Cyngor ynghylch Budd-daliadau yn ystod cyfnod COVID-19

Os yw COVID-19 wedi cael effaith arnoch, naill ai oherwydd i chi gael eich heintio neu yn sgil gofynion hunanynysu neu ofynion cadw pellter cymdeithasol, isod ceir cyngor ar beth i’w wneud os oeddech/os ydych mewn gwaith a/neu yn hunangyflogedig. Gellir dod o hyd i wybodaeth ddiweddaraf Llywodraeth y DU drwy ddilyn y ddolen isod. 

www.gov.uk - Coronavirus support for employees, benefit claimants and businesses

Gweler hefyd y ddolen isod ar gyfer cyngor diweddaraf Llywodraeth Cymru:

Gwaith-sgiliau-chefnogaeth-ariannol 

Cymorth ariannol i dalu eich biliau yn ystod  y pandemig coronafeirws

Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi | LLYW.CYMRU

Am gyngor ar y Gronfa Cymorth Dewisol ewch i: 

https://llyw.cymru/cronfa-cymorth-dewisol-daf

Llacio rheolau’r Gronfa Cymorth Dewisol am gyfnod estynedig

Gall gweithwyr hunanardystio am 7 niwrnod cyntaf eu salwch. Ar ôl y cyfnod hwn, fel rheol mae’n rhaid i chi ddarparu nodyn ffitrwydd oddi wrth eich meddyg teulu. Os ydych yn arddangos symptomau o’r Coronafeirws neu os ydych ymhlith y rhai y dywedwyd wrthynt am hunanynysu oherwydd yr haint hwn, yna gellir cael nodyn hunanynysu.

Gofynnir i gyflogwyr ddefnyddio’u doethineb wrth benderfynu pa dystiolaeth sydd ei hangen arnynt.

Ni fyddai’r sawl sy’n penderfynu hunanynysu rhag ofn iddynt ddod i gysylltiad â’r feirws yn cael eu hystyried yn sâl. Byddai’n arfer dda i gyflogwyr gynorthwyo’r bobl hyn drwy ganiatáu iddynt weithio gartref.

Mae’n rhaid i chi fod yn gyflogai i fod â’r hawl i dderbyn Tâl Salwch Statudol, nid oes yn rhaid i chi gael contract cyflogaeth ysgrifenedig. Telir Tâl Salwch Statudol am 28 wythnos gyntaf eich salwch neu hyd nes y daw eich contract cyflogaeth i ben; yna bydd yn rhaid i hawlwyr hawlio budd-dal salwch.

Mae dau gyfnod neu fwy o salwch sydd wedi eu gwahanu gan wyth wythnos neu lai yn cael eu cysylltu a’u trin fel un cyfnod unigol.

Ni all eich cyflogwr eich diswyddo er mwyn osgoi talu Tâl Salwch Statudol i chi ond nid yw diswyddiad ar sail afiechyd o reidrwydd yn anghyfreithlon a dylai cyflogeion gael cyngor gan eu hundeb ynghylch yr hyn a allai fod yn ddiswyddiad annheg.

Y mae Tâl Salwch Statudol yn cael i’w dalu o’r pedwerydd diwrnod y salwch. Ond os oeddech fethu gweithio oherwydd Coronafeirws ac roedd y salwch wedi dechrau cyn 25 Mawrth 2022, y gallwch gael Tâl Salwch Statudol am y tri diwrnod gyntaf.

Ceir gwybodaeth bellach drwy ddilyn y ddolen isod:

www.gov.uk - COVID-19: guidance for employees, employers and businesses

Os ydych yn derbyn credydau treth ac os oes unrhyw newidadau i’ch amgylchiadau, dylech gysylltu â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) o fewn mis i ddyddiad y newid.  Efallai y byddwch yn gymwys am daliad ‘parhad’ 4 wythnos y Credyd Treth Gwaith. Gellir cael gwybodaeth bellach drwy ddilyn y ddolen isod:

https://www.gov.uk/changes-affect-tax-credits

Pwysig: os bu unrhyw newid sy’n golygu nad ydych mwyach yn hawlio fel cwpwl a bod angen i chi hawlio fel unigolyn sengl neu ddod yn rhan o gwpwl – golyga hyn bob amser y bydd angen i chi wneud cais newydd am Gredyd Treth, sydd fel rheol yn golygu y bydd angen i chi hawlio Credyd Cynhwysol..

