Dyma drosolwg ar gyfer trigolion Ceredigion sy'n egluro pa wasanaethau a ddarperir wrth i ganllawiau newid ac wrth i nifer yr achosion o’r coronafeirws yn y Sir newid. Gobeithir y bydd y sectorau busnes a grwpiau cymunedol hefyd yn cyfrannu at y cynllun hwn er mwyn i’r sefyllfa fod yn eglur i holl drigolion Ceredigion.

Mae’r Cyngor yn cynnal adolygiad bob wythnos o'r gweithgareddau sydd wedi'u cynnal a'r effeithiau y gallai'r rhain fod wedi’u cael ar lefel y teithio, nifer y bobl yn y trefi ac, yn y pen draw, yr effaith ar nifer yr achosion o’r coronafeirws yn y Sir.