Mae ffurflen wedi ei llunio i chi ei llanw a fydd yn rhoi cyfle i chi ddangos pam y dylid ystyried cynnwys y safle ymgeisiol. Mae nodyn cynghori i'w gael gyda'r ffurflen sy'n rhoi canllawiau ynglyn â sut mae llanw'r ffurflen a'r hyn a fydd yn digwydd unwaith y bydd wedi ei chyflwyno.

Candidate Site Guidance Notes June 2018

Candidate Site Questionnaire Consultation 2 June 2019

Candidate Site Methodology June 2018