https://www.gov.uk/how-tax-credits-affect-other-benefits

Newidiadau mewn Enillion

Nid yw newid yn eich enillion yn cyfrif fel newid yn eich amgylchiadau y mae’n rhaid i chi roi gwybod amdano; fodd bynnag wrth roi gwybod am y newid yma, rydych yn lleihau’r perygl o gael eich gordalu neu eich tandalu pan gwblheir eich dyfarniad ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Diystyrir £2,500 cyntaf unrhyw gynnydd neu ostyngiad yn eich enillion ac ni fydd felly yn effeithio ar daliadau eich credyd treth.

Os bu newid yn eich enillion ac os ydych am i’ch credydau treth gael eu cyfrifo o’r newydd, gallwch gysylltu â nhw ar-lein:

https://www.gov.uk/government/organisations/hm-revenue-customs/contact/tax-credits-enquiries

Costau Gofal Plant o fewn Credyd Treth Gwaith

Er mwyn bod yn gymwys am gymorth gyda chostau gofal plant, mae’n rhaid bod hawl gennych i Gredyd Treth Gwaith a rhaid i’ch plentyn fod mewn man gofal plant sydd wedi ei gymeradwyo. Gallwch barhau i dderbyn yr elfen gofal plant o fewn y Credyd Treth Gwaith os rhowch y gorau i dalu am gostau gofal plant am gyfnod o lai na 4 wythnos; ar ôl pedair wythnos rhaid rhoi gwybod am unrhyw newid o £10 mewn costau. Os ydych yn dal i dalu am ofal plant, ond nad yw eich plentyn yn mynychu’r lle gofal plant oherwydd bod yn rhaid iddo aros gartref, mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) wedi dweud y cyflenwir y costau hyn. Rydym yn aros am arweiniad pellach.

Os ydych eisoes yn derbyn Budd-dal Tai a/neu Gostyngiad Treth Cyngor a bod eich incwm (yn gostwng neu’n codi) neu os yw eich amgylchiadau wedi newid, mae’n bwysig eich bod yn dweud wrthym mor fuan â phosibl.  Byddwn yn ailasesu eich hawl i’r budd-dal hwn a bydd hyn yn rhwystro unrhyw dandaliad neu ordaliad. Mae hyn yn berthnasol p’un ai ydych yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig.

Anfonwch e-bost atom yn revenues@ceredigion.gov.uk neu ewch i’n tudalen Budd-daliadau ni am wybodaeth bellach.

Mae’n ofynnol i chi gohebu unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau a ddylech ysgrifennu am bob newid yn eich dyddlyfr a sicrhau bod yr Adran Waith a Phensiynau yn ymwybodol o’ch sefyllfa.

Adran Gwaith a Phensiynau - Cymorth cyflogaeth a budd-daliadau

 

Os nad ydych eto wedi hawlio unrhyw fudd-daliadau, isod ceir rhestr o’r opsiynau sydd ar gael ar eich cyfer chi.

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd

Os ydych yn hawlio budd-dal am y tro cyntaf oherwydd eich bod yn sâl, byddwch yn cael eich trin fel rhywun â gallu cyfyngedig i weithio ac efallai y byddwch yn gallu hawlio Cyflogaeth a Chymorth dull newydd. Golyga hyn na fydd yn rhaid i chi ddarparu nodiadau ffitrwydd ac ni fydd yn rhaid i chi fynychu asesiad gallu i weithio.

