Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol

Mae'r Awdurdod o'r blaen (2018) wedi gwahodd unrhyw un sydd â diddordeb mewn tir i gyflwyno safleoedd i'w hystyried i'w cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol. Cyhoeddir y safleoedd hyn yn y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol.

Mae'r safleoedd wedi cael Asesiad ac yn ei ddechrau yn nhermau defnydd ac agosrwydd at Ganolfannau Gwasanaethau, Aneddiadau Cyswllt Mwy ac Aneddiadau Cyswllt Cynaliadwy (mae'r mathau o Aneddiadau Cyswllt Mwy a Chynaliadwy yn gwyro oddi wrth CDLl1 ac nid ydynt eto wedi eu cytuno yn yr Archwiliad)

Asesir y Safleoedd Ymgeisiol, gan ddilyn y meini prawf a nodir yn y Fethodoleg Dadansoddi Safleoedd Ymgeisiol.

Bydd cynigwyr Safleoedd Ymgeisiol yn darganfod os mae ei safle wedi'i chynnwys yn y CDLl2 a'i peidio pan gyhoeddir drafft llawn o'r Cynllun (a elwir y Cynllun Adneuo).

Mae'r Safleoedd Ymgeisiol a gyflwynwyd yn 2018 hefyd ar gael i'w gweld ar Fapiau Ceredigion.

Ni fydd unrhyw sylwadau a dderbynnir ar safleoedd ymgeiswyr penodol yn cael eu trin fel rhan o broses ymgynghori'r Strategaeth a Ffefrir. Fodd bynnag, edrychir ar unrhyw sylwadau o'r fath wrth asesu safleoedd yn ddiweddarach.

Cofrestr Safleoedd Posib