Mae Cyngor Sir Ceredigion am greu trefi diogel a chroesawgar i bobl ddod i siopa a mwynhau. Gan fod y gofynion o ran cadw pellter cymdeithasol yn parhau i fod yn bwysig, mae angen addasu’r trefi oherwydd rhesymau’n ymwneud ag iechyd y cyhoedd.

Mae Ceredigion wedi bod yn llwyddiannus iawn yn y frwydr yn erbyn lledaeniad y coronafeirws, a hoffai i’r llwyddiant hwn barhau er lles ei dinasyddion yn 2021.

Ar hyn o bryd mae cyfraddau heintio’r coronafeirws yn isel yng Ngheredigion. Fodd bynnag, gyda disgwyl i ragor o bobl fynd ar wyliau yng Nghymru a Cheredigion yn ystod yr haf, mae angen i ni gael mesurau ar waith sy'n helpu pobl i ymweld â siopau a gwasanaethau yn ein trefi yn ddiogel a chadw cyfraddau'n isel. Mae'r Parthau Diogel hefyd yn caniatáu i fusnesau barhau i fasnachu yn yr awyr agored.

Mae'r mesurau sy'n gysylltiedig â'r Parthau Diogel yn cynnwys ehangu llwybrau troed, iselhau cyrbau, cau ffyrdd, addasu i gilfachau parcio ac ardaloedd i fusnesau fasnachu er mwyn caniatáu i bobl gadw pellter cymdeithasol 2 fetr bob amser.

Mae’r ffyrdd a fydd yn cael eu cau ar gyfer yr haf ar gael o dan y tudalennau isod sy’n benodol i Parthau Diogel 2021.

Mae mapiau a gwybodaeth bellach sy'n dangos y ffyrdd yr effeithir arnynt ym mhob tref ar gael o dan y tudalennau isod sy’n benodol i bob tref.

 

Cyflwynwyd y Parthau Diogel cyntaf yn Aberaeron, Aberystwyth, Aberteifi a Cheinewydd ym mis Gorffennaf 2020 gan ddefnyddio pwerau argyfwng.

Ers hynny mae gorchmynion traffig dros dro 18 mis wedi'u rhoi ar waith ynghyd ag addasiadau yng nghanol pob un o’r trefi. 

Ymgysylltu

Gofynnwyd barn trigolion ac ymwelwyr Ceredigion ar y parthau diogel yn ystod ac yn dilyn eu gweithredu yn 2020. Mae addasiadau i'r parth diogel yn 2021 wedi digwydd o ganlyniad i'r adborth a gafwyd.

Crëwyd y parthau diogel presennol o dan bwerau argyfwng gan fod angen sicrhau diogelwch y cyhoedd rhag haint y coronafeirws wrth i ganol trefi ailagor.

Mae'r cyngor yn parhau i gasglu barn y busnesau, y trigolion ac ymwelwyr â chanol y trefi hyn i'n helpu i nodi, beth hoffai pobl a helpu i lywio a siapio dyfodol canol ein trefi.

Mae'r barn diweddaraf i'w weld yn yr Adroddiad Adborth yma.

Gyda disgwyl y bydd mwy o bobl yn treulio eu gwyliau yng Nghymru a Cheredigion yn ystod 2021, mae angen i ni sicrhau fod mesurau ar waith a fydd yn helpu pobl i ymweld â siopau a defnyddio gwasanaethau yn ein trefi mewn modd diogel.

O ganlyniad, cyflwynwyd mesurau newydd ar gyfer cyfnod gwyliau'r Pasg o'r wythnos yn dechrau 29 Mawrth. Gwnaed nifer o newidiadau i adlewyrchu adborth i'r arolygon a gynhaliwyd rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2020. Roedd gweithredu rhai mesurau dros gyfnod y Pasg yn caniatáu i'r Cyngor weld a oedd y newidiadau newydd yn gweithio ac i adolygu ymhellach cyn yr haf.