Er mwyn bod â hawl i dderbyn y budd-dal hwn mae’n rhaid eich bod wedi bodloni amodau cyfraniadau yswiriant gwladol a rhaid i chi beidio â bod yn gymwys am Dâl Salwch Statudol. Gellir talu’r budd-dal hwn ar ôl Tâl Salwch Statudol hyd yn oed os ydych yn parhau i fod â chontract cyflogaeth. Budd-dal cyfrannol yw hwn, ac mae eich hawl yn ddibynnol ar eich amgylchiadau fel yr hawlydd. Nid oes unrhyw reolau o ran cyfalaf nac incwm ar wahân i’r ffaith y gall unrhyw bensiwn galwedigaethol sydd dros £85.00 yr wythnos a delir i chi fel hawlydd effeithio ar faint o arian a dderbyniwch. Gall hawlyddion hefyd fod yn gymwys am Gredyd Cynhwysol i atodi’r budd-dal hwn.

Gellir cael gwybodaeth ychwanegol yn www.gov.uk - New Style Employment and Support Allowance.

Lwfans Ceisio Gwaith

Mae’r budd-dal hwn yn cynnwys dwy elfen ‘Lwfans Ceisio Gwaith’ dull newydd a Lwfans Ceisio Gwaith sy’n Seiliedig ar Incwm.

Os yw eich oriau gwaith wedi eu lleihau neu os ydych wedi eich gwneud yn ddi-waith efallai y gallwch fod yn gymwys am ‘lwfans ceisio gwaith dull newydd’. Er mwyn bod yn gymwys, mae’n rhaid i chi fodloni’r amodau perthnasol o ran cyfraniadau yswiriant gwladol. Budd-dal cyfrannol yw hwn, felly mae eich hawl i’w dderbyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Gan nad yw’n dibynnu ar brawf modd, nid yw incwm eich partner (os oes gennych bartner) yn effeithio arno. Yr incwm sy’n cael ei ystyried yw unrhyw enillion a dderbyniwch am waith rhan amser (dan 16 awr), namyn yr enillion perthnasol a ddiystyrir (fel rheol £5) a phensiynau galwedigaethol o fwy na £50.00. Diystyrir y rhan fwyaf o ffynonellau eraill o incwm cyhyd â’ch bod yn parhau i fodloni’r amodau sylfaenol. Telir Lwfans Ceisio Gwaith dull newydd am uchafswm o chwe mis. Credyd Cynhwysol yw’r budd-dal sy’n dibynnu ar brawf modd a all ategu unrhyw Lwfans Ceisio Gwaith cyfrannol.

Os ydych yn derbyn Lwfans Ceisio Gwaith sy’n gysylltiedig ag Incwm mae’n golygu naill ai nad ydych yn gallu hawlio Credyd Cynhwysol oherwydd eich bod yn bodloni amodau porth premiwm anabledd difrifol neu eich bod wedi bod yn hawlio’r budd-dal hwn cyn i Gredyd Cynhwysol gael ei gyflwyno’n llawn. Bydd eich hawl iddo yn parhau cyhyd â’ch bod yn bodloni’r meini prawf neu hyd nes eich mudir dan reolaeth i Gredyd Cynhwysol.

Gall y Ganolfan Waith lacio eich gofynion cysylltiedig â gwaith a’ch trin fel rhywun sydd ar gael i weithio am hyd at ddau gyfnod o bythefnos o salwch yn ystod y 12 mis diwethaf neu hyd at 13 wythnos, os ydych wedi bod neu’n disgwyl bod yn analluog i weithio am fwy na bythefnos ond nid mwy na 13 wythnos neu os ydych eisoes wedi cael eich dau gyfnod o bythefnos o salwch.

Yn anffodus, er mwyn i chi gael eich ystyried yn sâl ar gyfer Lwfans Ceisio Gwaith, bydd yn rhaid i chi gael nodyn ffitrwydd ar ôl saith niwrnod o hunanardystio. Ar yr adeg pan ysgrifennir yr wybodaeth hon, nid yw’r Llywodraeth wedi newid y rheoliadau i lacio’r amod hwn, yn wahanol i’r hyn y maent wedi ei wneud ar gyfer Credyd Cynhwysol a’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Credyd Cynhwysol

Os nad oes gennych ddigon o arian i fyw arno, mae'n bosibl y cewch eich cynghori i hawlio’r Credyd Cynhwysol. Os byddwch yn hawlio’r Credyd Cynhwysol, ni fydd modd i chi hawlio unrhyw un o’r budd-daliadau eraill sy’n dibynnu ar brawf modd (Credyd Treth Gwaith; Credyd Treth Plant; Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm; Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm; Cymhorthdal Incwm; Budd-dal Tai) ac ni fyddwch yn medru adhawlio’r budd-daliadau hyn. Dylech gael cyngor cyn i chi wneud hawliad, yn enwedig os ydych yn hunangyflogedig, yn fyfyriwr neu os oes gennych gynilion o £16,000 neu fwy.

