Mae’r gwasanaeth casglu gwastraff yn cael ei ddarparu rhwng 8yb a 4yp, fodd bynnag ceir adegau lle byddwn yn gweithio tu allan i’r oriau hyn. Felly, peidiwch â riportio fod eich bin heb gael ei gasglu tan y diwrnod ar ôl eich diwrnod casglu rheolaidd.
Mae hwn yn amser heriol o'r flwyddyn i'n timau gweithredol. Yn ogystal â darparu gwasanaethau o ddydd i ddydd fel casgliadau gwastraff, glanhau strydoedd a chynnal a chadw priffyrdd maent hefyd yn ymwneud â darparu'r gwasanaeth cynnal a chadw gaeaf (graeanu) a all hynny fod ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos.
Gan ystyried eu bod yn gweithio allan ym mhob tywydd maent hefyd yn agored i salwch tymhorol fel y mae gweddill y boblogaeth. Mae COVID-19 wedi ychwanegu pwysau pellach.
Hoffem ddiolch i'n preswylwyr am eu dealltwriaeth a'u cefnogaeth barhaus ar yr adeg arbennig o heriol hon.
Diolch.
Dyddiad | Ardal wedi’i effeithio | Math o wastraff sydd wedi’i effeithio | Cyngor |
---|---|---|---|
5 Ionawr 2021 |
Llwybr 113 - Llandysul |
Gwydr |
Ailgyflwynwch eich gwastraff ar eich diwrnod casglu nesaf neu ewch ag ef i'ch banc ailgylchu gwydr agosaf |
20 Ionawr 2021 |
Llwybr 116 - Pontrhydygroes, Ysbyty Ystwyth, Ystrad Meurig, Ffair Rhos, Pontrhydfendigaid, Tregaron, Tynreithyn, Tyncelyn, Bronant, Lledrod, Tynygraig, Llanafan |
Gwydr a Bagiau Du |
Ymgeisio i'w casglu ar ddydd Sadwrn, 23 Ionawr 2021 |
21 Ionawr 2021 |
Llwybr 167 - Llanon, Nebo, Llanrhystud, Llanddeiniol, Cross Inn (n), Pennant, Trefenter |
Bagiau Clir Ailgylchu a Gwastraff Bwyd |
Ymgeisio i'w casglu ar ddydd Sadwrn, 23 Ionawr 2021 |
22 Ionawr 2021 |
Llwybr 171 - Tregaron, Llanddewi Brefi, Llangybi, Llwyn y Groes, Llangeitho, Bwlchllan, Talsarn, Bethania, Cross Inn (N) |
Bagiau Clir Ailgylchu a Gwastraff Bwyd |
Ymgeisio i'w casglu ar ddydd Sadwrn, 23 Ionawr 2021 |
22 Ionawr 2021 |
Llwybr 117 - Aberteifi, Penparc |
Bob casgliad |
Ymgeisio i'w casglu ar ddydd Sadwrn, 23 Ionawr 2021 |