Roedd yr addasiadau hyn yn ystyried ystod eang o wybodaeth gan gynnwys canlyniadau'r arolwg a gynhaliwyd yn ystod yr haf ac yn yr hydref, ac adborth arall, cyfraddau heintio Covid-19 a nifer yr achosion mewn gwahanol ardaloedd, yr adegau masnachu prysuraf, nifer y myfyrwyr ac ymwelwyr ac adeg y flwyddyn.

Mae'r ffyrdd y cytunwyd i’w cau ar gyfer haf 2021 fel a ganlyn:

Aberaeron:
Bydd y trefniadau'n parhau fel y maent gan gynnwys mân newidiadau i Bwll Cam a Ffordd y Gaer. Bydd Pen Cei yn parhau ar gau i draffig cerbydol 24/7 gyda gweithwyr wedi'u lleoli wrth y rhwystr bob dydd.

Aberystwyth: Bydd ffyrdd yn cau o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 11am a 5pm yn ystod;

  • Haf, 02 Gorffennaf hyd at 30 Medi. 

Ni fydd dim ffyrdd yn cau ar ddydd Sul. 

Y Borth:
Bydd trefniadau yn parhau fel y maent heb fwriad i gau dim ffyrdd

Aberteifi:
Bydd ffyrdd yn cau o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 12pm a 4pm yn ystod

  • Wythnos gwyliau ysgol Hanner Tymor, 28 Mai i 07 Mehefin
  • Haf, 02 Gorffennaf hyd at 30 Medi. Bydd y ffyrdd yn cau o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Ni fydd dim ffyrdd yn cau ar ddydd Sul.

Ceinewydd:
Oherwydd bod natur y dref yn gyrchfan ar gyfer gwyliau, bydd ffyrdd yn cau bob dydd rhwng 12pm a 5pm yn ystod;

  • Gwanwyn/Haf, 28 Mai hyd at 30 Medi.

Bydd data'n parhau i gael ei fonitro fel bod y broses o weithredu’r Parthau Diogel yn cael ei hadolygu'n barhaus. 

Mae rhagor o wybodaeth am y trefi unigol ar gael isod.

Newidiadau i lif traffig unffordd a dwyffordd

Bydd yr holl newidiadau i lif traffig unffordd a dwyffordd yn parhau i fod yn weithredol am 24 awr hyd nes y daw cynllun y Parthau Diogel i ben. Caiff diwedd yr angen am Barthau Diogel ei bennu gan y pandemig a chyngor Llywodraeth Cymru.

Aberaeron

Mae'r gorchmynion traffig sydd ar waith yn Aberaeron ar hyn o bryd yn parhau i fod mewn grym a byddant yn cwmpasu ail-gyflwyno'r parth diogel yn ôl y gofyn. Dyma’r prif nodweddion a newidiadau:

Sgwâr Alban - Y droedffordd sydd eisoes wedi’i lledu i aros ar y Gefnffordd.

Ffordd y Gogledd - Cael gwared ar y mannau parcio o flaen 30-31 Ffordd y Gogledd i gynorthwyo gwelededd wrth ddod ar y gefnffordd o Sgwâr Alban.

Ffordd y Gaer - Llif traffig dwyffordd o Sgwâr Alban (Cefnffordd A487) i faes parcio Ffordd y Gaer. Bydd system unffordd 24 awr ar waith o'r fan lle mae'r ffordd yn culhau ar ôl maes parcio Ffordd y Gaer tuag at faes parcio Traeth y Gogledd ar hyd glan y môr ac i mewn i Stryd y Tabernacl.

Stryd y Tabernacl - System unffordd 24 awr i barhau.

Heol y Frenhines - Bydd parcio ar y stryd yn cael ei ailgyflwyno. Fodd bynnag, bydd y system unffordd yn parhau ar gyfer y Gwasanaeth Tân a allai fod angen gallu gadael ar hyd y ffordd hon.