Cyngor ar Bopeth - Credyd Cynhwysol

Os ydych yn derbyn un o'r budd-daliadau hyn, fe'ch cynghorir i daro golwg ar y Cyfrifiad Gwell eu Byd i weld a fyddai’n fwy manteisiol i chi barhau i dderbyn eich budd-daliadau presennol gydag addasiadau neu a fyddai’n well i chi hawlio’r Credyd Cynhwysol.

Pan fyddwch yn hawlio budd-dal sy’n seiliedig ar brawf modd am y tro cyntaf (bydd yr hyn y gallwch ei hawlio yn dibynnu ar eich cyfalaf, eich incwm chi ac incwm eich partner), byddwch yn gorfod hawlio’r Credyd Cynhwysol.

Cyn gynted ag y cyflwynwch gais am Gredyd Cynhwysol, mae unrhyw hawl sydd gennych i fudd-daliadau etifeddol yn dod i ben.  Ni fyddwch yn gallu adhawlio Credydau Treth, Budd-dal Tai, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm hyd yn oed os nad oes hawl gennych i daliad Credyd Cynhwysol. 

Mae ceisiadau’n cael eu gwneud a’u rheoli ar-lein drwy gyfrwng ‘dyddlyfr’.

https://www.understandinguniversalcredit.gov.uk/new-to-universal-credit/help-with-managing-your-money/

Er mwyn bod yn gymwys, rhaid bod gennych lai na £16,000 mewn cyfalaf a'ch bod yn bodloni’r prawf modd. Bydd y prawf modd yn amrywio gan ddibynnu ar eich amgylchiadau personol a pha incwm neu enillion eraill sydd gennych ynghyd â faint o gynilion rhwng £6,000 a £16,000 sydd gennych. Gall hawlwyr fod yn gymwys i gael y budd-dal hwn os ydynt mewn gwaith; os nad ydynt yn gweithio; os ydynt yn sâl neu os oes ganddynt gyfrifoldebau gofalu.

Mae’n rhaid mai’r Credyd Cynhwysol yw’r unig incwm yr ydych yn ei dderbyn neu ei fod yn cyfrannu at incwm arall sydd gennych (e.e. megis y tâl salwch statudol neu’r Lwfans Cefnogaeth a Chymorth newydd) hyd at y lefel y mae’r Llywodraeth yn dweud y mae ei hangen arnoch i fyw arni.

Ystyrir Tâl Salwch Statudol ac incwm arall wrth gyfrifo eich hawl i'r Credyd Cynhwysol. Er enghraifft, os ydych chi'n 25 oed neu'n hŷn, yn sengl, os nad oes gennych blant dibynnol ac os nad ydych yn talu rhent, rydym ar ddeall y bydd lwfans gwaith yn cael ei ystyried wrth gyfrifo'r Credyd Cynhwysol; o dan yr amgylchiadau hyn, gallech fod yn gymwys i gael taliad Credyd Cynhwysol o hyd at £317.82 y mis. Efallai y byddwch yn gymwys i gael mwy na hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau e.e. os ydych yn talu rhent, rydych yn debygol o gael swm ychwanegol i'ch helpu gyda'ch taliadau rhent.

Rhaid i bob hawliwr, gan gynnwys eich partner os oes gennych un, lofnodi ymrwymiad hawlydd, a fydd yn amlinellu pa ofynion sy'n gysylltiedig â gwaith y bydd yn rhaid i chi eu bodloni er mwyn derbyn y budd-dal hwn. Os ydych yn hawlio oherwydd bod Covid-19 arnoch neu am fod gofyn i chi hunanynysu, bydd y gofynion sy’n gysylltiedig â gwaith o ran eich ymrwymiad hawlydd ychydig yn wahanol. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud wrthych beth i'w wneud.

