Dyma lle cewch wybodaeth am yr hyn y dylech ei wneud os oes gennych symptomau o’r coronafeirws a sut i gael prawf, gwybodaeth am aelwydydd estynedig a sut mae'r system olrhain cyswllt yn gweithio.

Coronaferiws: y ffeithiau.

Prif symptomau coronafeirws yw:

  • tymheredd uchel: mae hyn yn golygu bod eich brest neu'ch cefn yn teimlo'n boeth i'w gyffwrdd (nid oes angen i chi fesur eich tymheredd)
  • peswch newydd, parhaus: mae hyn yn golygu pesychu llawer am fwy nag awr, neu 3 neu fwy o byliau peswch mewn 24 awr (os oes gennych beswch fel arfer, gall fod yn waeth nag arfer)
  • methu arogli neu flasu neu golli eich synnwyr o arogl neu flas: mae hyn yn golygu eich bod wedi sylwi nad ydych yn gallu arogli na blasu unrhyw beth, neu fod pethau'n arogli neu'n blasu'n wahanol i'r arfer

Dylai pobl fod yn ymwybodol o symptomau eraill ar y dechrau, fel pen tost, blinder a phoenau cyffredinol sy'n gysylltiedig â'r ffliw fel arfer.

Aros yn lleol ac aros yn ddiogel. 

Os oes angen i chi beswch neu disian:

  • Dylech ei ddal â hances bapur
  • Ei daflu i’r bin
  • Ei ddifa drwy olchi eich dwylo â sebon a dŵr neu ddiheintydd dwylo.

Dylech olchi’ch dwylo â sebon a dŵr neu ddiheintydd dwylo:

  • Ar ôl egwyliau a gweithgareddau chwaraeon
  • Cyn coginio a bwyta
  • Wrth gyrraedd unrhyw leoliad gofal plant neu addysgol
  • Ar ôl defnyddio’r toiled
  • Cyn gadael eich cartref
  • Rhaid i chi sicrhau eich bod chi'n aros gartref. Ni ddylech adael eich cartref oni bai eich bod yn mynd i gael prawf.
  • Os oes gyda chi un neu mwy o symptomau'r coronafeirws, trefnwch i gael prawf i weld os oes gyda chi'r feirws. Archebwch brawf ar-lein yma neu ffonio 111.
  • Peidiwch mynd i feddygfa meddyg teulu, fferyllfa neu ysbyty. Nid oes angen i chi gysylltu â 111 i ddweud wrthyn nhw eich bod chi'n aros gartref.
  • Cynlluniwch ymlaen llaw a gofynnwch i eraill am help i sicrhau y gallwch chi aros gartref yn llwyddiannus ac ystyried yr hyn y gellir ei wneud i bobl fregus ar yr aelwyd.
  • Gofynnwch i'ch cyflogwr, ffrindiau a theulu eich helpu chi i gael y pethau sydd eu hangen arnoch i aros gartref.
  • Golchwch eich dwylo yn rheolaidd am 20 eiliad, bob tro gan ddefnyddio sebon a dŵr, neu defnyddiwch lanweithydd dwylo.
  • Os ydych chi'n teimlo na allwch ymdopi â'ch symptomau gartref neu fod eich cyflwr yn gwaethygu, neu os nad yw'ch symptomau'n gwella ar ôl saith diwrnod, defnyddiwch y gwasanaeth 111 coronafeirws ar-lein. Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, ffoniwch 111. Mewn argyfwng meddygol deialwch 999.

Y newidiadau o 29 Hydref 2021

Mae trefn hunanynysu newydd pan fo rhywun yn eich cartref â symptomau coronafeirws neu wedi cael prawf coronafeirws positif.

Os ydy rhywun yn eich cartref â symptomau neu wedi profi’n bositif a chithau wedi’ch brechu’n llawn neu rhwng 5 ac 17 oed, dylech hunanynysu a chymryd prawf PCR. Os yw’r prawf yn negatif, cewch stopio hunanynysu.

Os yw rhywun yn eich cartref wedi profi’n bositif a chithau heb eich brechu’n llawn, dylech hunanynysu am 10 diwrnod. Dylech gymryd prawf PCR ar ddiwrnod 2 ac 8. A dylech hunanynysu am 10 diwrnod hyd yn oed os yw eich profion PCR yn negatif.

Nid oes rhaid i blant o dan 5 oed hunanynysu na chymryd prawf os ydynt wedi dod i gysylltiad ag achos positif yn eu cartref neu rywle arall.

Cewch fwy o wybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru. 

Os cysylltwyd â chi gan wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru, (POD) a chael gwybod bod rhaid hunanynysu, efallai bod gyda chi hawl i Gymorth Ariannol.

Os ydych wedi cael gwybod gan ap Covid-19 y GIG bod angen i chi hunanynysu oherwydd eich bod wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif, ac os gellir dilysu hyn, efallai y bydd gennych hawl i Gymorth Ariannol.