Cadwgan - Cael gwared ar y ddarpariaeth barcio er mwyn lledu’r droedffordd. Yn ogystal, mynediad a ffordd allan i faes parcio Pwll Cam drwy Cadwgan.

Pen Cei - Pen Cei i aros ar gau 24 awr y dydd. Bydd bolardiau sy’n cael eu goruchwylio gan weithwyr yng nghanol y ffordd gyda photiau planhigion ar y naill ochr.

Pwll Cam - Ad-drefnu cynllun y maes parcio. Bydd mynediad i'r maes parcio o Stryd y Farchnad a Chadwgan. Bydd y droedffordd o gwmpas Pwll Cam yn cael ei ledaenu trwy ostwng yr ardaloedd bloc a godwyd a'i ymestyn yn rhannol i mewn i'r maes parcio. Bydd hyn yn gwella hygyrchedd a gofod ar gyfer yr holl ddefnyddwyr ac yn creu troedffordd barhaus i gerddwyr o Stryd y Farchnad o gwmpas rhan uchaf Pwll Cam i Ben Cei.

Heol y Farchnad - Y system unffordd 24 awr i barhau. Cyflwyno croesfan ychwanegol i gerddwyr o’r optegydd ar draws i’r droedffordd estynedig o flaen y Celtic. Ailgyflwyno mannau parcio y tu allan i 13-17 Heol y Farchnad.

Stryd y Bont - Ffordd allan unffordd 24 awr o Heol y Farchnad.

Parcio i'r Anabl – Yn parhau i fod gyferbyn â Costcutters ac ar hyd Sgwâr Alban. Mannau newydd i gael eu cyflwyno ar Stryd Buddug. 

Map Aberaeron

Hysbysiad Cyhoeddus Aberaeron

Hysbysiad Cyhoeddus Aberaeron 2

Aberteifi

Wrth i nifer yr ymwelwyr gynyddu, bydd galw cynyddol am le ar y briffordd i allu cynnal digon o bellter cymdeithasol. Mae hyn yn cyfiawnhau parhau i ddefnyddio mesurau dros dro i reoli traffig yng nghanol y dref. Trafodaethau gyda'r Aelodau Lleol ar yr amseroedd ar gyfer gweithredu'r Parth Diogel yn Aberteifi rhwng 12:00 a 16:00. Roedd y mwyafrif helaeth o ymwelwyr yn ymweld yn ystod yr amser hwn y llynedd, ac mae’r amser ychwanegol yn y bore o fudd i bobl sydd angen cael mynediad i’r dref gyda cherbyd.

Yn ystod diwedd 2020, cynhaliwyd ymgynghoriad ar y modd y gweithredwyd y Parthau Diogel yn 2020. Roedd y rhan fwyaf o gwynion yn Aberteifi yn ymwneud â thagfeydd traffig a'i effeithiau ym Mwldan Isaf a Mwldan Ganol yn ogystal ag ar hyd Stryd y Cei. Yn ogystal, roedd nifer fawr o ymatebwyr yn teimlo nad oedd digon o fannau parcio ar gael i ddeiliaid bathodyn glas ar y prif strydoedd mawr. I ymateb i’r cais hwn, pan roddwyd y Parthau Diogel ar waith yn yr Hydref, caniatawyd mynediad i ddeiliaid bathodyn glas wrth i nifer yr ymwelwyr ostwng; bydd hyn yn parhau yn 2021.

Er mwyn lleddfu pryderon y rhan fwyaf o gwynion a gafwyd yn 2020, bydd angen i'r Parth Diogel yn Aberteifi eleni weithredu'n wahanol iawn. Bydd y newidiadau sy'n ofynnol i’r modd y mae’r dref yn gweithredu fel arfer yn llawer anoddach i'w cyflawni gan na fydd yr holl draffig trwodd yn cael ei ddargyfeirio drwy Stryd y Cei a Mwldan Isaf a Mwldan Ganol. Er mwyn rheoli'r newidiadau hyn yn raddol yn unol â'r cynnydd yn nifer yr ymwelwyr a newidiadau i’r cyfyngiadau, bydd dull graddol yn cael ei ddefnyddio.