Adran Gwaith a Phensiynau - Cymorth cyflogaeth a budd-daliadau

Os ydych yn gwpwl a bod un ohonoch yn hŷn nag oedran pensiwn y wladwriaeth ac un ohonoch yn iau nag oedran pensiwn y wladwriaeth, o safbwynt budd-dal golyga hyn eich bod yn gwpwl oedran cymysg – golyga hyn nad ydych fel rheol yn gallu hawlio’r Credyd Pensiwn ac efallai y bydd angen i chi hawlio’r Credyd Cynhwysol – gofynnwch am gyngor yn gyntaf. 

Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi fel a ganlyn, cyn gynted ag y byddwch wedi gwneud cais ar-lein a bod angen gwybodaeth bellach arnynt er mwyn prosesu eich cais, byddant naill ai’n gofyn am yr wybodaeth hon drwy gyfrwng eich dyddlyfr ar-lein neu byddant yn eich ffonio. 

Budd-dal Tai

Ni ellir gwneud hawliadau (neu adhawliadau) newydd am fudd-daliadau etifeddol, ac eithrio Budd-dal Tai ar gyfer rhai mathau o lety dros dro neu lety â chymorth. 

Dyma’r unig grŵp o bobl sydd erbyn hyn yn gallu gwneud cais newydd am fudd-daliadau etifeddol.  Os ydych yn perthyn i’r grŵp hwn, gallwch wneud cais ar-lein:

http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/budd-daliadau/ffurflenni-cais/

Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor

Mae Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn darparu cymorth i’r rheini sydd ag atebolrwydd i dalu Treth y Cyngor. Mae'n dibynnu ar brawf modd felly bydd yn dibynnu ar incwm a chyfalaf chi a'ch partner; ond gallwch ei hawlio os ydych yn gweithio neu os ydych yn ddi-waith. Nid yw’r gostyngiad hwn yn cael ei hawlio fel y dylai, felly mae'n bwysig eich bod yn gwneud ymholiadau i weld a oes gennych hawl iddo ai peidio a gallwch wneud hynny drwy ymweld â tudalen Budd-daliadau.

Cymorth ar gael i’r rhai sydd wedi colli eu gwaith, neu sydd wedi gweld eu horiau neu waith yn cael eu lleihau

www.gov.uk - Lay-offs and short-time working

Costau Gofal Plant

Os bydd gofyn i chi dalu costau gofal plant am y tro cyntaf, efallai y byddwch yn gallu derbyn rhywfaint o gymorth ariannol drwy’r Credydau Treth. Os ydych eisoes yn derbyn Credyd Treth Plant, Credyd Treth Gwaith, Budd-dal Tai neu Ostyngiadau yn Nhreth y Cyngor, dylech roi gwybod i'r awdurdod lleol am y newidiadau hyn.

Os oes gofyn i chi dalu costau gofal plant i'ch darparwr gofal plant ac nad yw eich plentyn yn gallu mynychu mwyach oherwydd yr angen i aros gartref, mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi cadarnhau y bydd costau’r rheini sy’n derbyn credydau treth yn parhau i gael eu talu.

Dylech hunan-ynysu am hyd at 5 diwrnod os ydych chi wedi profi’n bositif am COVID 19.

Os ydych chi'n hunan-ynysu ac yn methu â gweithio gartref, mae cefnogaeth ariannol ar gael trwy ddau gynllun newydd a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru.

Y Cynllun Ychwanegiad at Dâl Salwch Statudol ar gyfer Gweithwyr Gofal

Mae hyn yn darparu cyllid i weithwyr gofal sydd ond yn cael Tâl Salwch Statudol os oes rhaid iddynt hunan-ynysu neu os nad ydynt yn cael Tâl Salwch Statudol o gwbl. Mae'r cyllid yn caniatáu i'ch cyflogwr eich talu ar eich cyflog llawn arferol trwy gydol cyfnod yr hunan-ynysu.

