Dyma lle cewch wybodaeth am yr hyn y dylech ei wneud os oes gennych symptomau o’r coronafeirws, pryd i hunanynysu a sut mae'r system olrhain cyswllt yn gweithio.

Coronaferiws: y ffeithiau.

Coronafeirws: taflen wybodaeth mewn ieithoedd eraill

Prif symptomau coronafeirws yw:

  • tymheredd uchel: mae hyn yn golygu bod eich brest neu'ch cefn yn teimlo'n boeth i'w gyffwrdd (nid oes angen i chi fesur eich tymheredd)
  • peswch newydd, parhaus: mae hyn yn golygu pesychu llawer am fwy nag awr, neu 3 neu fwy o byliau peswch mewn 24 awr (os oes gennych beswch fel arfer, gall fod yn waeth nag arfer)
  • methu arogli neu flasu neu golli eich synnwyr o arogl neu flas: mae hyn yn golygu eich bod wedi sylwi nad ydych yn gallu arogli na blasu unrhyw beth, neu fod pethau'n arogli neu'n blasu'n wahanol i'r arfer

Dylai pobl fod yn ymwybodol o symptomau eraill ar y dechrau, fel pen tost, blinder a phoenau cyffredinol sy'n gysylltiedig â'r ffliw fel arfer.

Os oes angen i chi beswch neu disian:

  • Dylech ei ddal â hances bapur
  • Ei daflu i’r bin
  • Ei ddifa drwy olchi eich dwylo â sebon a dŵr neu ddiheintydd dwylo.

Dylech olchi’ch dwylo â sebon a dŵr neu ddiheintydd dwylo:

  • Ar ôl egwyliau a gweithgareddau chwaraeon
  • Cyn coginio a bwyta
  • Wrth gyrraedd unrhyw leoliad gofal plant neu addysgol
  • Ar ôl defnyddio’r toiled
  • Cyn gadael eich cartref
  • Dylech aros adref a gwneud prawf llif unffordd (LFT).
  • Os ydych yn cael prawf positif, mae argymhelliad i chi hunanynysu am 5 diwrnod llawn. Diwrnod 1 yw'r diwrnod ar ôl i'ch symptomau ddechrau neu'r diwrnod y gwnaethoch gymryd y prawf. Gwnewch brawf llif unffordd ar ddiwrnod 5, a gallwch adael y cyfnod hunanynysu os cewch ganlyniadau negatif ar 2 ddiwrnod yn olynol. Darllenwch y canllawiau yn llawn ar wefan Llywodraeth Cymru: Hunanynysu
  • Cynlluniwch ymlaen llaw a gofynnwch i eraill am help i sicrhau y gallwch chi aros gartref yn llwyddiannus ac ystyried yr hyn y gellir ei wneud i bobl fregus ar yr aelwyd.
  • Gofynnwch i'ch cyflogwr, ffrindiau a theulu eich helpu chi i gael y pethau sydd eu hangen arnoch i aros gartref.
  • Golchwch eich dwylo yn rheolaidd am 20 eiliad, bob tro gan ddefnyddio sebon a dŵr, neu defnyddiwch lanweithydd dwylo.
  • Os ydych chi'n teimlo na allwch ymdopi â'ch symptomau gartref neu fod eich cyflwr yn gwaethygu, neu os nad yw'ch symptomau'n gwella ar ôl saith diwrnod, defnyddiwch y gwasanaeth 111 coronafeirws ar-lein. Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, ffoniwch 111. Mewn argyfwng meddygol deialwch 999.

Y newidiadau o 28 Mawrth 2022

Beth ddylech chi ei wneud os oes gennych symptomau COVID-19

Os oes gennych chi unrhyw un o’r prif symptomau COVID-19, dylech hunanynysu a chymryd prawf llif unffordd (LFT).

Gallwch archebu profion llif unffordd ar-lein neu ffonio 119 rhwng 7am ac 11pm (mae galwadau am ddim)

Cofiwch hunanynysu nes y cewch ganlyniad eich prawf llif unffordd

Prif symptomau COVID-19 yw

  • tymheredd uchel
  • peswch cyson
  • colli eich synnwyr o flas neu arogl neu sylwi ar newid ynddo

Os cewch ganlyniad prawf LFT negatif

Gallwch roi’r gorau i hunanynysu ar unwaith

Os byddwch yn profi'n bositif ar unrhyw brawf COVID-19 (PCR neu LFT)