Cam 1

Er mwyn caniatáu pellter cymdeithasol a chaniatáu masnach ar y droedffordd, bydd y mannau parcio y tu allan i gaffis/bwytai yn y Stryd Fawr a Phendre ar gau i gerbydau a bydd y troedffyrdd yn cael eu lledu. Caiff hyn ei wneud gyda rhwystrau coch/gwyn neu reiliau metel i ddechrau. Caniateir mynediad arferol heb gyfyngiadau i gerbydau i'r Stryd Fawr a Phendre yn ystod Cam 1. Caniateir llif dwyffordd ar hyd Rhodfa’r Felin tra bydd y Parth Diogel ar waith yn 2021.

Er mwyn lleihau nifer y cerbydau sy’n teithio’n ddiangen drwy rannau mwyaf cul y Stryd Fawr, bydd arwyddion yn cael eu gosod ar y gefnffordd er mwyn cyfeirio traffig Aberteifi sy’n cyrraedd o’r de i gylchfan yr ysbyty a chael mynediad i’r dref drwy Sgwâr Finch.  

Cam 2a

Ar ôl y Pasg a chyn penwythnos Calan Mai, bydd gwaith i gyflwyno’r newidiadau i’r traffig yn dechrau. Bydd system ddwyffordd yn cael ei chyflwyno yn Stryd Morgan a’r Strand yn parhau fel system unffordd ond bydd gwaith yn parhau i gael ei wneud yn ystod Cam 2a i'w cyflwyno yn y dyfodol, os bydd angen. Bydd hyn yn cynnwys gwrthdroi'r llif unffordd ar hyd Stryd y Santes Fair a chyflwyno llif unffordd o'r Stryd Fawr ar hyd Rhes y Coleg. Bydd Pwllhai ynghau rhwng y Milfeddygon a'r Stryd Fawr i ganiatáu masnachu a gwella diogelwch cerddwyr ar hyd Pwllhai ac ar y Stryd Fawr.

Bydd y llwybrau troed llydan yn cael eu newid i fod ar yr un lefel â'r llwybrau troed cyfagos, a bydd unrhyw rwystrau yn cael eu hamnewid am folardiau adlewyrchol. Bydd unrhyw faes masnachu ychwanegol yn cael ei ystyried a'i gynnwys.

Bydd yr holl wasanaethau bws i mewn i Aberteifi yn cael eu cyfeirio at y safle bws ger Neuadd y Dref gan ddileu'r angen i fysiau yrru ar hyd Stryd y Cei neu'r Stryd Fawr.

Bydd yna gynnydd mewn traffig ar hyd Stryd y Priordy a Stryd y Cei yn sgil cau'r Stryd Fawr. Er mwyn lleihau'r tagfeydd posibl ac i ddadgymell y llwybr trwy'r Stryd Fawr/Stryd y Cei, bydd angen cyflwyno newidiadau i lwybro traffig a gwella'r llif allan o Stryd y Priordy gyda gwell blaenoriaeth ar y gyffordd gyferbyn â Neuadd y Dref. Ar hyn o bryd, mae cyffordd Stryd y Priordy yn anodd, mae gwelededd yn gyfyngedig, ac mae angen cyflwyno llif traffig llyfn a dilyffethair o Stryd y Priordy i Bendre. Cyflawnir hyn trwy dynnu'r mynediad drwodd o'r Stryd Fawr i Bendre, ynghyd â chreu sgwâr newydd i gerddwyr. Bydd angen i unrhyw draffig sy'n llifo ar hyd y Stryd Fawr droi i lawr Rhes y Coleg. Dim ond trwy Stryd y Priordy y bydd mynediad i Bendre.

