Mae'r dudalen hon yn darparu gwybodaeth am ganiatâd cynllunio a roddwyd am dyrbinau gwynt yng Ngheredigion. Cyflwynir yr wybodaeth i gynorthwyo ymgeiswyr yn y broses o wneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer rhagor o dyrbinau gwynt.

Cyflwynir data ceisiadau cynllunio Cyngor Sir Ceredigion fel data gofodol, a hynny o dan drwydded OpenData™ yr Arolwg Ordnans. Dilynwch y dolenni cyswllt isod i weld y data a'r drwydded. Os defnyddir y data bydd yn ofynnol cynnwys y datganiad isod ar unrhyw gopïau digidol neu bapur. Gan ddibynnu ar y math o ddefnydd a wneir, efallai y bydd yn rhaid rhoi cydnabyddiaeth bellach, yn unol â thelerau'r drwydded.

Yn cynnwys data'r Arolwg Ordnans © Hawlfraint y Goron a hawl cronfa ddata 2015

Gwnaethpwyd pob ymdrech i sicrhau fod yr wybodaeth a ddarperir yn gywir ac yn gyfredol. Fodd bynnag, nid yw'r Cyngor yn rhoi unrhyw warant fod yr wybodaeth yn gywir ac yn gyflawn. Byddwch yn defnyddio'r data yma ar eich menter eich hun. Os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth neu gymorth wrth ddefnyddio'r data, cysylltwch â gis@ceredigion.gov.uk.

Trwydded OpenData yr Arolwg Ordnans

Data (zip)