  • Dylech hunanynysu am 5 diwrnod llawn - diwrnod 1 yw'r diwrnod ar ôl i'ch symptomau ddechrau neu'r diwrnod y cawsoch y prawf, os nad oes gennych symptomau (pa un bynnag sydd gynharaf)
  • Cymerwch brawf llif unffordd (LFT) ar ddiwrnod 5

Os yw'r prawf LFT yn negatif ar ddiwrnod 5

  • Rhowch wybod am ganlyniad eich prawf llif unffordd
  • Dylech gymryd LFT arall ar ddiwrnod 6
  • Os yw eich prawf hefyd yn negatif ar ddiwrnod 6 ac nad oes gennych dymheredd uchel, gallwch roi’r gorau i hunanynysu ar ddiwrnod 6 gan fod y risg eich bod yn dal yn heintus yn llawer is a gallwch ddychwelyd i'ch trefn arferol yn ddiogel
  • Os oes gennych dymheredd uchel o hyd, neu os ydych yn teimlo'n sâl, dylech barhau i hunanynysu nes ei fod yn dychwelyd i normal, neu nes rydych yn teimlo'n well

Os yw'r prawf LFT yn bositif ar ddiwrnod 5 neu 6

  • Rhowch wybod am ganlyniad eich prawf llif unffordd
  • Dylech barhau i gymryd profion llif unffordd dyddiol nes y cewch 2 brawf negatif yn olynol, ddiwrnod ar wahân, neu tan ddiwrnod 10 – pa un bynnag sydd gyntaf
  • Nid oes angen prawf LFT negatif arnoch ar ddiwrnod 10 i roi’r gorau i hunanynysu
  • Os oes gennych dymheredd uchel o hyd neu os ydych yn teimlo'n sâl, dylech barhau i hunanynysu nes ei fod yn dychwelyd i normal, neu nes rydych yn teimlo'n well

Os nad oes gennych symptomau ond yn profi’n bositif

Efallai y cewch eich cynghori i gymryd prawf PCR neu LFT fel rhan o drefniadau'r gweithle.

Os ydych wedi cael prawf COVID-19 positif yn ddiweddar (o fewn y 90 diwrnod diwethaf) dylech gymryd prawf llif unffordd yn lle PCR. Y rheswm dros hyn yw oherwydd bod perygl y gall prawf PCR ganfod olion gweddilliol y feirws sydd dros ben yn eich corff. 

Os yw canlyniad eich prawf yn bositif, rhaid i chi barhau i hunanynysu a dilyn y canllawiau hunanynysu uchod.

Diwrnod Beth i’w wneud
0 Symptomau’n dechrau, neu brawf positif
1 Dechrau cyfrif y dyddiau hunanynysu
2  
3  
4  
5 Dechrau profion llif unffordd dyddiol gartref
6 O ddiwrnod 6 i 9, cewch stopio hunanynysu os cewch ddau brawf negatif dyddiol ar ôl ei gilydd.
7  
8  
9  
10 Gorffen ynysu – dim angen mwy o brofion

Cewch fwy o wybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru. 

Olrhain cysylltiadau: os ydych chi wedi cael prawf positif

Olrhain cysylltiadau: os cewch eich enwi fel cyswllt agos

Os ydych wedi cael prawf positif am Covid 19 ac yn hunan-ynysu efallai bod gyda chi hawl i Gymorth Ariannol.

Os mae eich plentyn wedi cael prawf positif am Covid 19 ac wedi cael cyngor i hunanynysu gan wasanaeth POD, ac o ganlyniad mae’n rhaid i chi aros gartref, efallai bod gyda chi hawl i Gymorth Ariannol.

I wirio a ydych chi’n gymwys i gael y taliad hwn ac i wneud eich cais, plis ymweld â'r tudalen Taliad Cynllun Cymorth Hunan-ynysu.

Nodwch mae’r Cynllun hyn yn gorffen ar 30 Mehefin 2022. Os rydych wedi cael canlyniad positif ac wedi gorfod hunanynysu ar neu cyn 30 Mehefin 2022, a rydych yn gymwys am gymorth, mae gennych 21 diwrnod i gyflwyno eich cais ar ôl eich diwrnod diwethaf o hunanynysu.

I archebu prawf, ewch i tudalen Gwneud cais i gael prawf coronafeirws ar wefan Llywodraeth Cymru neu ffoniwch 119. Gall pobl gyda anawsterau clyw neu leferydd ffonio 18001 119.