Yn ystod amseroedd y Parth Diogel (12:00 – 16:00) bydd y Stryd Fawr ar gau i draffig cerbydau, gyda'r eithriadau canlynol:

  • Deiliaid Bathodyn Glas
  • Gwasanaethau Brys
  • Cyflenwadau i Fusnesau

Cam 2b

Mae Cam 2b yn gam dewisol na fydd yn cael ei gyflwyno oni bai bod lefelau eithriadol o uchel o draffig yn dod i mewn i'r dref.

I leihau traffig ymhellach trwy Stryd y Cei a chaniatáu ffordd wahanol tuag at Bendre, bydd Stryd Morgan a'r Strand yn cael eu gwneud yn system ddwyffordd.

Bydd mynediad ar hyd Grosvenor Hill ac i Stryd y Cei yn cael ei reoli o dan Orchymyn mynediad yn unig. Bydd angen ail-flaenoriaethu'r gyffordd wrth y Castell gyferbyn â Phont Aberteifi hefyd i gynnwys llif dwyffordd. Bydd cylchfan fach newydd yn disodli'r marciau ffordd presennol a bydd arwyddion yn cael eu codi i ddangos y llwybr trwodd newydd. Bydd gweithredwr ar gael wrth y gylchfan fach newydd ger Pont Aberteifi i helpu gyda chyfarwyddiadau a gwybodaeth am y Parthau Diogel ac i gadw traffig i lifo.

Amseroedd ac Eithriadau Cau Ffyrdd

Yn ystod amseroedd y Parth Diogel (12:00 – 16:00) bydd y Stryd Fawr ar gau i draffig cerbydau, gyda'r eithriadau canlynol:

  • Deiliaid Bathodyn Glas
  • Gwasanaethau Brys
  • Cyflenwadau i Fusnesau

Bydd ail farsial sydd wedi'i leoli yn yr un lle â'r llynedd ger Neuadd y Sir yn gweithredu'r rhwystr ac yn cynorthwyo'r cerbydau hynny sydd angen mynediad i'r Stryd Fawr.

Ni chaniateir mynediad i'r Stryd Fawr ar hyd Stryd y Santes Fair tra bydd y Parth Diogel ar waith, a bydd rhwystr yn cael ei osod wrth y gyffordd â Lôn Siawnsri.

Map Aberteifi - Cam 1

Map Aberteifi - Cam 2(A)

Map Pwllhai, Aberteifi

Hysbysiad Cyhoeddus Aberteifi

Hysbysiad Cyhoeddus Aberteifi 2

Hysbysiad Cyhoeddus Pwllhai

Hysbysiad Cyhoeddus Pwllhai 2

Aberystwyth

Mae'r Parth Diogel yn Aberystwyth yn cael ei yrru i raddau helaeth gan nifer yr ymwelwyr a phenderfyniad Llywodraeth Cymru i ganiatáu i bob llety gwyliau a lletygarwch dan do ailagor ar gyfer busnes.

Newidiadau Parth Diogel 2021

Mewn egwyddor, bydd y Parthau Diogel yn aros fel yr oeddent yn 2020, ond gwnaed ychydig o ddiwygiadau ar ôl ystyried yr adborth a gafwyd o'r arolwg cyhoeddus.

Bydd oriau'r Parth Diogel yn 11:00 tan 17:00 dydd Llun i ddydd Sadwrn yn ystod y cyfnodau gweithredu. Bydd ffyrdd yn cau rhwng 11am a 5pm yn ystod wythnos gwyliau ysgol Hanner Tymor, 28 Mai i 07 Mehefin, ac yna 02 Gorffennaf hyd at ddiwedd mis Medi. Bydd y ffyrdd yn cau o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Ni fydd dim ffyrdd yn cau ar ddydd Sul.

