Mae'r adain gorfodaeth cynllunio yn ymchwilio i achosion posibl o dorri rheolau cynllunio, gyda'r nod o ddatrys y materion hynny drwy ddefnyddio'r dulliau neu'r gweithredoedd mwyaf priodol. Yr adain hon sy'n gyfrifol am orfodi'r rheolau yng nghyswllt pob mater cynllunio, gan gynnwys mwynau.

Mae Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 19990 yn diffinio torri rheolau cynllunio fel:-

"cyflawni datblygiad heb y caniatad cynllunio gofynnol, neu fethu cydymffurfio ag unrhyw amod neu gyfyngiad a osodwyd wrth roi caniatad cynllunio."

Enghreifftiau o dorri rheolau cynllunio:

  • Gwaith adeiladu, gweithrediadau peirianegol a newid defnydd materol a gyflawnir heb ganiatâd cynllunio, pan fo gofyn cael caniatad cynllunio.
  • Datblygiad sydd wedi cael caniatad cynllunio, ond nad ydyw'n cael ei gyflawni yn unol â'r cynlluniau cymeradwy.
  • Methu cydymffurfio ag amodau neu delerau'r cytundeb cyfreithiol sydd ynghlwm â chaniatad neu gydsyniad.
  • Hysbysebion y mae'n rhaid cael caniatad eglur ar eu cyfer dan y Rheoliadau Hysbysebu, ond sy'n cael eu harddangos heb ganiatâd*.
  • Dymchwel mewn ardal cadwraeth, heb gael caniatad ardal cadwraeth, pan fo hynny'n ofynnol *.
  • Gwaith a gyflawnir ar adeilad "rhestredig", sy'n effeithio ar ei gymeriad neu'i leoliad hanesyddol, heb gael caniatad adeilad rhestredig *.
  • Methu cydymffurfio â gofynion rhybudd cynllunio cyfreithiol, er enghraifft, rhybudd gorfodi, rhybudd tor parhad, rhybudd atal ac yn y blaen *.

*Mae'r eitemau hyn yn droseddau.

Ni fydd y Cyngor yn ymwneud â materion sydd ddim ond yn anghydfodau rhwng cymdogion, ac yn benodol, ni all y Cyngor ymwneud ag anghydfodau sydd a wnelo â ffiniau.

  • Bydd arnom angen lleoliad penodol y safle neu'r eiddo yr ydych yn cwyno amdano.
  • Union natur eich pryder, hynny yw, yr hyn sydd o bosibl yn torri rheolau cynllunio.
  • Fel y bo'n bosibl, enw'r unigolyn/sefydliad sy'n gyfrifol, a'r dyddiad a/neu amser pan ddechreuwyd torri'r rheolau.
  • A fyddech cystal â chwblhau Ffurflen Ymchwilio Cwyn a'i dychwelyd drwy'r post neu e-bost at y Swyddog Gorfodi

Byddwn yn dechrau ymchwilio i 80% o gwynion a dderbyniwyd ymhen 20 diwrnod gwaith ar ôl i ni gael ein hysbysu. Hysbysir yr achwynwyr hynny sydd gennym fanylion cyswllt ar eu cyfer o'r casgliadau cychwynnol o fewn 10 diwrnod yn dilyn ymchwiliad safle. Hefyd caiff llythyron yn nodi unrhyw ddatblygiadau eu hanfon at achwynwyr.

Gwneir pob ymdrech i gadw enw'r cwynwr yn gyfrinachol. Mewn sawl achos, y cwynwr gwreiddiol fydd un o swyddogion y Cyngor. Fodd bynnag, y bobl sy'n agos i'r safle lle'r honnir y torrwyd rheolau cynllunio sy'n rhoi'r dystiolaeth orau gan amlaf. Mewn achosion fel hyn, buasai amharodrwydd achwynwr i gael ei enwi ac i roi tystiolaeth yn debygol o gael effaith ddifrifol ar ganlyniad y cwyn.

Os hoffech wybod mwy am y Drefn Orfodaeth, ewch at y tudalennau ar y Drefn Orfodaeth yn y Porth Cynllunio.