Dim ond i bobl sydd â symptomau coronafeirws mae’r prawf yn effeithiol, ac mae angen i chi wneud y prawf yn ystod 5 diwrnod cyntaf y symptomau. Mae’r prawf ond yn gwirio a oes coronafeirws arnoch ar hyn o bryd, nid yw’n dangos a ydych eisoes wedi cael coronafeirws.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwella gyda digon o orffwys, dŵr i’w yfed a meddyginiaeth ar gyfer poen.

Gwybodaeth am brofi gan gynnwys archebu prawf ar gael ar tudalen Gwneud cais i gael prawf coronafeirws (COVID-19) wefan Llywodraeth Cymru.

Mwy o gyngor ar gael ar tudalen Hunanynysu: canllawiau aros gartref i aelwydydd â choronafeirws posibl wefan Llywodraeth Cymru.

Olrhain Cysylltiadau yng Ngheredigion 

Cefndir

Ceredigion oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i ddarparu gwasanaeth olrhain cysylltiadau, ac yna cafodd ei dewis fel ardal beilot gan Lywodraeth Cymru.

Erbyn hyn, sefydlwyd cynllun cenedlaethol i weithredu timoedd olrhain cysylltiadau ymhob awdurdod lleol yng Nghymru a chaiff y cynllun ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae Ceredigion yn un o dair sir sy’n gweithredu timoedd olrhain cysylltiadau yn rhanbarth Hywel Dda. Y partneriaid eraill yw Cyngor Sir Gâr a Chyngor Sir Benfro. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn bartner allweddol sy’n gwneud y gwaith arbenigol o olrhain cysylltiadau mewn ysbytai a chartrefi gofal preswyl ynghyd â darparu cyngor a chymorth i awdurdodau lleol.

Mae’r timoedd olrhain cysylltiadau’n dilyn y rheolau o ran diogelu data.

Mae Tîm Olrhain Cysylltiadau Cyngor Sir Ceredigion yn rhan o dîm Diogelu’r Cyhoedd yr awdurdod, sy’n gyfrifol am Iechyd y Cyhoedd. Rheolir y tîm gan Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd cymwys, sy’n meddu ar wybodaeth arbenigol o ran rheoli heintiau ac olrhain cysylltiadau.

Sut mae’n gweithio?

Caiff manylion cyswllt sylfaenol pawb sy’n derbyn prawf positif ar gyfer COVID-19 eu rhannu â Thîm Olrhain Cysylltiadau’r Awdurdod Lleol lle maen nhw’n byw. Golyga hyn ei bod yn bwysig iawn darparu’r cyfeiriad mwyaf diweddar. Hefyd mae’n bwysig sicrhau bod enw’r person a’r rhif ffôn yn gywir.

Bydd Swyddog Olrhain Cysylltiadau’n cysylltu â’r unigolyn sydd wedi cael canlyniad positif cyn gynted â phosib, a bydd yn gofyn cyfres o gwestiynau i ganfod lle mae’r person wedi bod a phwy y mae’r unigolyn wedi dod i gysylltiad â nhw. Mae’n bwysig casglu gymaint â phosib o wybodaeth gywir yn ystod y cam hwn. Yn ogystal, bydd y person sydd wedi cael prawf positif yn derbyn cyngor addas gan gynnwys yr angen iddo hunanynysu a sicrhau bod holl aelodau’r aelwyd yn hunanynysu hefyd.

Yna bydd Swyddog Ymgynghori Cysylltiadau yn cysylltu â phawb sydd wedi dod i gysylltiad â’r person a gafodd prawf positif. Mae’n bosib y bydd yn cynghori’r bobl hyn i gael prawf am y coronafeirws a bydd hefyd yn rhoi cyngor ynghylch hunanynysu neu gamau gweithredu eraill, yn ddibynnol ar y risg a nodwyd.

Mae’n bosib hefyd y bydd Swyddog Olrhain Cysylltiadau yn cysylltu â’r sawl y tybir bod risg uchel eu bod wedi dod i gysylltiad â’r feirws er mwyn canfod unrhyw gysylltiadau pellach.

Gall y tîm ganfod patrymau yn gyflym ac yn aml maent yn gallu nodi unrhyw leoliad neu ddigwyddiad penodol lle trosglwyddwyd yr haint. O ganlyniad, gellir olrhain eraill a oedd yn yr un digwyddiad a chynnig cyngor addas iddynt.

Gall yr wybodaeth hon arwain at ganfod cysylltiad rhwng nifer o achosion, a elwir yn glwstwr.