Roedd yr adborth a dderbyniwyd yn ystod 2020 yn canolbwyntio ar fynediad cyfyngedig i ganol y dref ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas a'r Henoed; Lleoliad y mannau parcio i ddeiliaid Bathodyn Glas; Colli mannau parcio i breswylwyr o ganlyniad i adleoli mannau parcio i ddeiliaid Bathodyn Glas; Mynediad cyfyngedig i gyflenwyr; Mwy o draffig ar y Promenâd; ffordd allan o ardal Traeth y De i breswylwyr. Adolygwyd y rhain yn ystod y flwyddyn a'u llacio fel yn briodol ac fe'u hadolygwyd ymhellach ar gyfer 2021.

Mae'r Cyngor wedi adolygu'r Parthau Diogel yn sgil yr adborth hwn. Treialwyd y rhain yn ystod cyfnod gwyliau'r Pasg i weld pa mor dda yr oeddent yn gweithio cyn gwneud addasiadau pellach ar gyfer yr haf. Mae'r prif newidiadau fel a ganlyn:

Heol y Bont – mae'r Rhwystr â staff bellach wedi'i leoli ymhellach ar hyd y stryd, ychydig ar ôl Stryd y Frenhines / Lôn Rhosmari. Mae hyn er mwyn mynd i’r afael â’r tagfeydd traffig ar y promenâd fel y disgrifir isod a gwell mynediad i'r ardaloedd preswyl wrth gau ffyrdd. Caniateir i gyflenwadau i fusnesau ar Y Stryd Fawr fynd drwy'r rhwystr hwn. 

Lôn Rhosmari - mae’r stryd hon wedi’i newid o fod yn system ddwyffordd i fod yn system unffordd. Ni fydd y stryd ar gau yn ystod oriau'r Parth Diogel a bydd yn aros ar agor a bydd system unffordd ar waith 24 awr y dydd. Mae'r newid hwn wedi'i roi ar waith i gynnal ffordd allan i drigolion a thraffig lleol sy'n gadael ardal Traeth y De ac i oresgyn yr angen i gyfeirio'r holl draffig i'r gogledd ar hyd y promenâd.

Stryd y Frenhines - bydd y stryd hon hefyd yn aros ar agor ynghyd â rhan o’r Ffynnon Haearn i hwyluso'r uchod ac i ganiatáu ffordd allan i drigolion o Stryd Bont / Stryd Powell / Stryd y Frenhines.

Heol y Wig - Bydd Heol y Wig ar gau yn gyfan gwbl yn ystod oriau'r Parth Diogel, fodd bynnag, mae'r stryd gyfan wedi newid o ddwy ffordd i un ffordd tuag at gyfeiriad y Promenâd, er mwyn hwyluso masnachu awyr agored y tu allan i oriau'r parth diogel. Y bwriad hefyd yw goresgyn tagfeydd a achosir gan draffig dwyffordd yn goresgyn rhannau cul y stryd. Bydd lled y lôn gerbydau yn cael ei leihau trwy ledu'r troedffyrdd i ddechrau gan ddefnyddio bolardiau/balciau ac yna adeiladu troedffyrdd ar ôl hanner tymor Mai/Mehefin. Y tu allan i oriau'r Parth Diogel neu pan nad yw Parthau Diogel yn weithredol, bydd y cyfeiriad Un Ffordd yn gweithredu am 24 awr. Darperir cilfachau llwytho i hwyluso dosbarthu i fusnesau.

