Fe ddaeth Storm Callum a llifogydd i nifer o ardaloedd yng Ngheredigion ac mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio yn rhan o’r Grŵp Adfer Llifogydd aml-asiantaeth i helpu yn dilyn y digwyddiad.

Iechyd Amgylcheddol

Mae Swyddogion Tai'r Cyngor o’r Tîm Lles Cymunedol yn ymweld ag eiddo sydd wedi cael eu heffeithio i ddarparu gwybodaeth a chyngor i ddeiliaid tai. Mae’ ymweliadau yma yn cynnwys adnabod deiliaid tai bregus, rhoi cyngor ar dai a materion yswiriant, penderfynu ar ba gefnogaeth bellach sydd angen tu hwnt i’r tymor byr yng nghyd â chyd-lynu cefnogaeth arall ble bod angen. Gellir eu cysylltu ar 01545 570881 a housing@ceredigion.gov.uk.

Mae gwaith glanhau wedi cychwyn. Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru gyngor i helpu gwneud hyn yn ddiogel: www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/page/94751

Casglu Eitemau Swmpus

Mae’r Cyngor wedi cychwyn casgliad gwastraff cartref swmpus yn rhad ac am ddim i gartrefi sydd wedi eu heffeithio gan lifogydd. I drefnu casgliad, dylid galw 01545 572572.