Pan fo clwstwr yn un mawr a bod risg uwch o ran lledaenu’r haint, gelwir Tîm Rheoli Achos Lluosog ynghyd a fydd yn cael cyngor arbenigol oddi wrth arbenigwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Bydd y Tîm Rheoli Achos Lluosog yn dwyn ynghyd yr holl wybodaeth sydd ar gael ac yn gwneud argymhellion a phenderfyniadau er mwyn atal yr haint rhag lledaenu ymhellach.

Mae delio ag achosion yn gyflym yn hollbwysig ac mae cael cydweithrediad dinasyddion Ceredigion yn hanfodol er mwyn rheoli ac atal y feirws rhag lledaenu.

Gwybodaeth bellach

Masg: Pryd a sut i wisgo un

Yng nghyd-destun yr achos o’r coronafeirws (COVID-19) mae masg yn rhywbeth sy’n gorchuddio’r trwyn a’r geg yn ddiogel. Gall aelodau o’r cyhoedd ddefnyddio sgarff, bandana, dilledyn crefyddol neu ddeunydd o waith llaw ond rhaid iddynt ffitio’n dynn o amgylch ochr yr wyneb.

Dim ond mewn lleoliadau iechyd a gofal y mae'n ofynnol gwisgo gorchudd wyneb yn ôl y gyfraith. Bydd pobl na all eu gwisgo yn parhau i gael eu heithrio o’r gofyniad hwn.

Sut i wisgo masg

Dylai masg:

  • orchuddio eich trwyn a'ch ceg tra'n caniatáu i chi anadlu'n gyfforddus
  • ffitio'n gyfforddus ond yn ddiogel yn erbyn ochr yr wyneb
  • ffitio i’r pen gyda chysylltiadau neu ddolenni clust
  • fod wedi’i wneud o ddeunydd sy’n gyfforddus i chi ac sy’n anadladwy
  • allu cael ei olchi ar 60⁰C a’i sychu heb achosi difrod i’r masg

Wrth wisgo masg, dylech:

  • edrych ar gyflwr y masg cyn ei ddefnyddio gan sicrhau bod y strapiau elastig mewn cyflwr da ac nad oes tyllau na thraul i ddeunydd a gwnïad y masg
  • golchi eich dwylo’n drylwyr â dŵr a sebon am 20 eiliad neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo cyn gwisgo masg
  • osgoi ei wisgo ar eich gwddf neu'ch talcen
  • osgoi cyffwrdd â'r rhan o'r masg sydd mewn cysylltiad â'ch ceg a'ch trwyn, gan y gellid ei halogi â'r feirws
  • newid eich masg os bydd yn mynd yn llaith neu os ydych wedi cyffwrdd ag ef
  • osgoi ei dynnu oddi ar eich wyneb a'i roi yn ôl dro ar ôl tro

Wrth dynnu eich masg, dylech:

  • olchi eich dwylo yn drylwyr â dŵr a sebon am 20 eiliad neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo cyn tynnu’r masg
  • trin y strapiau, y clymau neu'r clipiau yn unig a chadw’r masg mewn bag neu gynhwysydd glân
  • peidio â'i roi i rywun arall ei ddefnyddio
  • ei olchi yn ôl cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr ar y tymheredd uchaf sy’n briodol i’r deunydd
  • golchi eich dwylo yn drylwyr â dŵr a sebon am 20 eiliad neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo ar ôl tynnu’r masg

Sut i waredu masg untro:

  • Dylai masgiau untro gael eu rhoi mewn dau fag, un bag y tu fewn i fag arall, a’i gyflwyno fel gwastraff na ellir ei ailgylchu
  • Rhowch ef mewn bag - rhowch y masg naill ai mewn bag neu mewn bin wedi’i leinio â bag
  • Clymwch ef - clymwch y bag
  • Rhowch ef mewn bag a’i glymu eto - rhowch y bag wedi’i glymu yn eich bag “du” nad yw ar gyfer ailgylchu a chlymwch y bag hwnnw cyn ei roi allan i’w gasglu
  • Os ydych yn mynd o le i le, defnyddiwch fin sbwriel

Amrywiad newydd ar y Coronafeirws

Yr ymateb i'r achosion o'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan gynnwys Cwestiynau Cyffredin ar amrywiad newydd ar y Coronafeirws. Y wybodaeth i'w ddarllen ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

O 18 Chwefror ymlaen ni fydd y Pás COVID domestig yn ofyniad cyfreithiol ar gyfer mynediad i ddigwyddiadau a lleoliadau mwyach.