Os mae rhaid i’ch plentyn hunan-ynysu ac o ganlyniad mae’n rhaid i chi aros gartref, efallai bod gyda chi hawl i Gymorth Ariannol.

I wirio a ydych chi’n gymwys i gael y taliad hwn ac i wneud eich cais, plis ymweld â'r tudalen Taliad Cynllun Cymorth Hunan-ynysu.

I archebu prawf, ewch i tudalen Gwneud cais i gael prawf coronafeirws ar wefan Llywodraeth Cymru neu ffoniwch 119. Gall pobl gyda anawsterau clyw neu leferydd ffonio 18001 119.

Dim ond i bobl sydd â symptomau coronafeirws mae’r prawf yn effeithiol, ac mae angen i chi wneud y prawf yn ystod 5 diwrnod cyntaf y symptomau. Mae’r prawf ond yn gwirio a oes coronafeirws arnoch ar hyn o bryd, nid yw’n dangos a ydych eisoes wedi cael coronafeirws.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwella gyda digon o orffwys, dŵr i’w yfed a meddyginiaeth ar gyfer poen.

Gwybodaeth am brofi gan gynnwys archebu prawf ar gael ar tudalen Gwneud cais i gael prawf coronafeirws (COVID-19) wefan Llywodraeth Cymru.

Mwy o gyngor ar gael ar tudalen Hunanynysu: canllawiau aros gartref i aelwydydd â choronafeirws posibl wefan Llywodraeth Cymru.

Olrhain Cysylltiadau yng Ngheredigion 

Cefndir

Ceredigion oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i ddarparu gwasanaeth olrhain cysylltiadau, ac yna cafodd ei dewis fel ardal beilot gan Lywodraeth Cymru.

Erbyn hyn, sefydlwyd cynllun cenedlaethol i weithredu timoedd olrhain cysylltiadau ymhob awdurdod lleol yng Nghymru a chaiff y cynllun ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae Ceredigion yn un o dair sir sy’n gweithredu timoedd olrhain cysylltiadau yn rhanbarth Hywel Dda. Y partneriaid eraill yw Cyngor Sir Gâr a Chyngor Sir Benfro. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn bartner allweddol sy’n gwneud y gwaith arbenigol o olrhain cysylltiadau mewn ysbytai a chartrefi gofal preswyl ynghyd â darparu cyngor a chymorth i awdurdodau lleol.

Mae’r timoedd olrhain cysylltiadau’n dilyn y rheolau o ran diogelu data.

Mae Tîm Olrhain Cysylltiadau Cyngor Sir Ceredigion yn rhan o dîm Diogelu’r Cyhoedd yr awdurdod, sy’n gyfrifol am Iechyd y Cyhoedd. Rheolir y tîm gan Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd cymwys, sy’n meddu ar wybodaeth arbenigol o ran rheoli heintiau ac olrhain cysylltiadau.

Sut mae’n gweithio?

Caiff manylion cyswllt sylfaenol pawb sy’n derbyn prawf positif ar gyfer COVID-19 eu rhannu â Thîm Olrhain Cysylltiadau’r Awdurdod Lleol lle maen nhw’n byw. Golyga hyn ei bod yn bwysig iawn darparu’r cyfeiriad mwyaf diweddar. Hefyd mae’n bwysig sicrhau bod enw’r person a’r rhif ffôn yn gywir.

Bydd Swyddog Olrhain Cysylltiadau’n cysylltu â’r unigolyn sydd wedi cael canlyniad positif cyn gynted â phosib, a bydd yn gofyn cyfres o gwestiynau i ganfod lle mae’r person wedi bod a phwy y mae’r unigolyn wedi dod i gysylltiad â nhw. Mae’n bwysig casglu gymaint â phosib o wybodaeth gywir yn ystod y cam hwn. Yn ogystal, bydd y person sydd wedi cael prawf positif yn derbyn cyngor addas gan gynnwys yr angen iddo hunanynysu a sicrhau bod holl aelodau’r aelwyd yn hunanynysu hefyd.

Yna bydd Swyddog Ymgynghori Cysylltiadau yn cysylltu â phawb sydd wedi dod i gysylltiad â’r person a gafodd prawf positif. Mae’n bosib y bydd yn cynghori’r bobl hyn i gael prawf am y coronafeirws a bydd hefyd yn rhoi cyngor ynghylch hunanynysu neu gamau gweithredu eraill, yn ddibynnol ar y risg a nodwyd.

Mae’n bosib hefyd y bydd Swyddog Olrhain Cysylltiadau yn cysylltu â’r sawl y tybir bod risg uchel eu bod wedi dod i gysylltiad â’r feirws er mwyn canfod unrhyw gysylltiadau pellach.

Gall y tîm ganfod patrymau yn gyflym ac yn aml maent yn gallu nodi unrhyw leoliad neu ddigwyddiad penodol lle trosglwyddwyd yr haint. O ganlyniad, gellir olrhain eraill a oedd yn yr un digwyddiad a chynnig cyngor addas iddynt.

Gall yr wybodaeth hon arwain at ganfod cysylltiad rhwng nifer o achosion, a elwir yn glwstwr.

