Ceisiadau cynllunio a gyflwynwyd yng Ngheredigion a’r penderfyniadau

I ddod o hyd i geisiadau cynllunio sy’n ddilys o 5 Rhagfyr 2017 ymlaen defnyddiwch y teclyn chwilio:

Lansio’r Teclyn Chwilio

Dalier Sylw: Wrth chwilio ar-lein mae modd i’r cyhoedd weld yr wybodaeth ganlynol sy’n gysylltiedig â cheisiadau cynllunio a gyflwynwyd, tra bydd y drefn benderfynu’n mynd rhagddi: ffurflenni cais, cynlluniau, dogfennau ategol, arolygon, ymatebion gan ymgyngoreion statudol ac yn y blaen. Ni fydd modd gweld dogfennau sy’n cynnwys gwybodaeth feddygol neu ariannol. – Ar gyfer pob cais newydd sy’n ddilys o 5 Rhagfyr 2017 ymlaen, tra bydd y drefn benderfynu’n mynd rhagddi bydd modd mynd i’r porth cyhoeddus i weld llythyrau oddi wrth gymdogion gyda’r manylion cyswllt wedi’u cuddio.

Map Rhyngweithiol

Lansio’r Map Rhyngweithiol

Ceisiadau cyn 4 Rhagfyr 2017

Hen ffeiliau

Nid oes modd gweld ceisiadau cynllunio a ddaeth yn ddilys cyn 1 Hydref 2014 ar y wefan. Os hoffech chi ddod i’r swyddfa i weld unrhyw hen ffeiliau, anfonwch e-bost i planning@ceredigion.gov.uk gan gynnwys cyfeirnod y cais cynllunio dan sylw a’ch manylion cyswllt. Gallwch ddefnyddio’r map rhyngweithiol i ddod o hyd i gyfeirnodau ceisiadau cynllunio a wnaethpwyd ar ôl 1974. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynglŷn â cheisiadau cynllunio a wnaethpwyd cyn 1974, anfonwch e-bost i planning@ceredigion.gov.uk gan roi cymaint o fanylion ag y gallwch, gan gynnwys cynllun o’r safle, fel y gallwn ddod o hyd i’r wybodaeth ichi.

Gwybodaeth ychwanegol

Nid yw’r wybodaeth a ddarperir drwy’r wefan gynllunio yn rhoi hanes cyflawn ar gyfer unrhyw safle, ac ni ddylid ei drin fel petai’n gyfatebol i chwiliad pridiannau tir ffurfiol.

Hawlfraint

Diogelir cynlluniau a gyflwynir i’r Cyngor, darluniau ac unrhyw ddeunydd arall gan Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 (adran 47). Os byddwch chi’n lawrlwytho a/neu argraffu unrhyw ddeunydd o’r wefan ni allwch ond ei ddefnyddio at ddibenion ymgynghori, cymharu ceisiadau cyfredol â chynlluniau blaenorol, a gweld a gwblhawyd unrhyw ddatblygiad penodol yn unol â’r cynlluniau a gymeradwywyd. Ni chaniateir gwneud mwy o gopïau heb gydsyniad perchennog yr hawlfraint ymlaen llaw.

Angen gwneud taliad?

Taliad Ar-lein

Cysylltwch

Ein Ffurflen Cyswllt Ar-lein

Ffurflen Ar-lein