Ymwelwch â'r wefan i gael manylion llawn am y Cynllun ychwanegiad at dâl salwch statudol hwn sy'n rhedeg i 30 Mehefin 2022.

Taliad Cynllun Cymorth Hunan-ynysu

Bydd taliad sefydlog £500 ar gael i bobl ar incwm isel nad ydynt yn gallu gweithio gartref ac o ganlyniad yn dioddef colled incwm. 

Bydd y taliad hwn hefyd ar gael i rieni neu ofalwyr a fydd rhaid aros gartref oherwydd bod rhaid eu plentyn hunan-ynysu. Fe fyddwch yn gymwys dim ond os mae eich plentyn wedi profi’n bositif am COVID-19 ac mae Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru (POD) wedi cysylltu a chi i hunan-ynysu.

Mae'r Cynllun hwn bellach wedi cau ac nid oes unrhyw geisiadau pellach yn cael eu derbyn. Os ydych wedi gwneud cais cyn 01/08/2022 yna bydd hyn yn cael ei brosesu maes o law.

Taliad Annibyniaeth Personol

Lwfans Gweini

Lwfans Byw i'r Anabl

Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol

Mae’r budd-daliadau hyn ar gyfer pobl sydd ag afiechyd hirdymor a/neu anableddau. Er mwyn bod yn gymwys, rhaid bod y cyflwr arnoch neu eich bod yn disgwyl y bydd y cyflwr arnoch am y ‘cyfnod cymhwyso’ a/neu am gyfnod yn y dyfodol. Mae’r rhain yn amrywio yn ddibynnol ar y budd-dal anabledd. Bydd yr union fudd-dal anabledd yr ydych yn ei hawlio yn dibynnu ar nifer o ffactorau. Gallwch eu hawlio os ydych yn gweithio a / neu os ydych yn derbyn budd-daliadau eraill.

Mae’r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol wedi cadarnhau bod modd gwneud cais am Fudd-dal Plant heb dystysgrif geni. Dylai hyn olygu y bydd budd-daliadau eraill sy’n dibynnu ar brawf modd megis y Credyd Treth Plant a’r Credyd Cynhwysol yn cynnwys unrhyw swm ychwanegol sy’n ddyledus oni bai mai’r newyddanedig yw eich trydydd plentyn neu unrhyw blentyn ar ôl hynny. O dan yr amgylchiadau hyn, bydd y rheol dau blentyn yn berthnasol oni bai eu bod wedi’u heithrio.

Fodd bynnag, os ydych yn dymuno cofrestru genedigaeth eich plentyn, rydych bellach yn gallu gwneud cais am apwyntiad wyneb yn wyneb gyda Chyngor Sir Ceredigion, drwy ddefnyddio’r ddolen isod. Ewch i:

http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/genedigaethau-marwolaethau-priodasau-a-phartneriaethau-sifil/

Mae’r cynllun Ychwanegiad at Dâl Salwch Statudol yn cynorthwyo gweithwyr gofal nad ydynt yn derbyn dim heblaw tâl salwch statudol pan fyddant yn absennol neu’r sawl nad ydynt yn gymwys ar gyfer Tâl Salwch Statudol.  

Mae’n darparu arian er mwyn caniatáu i gyflogwyr dalu cyflog llawn i weithwyr cymwys os na fedrant weithio oherwydd COVID-19. 

Mae hyn yn diddymu’r anfantais ariannol a ddaw i weithwyr gofal yn sgil bod yn absennol o’r gwaith. Bydd yn gymorth i ddiogelu ein dinasyddion mwyaf bregus. Diben y gronfa yw rheoli haint. 

Mae’r cynllun yn weithredol i 30 Mehefin 2022.

Er mwyn cael gwybodaeth bellach ynghylch pwy sy’n gymwys a sut mae cael mynediad i’r cynllun, dilynwch y ddolen ganlynol. Cynllun Ychwanegiad at Dâl Salwch Statudol ar gyfer Gweithwyr Gofal.