Pan fo clwstwr yn un mawr a bod risg uwch o ran lledaenu’r haint, gelwir Tîm Rheoli Achos Lluosog ynghyd a fydd yn cael cyngor arbenigol oddi wrth arbenigwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Bydd y Tîm Rheoli Achos Lluosog yn dwyn ynghyd yr holl wybodaeth sydd ar gael ac yn gwneud argymhellion a phenderfyniadau er mwyn atal yr haint rhag lledaenu ymhellach.

Mae delio ag achosion yn gyflym yn hollbwysig ac mae cael cydweithrediad dinasyddion Ceredigion yn hanfodol er mwyn rheoli ac atal y feirws rhag lledaenu.

Gwybodaeth bellach

Masg: Pryd a sut i wisgo un

Yng nghyd-destun yr achos o’r coronafeirws (COVID-19) mae masg yn rhywbeth sy’n gorchuddio’r trwyn a’r geg yn ddiogel. Gall aelodau o’r cyhoedd ddefnyddio sgarff, bandana, dilledyn crefyddol neu ddeunydd o waith llaw ond rhaid iddynt ffitio’n dynn o amgylch ochr yr wyneb.

Nid yw masg yn ofyniad cyfreithiol mewn lleoliadau lletygarwch lle mae bwyd a diod yn cael eu gweini. 

Bydd gorchuddion wyneb yn ofynnol o hyd yn y rhan fwyaf o fannau cyhoeddus o dan do yng Nghymru, gan gynnwys ar drafnidiaeth gyhoeddus, mewn siopau ac mewn lleoliadau gofal iechyd. Bydd pobl na all eu gwisgo yn parhau i gael eu heithrio o’r gofyniad hwn.

Sut i wisgo masg

Dylai masg:

  • orchuddio eich trwyn a'ch ceg tra'n caniatáu i chi anadlu'n gyfforddus
  • ffitio'n gyfforddus ond yn ddiogel yn erbyn ochr yr wyneb
  • ffitio i’r pen gyda chysylltiadau neu ddolenni clust
  • fod wedi’i wneud o ddeunydd sy’n gyfforddus i chi ac sy’n anadladwy
  • allu cael ei olchi ar 60⁰C a’i sychu heb achosi difrod i’r masg

Wrth wisgo masg, dylech:

  • edrych ar gyflwr y masg cyn ei ddefnyddio gan sicrhau bod y strapiau elastig mewn cyflwr da ac nad oes tyllau na thraul i ddeunydd a gwnïad y masg
  • golchi eich dwylo’n drylwyr â dŵr a sebon am 20 eiliad neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo cyn gwisgo masg
  • osgoi ei wisgo ar eich gwddf neu'ch talcen
  • osgoi cyffwrdd â'r rhan o'r masg sydd mewn cysylltiad â'ch ceg a'ch trwyn, gan y gellid ei halogi â'r feirws
  • newid eich masg os bydd yn mynd yn llaith neu os ydych wedi cyffwrdd ag ef
  • osgoi ei dynnu oddi ar eich wyneb a'i roi yn ôl dro ar ôl tro

Wrth dynnu eich masg, dylech:

  • olchi eich dwylo yn drylwyr â dŵr a sebon am 20 eiliad neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo cyn tynnu’r masg
  • trin y strapiau, y clymau neu'r clipiau yn unig a chadw’r masg mewn bag neu gynhwysydd glân
  • peidio â'i roi i rywun arall ei ddefnyddio
  • ei olchi yn ôl cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr ar y tymheredd uchaf sy’n briodol i’r deunydd
  • golchi eich dwylo yn drylwyr â dŵr a sebon am 20 eiliad neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo ar ôl tynnu’r masg

Sut i waredu masg untro:

  • Dylai masgiau untro gael eu rhoi mewn dau fag, un bag y tu fewn i fag arall, a’i gyflwyno fel gwastraff na ellir ei ailgylchu
  • Rhowch ef mewn bag - rhowch y masg naill ai mewn bag neu mewn bin wedi’i leinio â bag
  • Clymwch ef - clymwch y bag
  • Rhowch ef mewn bag a’i glymu eto - rhowch y bag wedi’i glymu yn eich bag “du” nad yw ar gyfer ailgylchu a chlymwch y bag hwnnw cyn ei roi allan i’w gasglu
  • Os ydych yn mynd o le i le, defnyddiwch fin sbwriel

Amrywiad newydd ar y Coronafeirws

Yr ymateb i'r achosion o'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan gynnwys Cwestiynau Cyffredin ar amrywiad newydd ar y Coronafeirws. Y wybodaeth i'w ddarllen ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

O 15 Tachwedd 2021 ymlaen, bydd yn rhaid cael Pas COVID i fynd i'r sinema, theatr, clwb nos a digwyddiadau mawr yng Nghymru. Mae mwy o wybodaeth a chanllawiau ar sut i gael eich Pas ar gael yma:

Cael eich Pas COVID