Mae gan Gyngor Sir Ceredigion gyfrifoldeb i warchod, cadw a gwella’r amgylchedd naturiol wrth ystyried datblygiadau arfaethedig, ceisiadau cynllunio a newidiadau i ddefnydd tir. Mae amgylchedd naturiol gwych Ceredigion yn elfen hanfodol o gymeriad y sir a’I heconomi twristiaeth.

Mae deddfwriaeth Ewrop a’r Deyrnas Unedig, a chynlluniau cenedlaethol a lleol yn rhoi cyfrifoldebau ar yr ACLl sy’n cynnwys gwarchod Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop, rhywogaethau a warchodir gan y Deyrnas Unedig a Safleoedd. Mae’r lefel o warchodaeth sy’n cael ei rhoi i’r rhywogaethau a’r cynefinoedd hyn yn amrywio ond y mae’n ystyriaeth berthnasol y dylid ystyried eu gwarchodaeth ar bob cam o’r broses gynllunio a datblygu.

Mae Cynllun Datblygu Lleol Ceredigion (2007-2022) (CDLl) yn darparu polisïau lleol ar gyfer penderfynu ceisiadau datblygu yng Ngheredigion. Mae holl ethos y CDLl wedi'i seilio ar ddatblygu cynaliadwy sy'n cynnwys dull rhagweithiol yr ALl tuag at gael amgylchedd naturiol o safon uchel.

Mae sawl polisi yn gwneud cyfraniad at ddiogelu'r amgylchedd ond y prif bolisïau ar gyfer cadwraeth natur yw:

  • DM14: Cadwraeth Natur a Chysylltedd Ecolegol
  • DM15: Cadw Bioamrywiaeth Leol
  • DM16: Safleoedd Daearegol Pwysig Rhanbarthol

Mae polisïau CDLl perthnasol eraill yn cynnwys:

  • S01: Twf Cynaliadwy
  • DM06: Dylunio a Gwneud Lleoedd o Safon Uchel
  • DM10: Dylunio a Thirlunio
  • DM20: Gwarchod Coed, Gwrychoedd a Choetiroedd
  • DM22: Gwarchod a Gwella'r Amgylchedd yn Gyffredinol

Gan fod arolwg ac asesiad bioamrywiaeth yn ofyniad cenedlaethol o dan y broses 1APP, bydd ceisiadau heb arolwg ac asesiad bioamrywiaeth priodol (boed yn arfarniad ecolegol ychwynnol, arolwg ystlumod ac ati) sy'n gofyn am un, neu os yw'r adroddiad a gyflwynir yn argymell arolwg pellach ac nid yw wedi'i gwblhau, yn cael eu hannilysu yn y cam ymgeisio. Gall y cais gael ei annilysu hefyd yn dilyn y broses o ymgynghori ag Ecolegydd Cynllunio yr ALl os oes angen gwneud gwaith arolwg pellach neu os yw'r adroddiadau a gyflwynir yn annigonol.

Gorau po gynted y bydd datblygwyr/tirfeddianwyr yn cysylltu â'r ALl am gyngor oherwydd rhaid integreiddio ecoleg yn y datblygiad arfaethedig o'r cychwyn cyntaf er mwyn sicrhau'r effaith leiaf a bod y cyfleoedd mwyaf wedi cael eu cymryd i wella bywyd gwyllt. Bydd hyn hefyd yn lleihau'r oedi ar gyfer ceisiadau yn ystod y broses ymgeisio.

Mae'r dogfennau canlynol yn rhoi rhagor o wybodaeth am gynllunio ac ecoleg:

I gael mwy o wybodaeth am faterion ecolegol mewn perthynas â chynllunio a datblygu, cysylltwch â’r:

Ecolegydd Cynllunio
Neuadd y Sir
Aberaeron
SA46 0AT

ecoleg@ceredigion.llyw.cymru

01545 572147 / 07966018107

Golygfa o'r cefn gwlad