Ffordd y Môr a Stryd y Baddon - Newid o Barthau Diogel 2020; Bydd rhan o Ffordd y Môr yn parhau ar agor yn ystod oriau'r Parth Diogel i ddarparu llwybr allan o'r promenâd trwy Stryd y Baddon a fydd yn helpu i leihau tagfeydd ar y promenâd. Er mwyn hwyluso gwell mynediad i gerddwyr y tu allan i oriau'r parth diogel, bydd llif y traffig ar hyd Ffordd y Môr a Stryd y Baddon yn cael ei newid i weithredu un ffordd i gyfeiriad o'r Promenâd i Forfa Fawr. Bydd gweddill Ffordd y Môr rhwng Stryd y Baddon a Rhodfa’r Gogledd ar gau yn ystod oriau’r Parth Diogel yn yr un modd ag yn 2020. Cynigir lleihau lled y gerbytffordd yn ffordd y Môr drwy ehangu'r troedffyrdd, ond dim ond ar ôl hanner tymor Mai/Mehefin y caiff hyn ei weithredu. Y tu allan i oriau'r Parth Diogel neu pan nad yw’r Parth Diogel ar waith, bydd y cyfeiriad unffordd yn cael ei gynnal 24 awr y dydd.

Stryd Portland – bydd y Rhwystr â staff yn yr un lleoliad ag yn 2020. Caniateir i gyflenwadau i fusnesau a Deiliad Bathodyn Glas sy'n ceisio mynediad i’r Porth Bach fynd drwy'r rhwystr hwn. Bydd nifer y mannau parcio i ddeiliaid Bathodyn Glas yn cael ei leihau a byddant yn cael eu hadleoli i Stryd y Popty (gweler isod am fwy o fanylion). Bydd cilfach ddosbarthu yn cael ei rhoi wrth ymyl y fynedfa gefn i Boots.

Maes Alfred, Stryd y Gorfforaeth, a Ffordd y Môr – Bydd Ffordd y Môr rhwng Stryd y Baddon a Stryd Portland yn newid o fod yn system ddwyffordd i fod yn system unffordd i’r cyfeiriad i ffwrdd o’r Promenâd. O ganlyniad i'r uchod, mae'r cyfeiriad unffordd ar hyd Maes Alfred a Stryd y Gorfforaeth wedi'i wrthdroi i'r cyfeiriad arall. Bydd hyn ar waith am 24 awr y dydd gan gynnwys y tu allan i oriau’r Parth Diogel. Bydd y strydoedd hyn yn cael eu cynnwys yn y Parthau Diogel ac felly byddant ar gau yn ystod yr oriau hyn.

Stryd y Popty - Mae cyfeiriad y traffig unffordd ar Stryd y Popty wedi’i wrthdroi. Bydd hyn yn weithredol am 24 awr y dydd gan gynnwys y tu allan i oriau’r Parth Diogel. Caniateir mynediad o’r Porth Bach ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas yn ystod oriau’r Parth Diogel.

Bydd mannau parcio ychwanegol yn cael eu darparu i ddeiliaid Bathodyn Glas a byddant ar waith 24 awr y dydd i leihau nifer y mannau parcio i breswylwyr sydd eu hangen er mwyn darparu mannau parcio i ddeiliaid Bathodyn Glas yn Stryd Portland ac i gynyddu nifer y mannau parcio sy'n agosach at ganol y dref.

Lôn Cambria / Y Ffynnon Haearn – Bydd Lôn Cambria ar agor yn ystod oriau’r Parth Diogel. Bydd rhywfaint o fannau parcio ychwanegol yn cael eu darparu i ddeiliaid Bathodyn Glas yn Lôn Cambria.  

Y Ffynnon Haearn - Bydd Y Ffynnon Haearn ar gau yn llwyr yn ystod oriau'r Parth Diogel. Y bwriad yw lleihau lled y gerbytffordd trwy ledu'r troedffyrdd, ond dim ond ar ôl hanner tymor Mai/Mehefin y bydd yr adeiladu allan o'r troedffyrdd yn cael ei weithredu. Bydd y bae llwytho presennol yn cael ei symud i'r ochr arall, a thrwy hynny symud llif traffig i ochr dde'r ffordd. Cynigir croesfan wrth y gyffordd â Lôn Cambria. Dim ond ar yr un pryd ag y bydd gwaith ehangu'r droedffordd yn gweithredu y bydd hyn yn cael ei weithredu. Cynllun Y Ffynnon Haearn.

