Os cysylltwyd â chi gan wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru, (POD) a chael gwybod bod rhaid hunanynysu, efallai bod gyda chi hawl i Gymorth Ariannol.
Os mae rhaid i’ch plentyn hunan-ynysu ac o ganlyniad mae’n rhaid i chi aros gartref, efallai bod gyda chi hawl i Gymorth Ariannol.
Taliad Cymorth Hunan-ynysu i chi
Os byddwch yn bodloni’r HOLL feini prawf cymhwysedd, mae gennych hawl i Daliad Hunan-ynysu o £500:
- Dywedwyd wrthych i hunan-ynysu gan Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru (POD) ar neu ar ôl 23 Hydref 2020
- Rydych chi’n gyflogedig neu’n hunangyflogedig
- Ni allwch weithio gartref a byddwch yn colli incwm o ganlyniad
- Rydych chi’n derbyn o leiaf un o’r budd-daliadau canlynol ar hyn o bryd: Credyd Cynhwysol, Credyd Treth Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n seiliedig ar incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai a/neu Bensiwn Credyd
- Byddwch cystal a nodi nad yw’r taliadau hyn ar gael i’r rheini sydd wedi’i cynghori i aros gartref gan ei bod yn eithriadol o agored i newid yn glinigol, gan ei bod wedi cael i gofyn i aros gartref gymaint a phosib, yn hytrach nag i hunanynysu. Dylai pobl o fewn y categori hwn sydd yn profi caledi ariannol wneud cais i’r Gronfa Gymorth Drwy Ddisgresiwn am gymorth i dalu am nwyddau hanfodol a biliau.
Taliad Cymorth Hunan-ynysu os yw plentyn yn Hunan-ynysu
Mae cymhwysedd bellach yn cael ei ymestyn i gynnwys rhieni a gofalwyr, felly os byddwch yn bodloni’r HOLL feini prawf cymhwysedd, mae gennych hawl i Daliad Hunan-ynysu o £500:
- Mae'r plentyn yn mynychu lleoliad gofal plant, ysgol neu coleg addysg bellach sy'n sefydlu hyd at a chan gynnwys Blwyddyn 8 (neu hyd at 25 oed os oes gan y dysgwr anghenion lluosog a chymhleth);
- Gofynnwyd i'r plentyn hunan-ynysu gan TTP neu gofynnwyd iddo hunan-ynysu am 10 diwrnod neu fwy gan lleoliad gofal plant yr ysgol neu'r coleg addysg bellach o ganlyniad i achos mewn ysgol, gofal plant neu leoliad addysg bellach;
Ac fel rhiant neu ofalwyr yr ydych yn bodloni meini prawf y prif gynllun, sef
- Rydych chi’n gyflogedig neu’n hunangyflogedig
- Ni allwch weithio gartref a byddwch yn colli incwm o ganlyniad
- Rydych chi’n derbyn o leiaf un o’r budd-daliadau canlynol ar hyn o bryd: Credyd Cynhwysol, Credyd Treth Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n seiliedig ar incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai a/neu Bensiwn Credyd
Taliadau Disgresiwn
Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i gael Taliad Disgresiwn o £500 os byddwch yn bodloni pob un o’r meini prawf cymhwysedd uchod, ond:
- Nid ydych yn derbyn Credyd Cynhwysol, Credyd Treth Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n seiliedig ar incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai a/neu Gredyd Pensiwn
- Byddwch yn wynebu caledi ariannol o ganlyniad i beidio â gallu gweithio tra eich bod yn hunan-ynysu
Cyffredinol
Mae’r cais hwn ar gyfer un person yn unig ac mae’n rhaid i unrhyw geisiadau pellach o fewn yr un aelwyd gael eu gwneud gan bob unigolyn.
Sicrhewch bod gennych y wybodaeth isod ar gael cyn dechrau eich cais:
- Rhif Yswiriant Gwladol
- Cadarnhad o’r dyddiad a roddwyd gan Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru (POD) neu os ydych yn gwneud cais oherwydd bod eich plentyn sydd yn hunan-ynysu, copi o’r llythyr a ddarperir gan y lleoliad gofal plant, yr ysgol neu coleg addysg bellach
- Eich Cyfriflen Banc diweddaraf (o fewn y 3 mis diwethaf) sydd rhaid dangos eich enw a chyfeiriad, rhif cyfrif eich banc a chod didoli eich banc.
- Os ydych yn cyflogedig, eich slip cyflog diweddaraf
- Os ydych yn hunangyflogedig, prawf eich bod yn hunangyflogedig diweddaraf e.e. eich ffurflen hunanasesu i HMRC.
Mae gennych 14 diwrnod wedi diwedd y cyfnod hunan-ynysu i wneud cais am daliad.
Hysbysiad preifatrwydd Llywodraeth Cymru ar gyfer y Cynllun cymorth hunan-ynysu.