Map Aberystwyth

Map Aberystwyth mewn manylder

Hysbysiad Cyhoeddus Aberystwyth

Hysbysiad Cyhoeddus Aberystwyth 2

Borth

Mae mesurau newydd wedi'u cyflwyno yn Y Borth i ddarparu mwy o le i gerddwyr fynd heibio mewn tri lleoliad. Bydd mwy o arwyddion hefyd yn cael eu codi i gynghori cerddwyr i gadw at bellteroedd diogel ac i rybuddio modurwyr am bobl sy'n defnyddio'r ardaloedd hyn i fynd heibio.

Map Borth

Ceinewydd

Bydd y Parth Diogel yn debyg i'r un a weithredwyd yn 2020. Bydd cau bob dydd yn ystod yr oriau brig yn cael ei newid fel bod y cau yn dechrau am hanner dydd ac yn gorffen am 5pm.

Bydd y rhwystr wrth fynd i mewn i'r Parth Diogel yn symud yn agosach i Dafarn y Llew Du yn Rhes Glanmor. Ar ôl y pwynt hwn dim ond ar gyfer Trigolion Rhes Uchel/Rhes Glanmor y caniateir mynediad i fodur; Trigolion Gwestai; RNLI a gwylwyr y glannau; Cychod (Wedi’u gosod ar do a threlars); Parcio i Ddeiliaid Bathodyn Glas a Danfoniadau Busnes. Mae yna rai cynlluniau i ehangu troedffyrdd a gwella rhai cyffyrdd hefyd.

Map Cei Newydd

Hysbysiad Cyhoeddus Cei Newydd

Hysbysiad Cyhoeddus Cei Newydd 2

Ym mis Gorffennaf 2020, danfonwyd llythyr a holiadur i’r holl fusnesau yn y Sector Lletygarwch yn amlinellu’r mesurau dros dro a gynigwyd gan Gyngor Sir Ceredigion i helpu’r sector lletygarwch i addasu, a gweld faint o ddiddordeb oedd yna ynghylch defnyddio’r palmant ar gyfer eistedd yn yr awyr agored.

Llythyr at fusnesau yn y sector lletygarwch.

Holiadur i fusnesau yn y sector lletygarwch.

Mae'r trefniadau hyn wedi cael eu hadolygu ac mae llythyrau wedi cael eu hanfon at fusnesau yn amlinellu'r tefniadau ar gyfer prydlesu neu gael gorchmynion cydsynio yn ystod 2021.

Pam cyflwyno’r newidiadau?

Cyflwynwyd y mesurau gan ddefnyddio pwerau brys i sicrhau bod ein trefi yn llefydd diogel i’n trigolion a phawb sy’n ymweld â’r sir. Wrth i’r cyfyngiadau ar symud yn y sir gael eu llacio’n raddol ac o ystyried bod y gofynion o ran cadw pellter cymdeithasol yn parhau’n bwysig, mae angen gwneud rhai newidiadau i’r trefi oherwydd y perygl i’r cyhoedd. Mae Ceredigion wedi llwyddo’n hynod o dda i atal y Coronafeirws rhag lledaenu ac rydym am barhau â’r gwaith hwn er lles trigolion y sir.

Pa bwerau sydd gan y Cyngor i wneud hyn ac am ba hyd fydd y mesurau mewn grym?

Caiff y ffyrdd eu cau i hwyluso’r broses o greu parthau diogel yn unol ag Adrannau 1(1), 2(1), 14(1b) a (3) Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 fel y’i diwygiwyd gan y Ddeddf Traffig Ffyrdd (Deddf Cyfyngu Dros Dro 1991) sy’n caniatáu i’r ffyrdd fod ar gau am hyd at 21 diwrnod gyda’r opsiwn o ymestyn hyn am 21 diwrnod arall.

Yn dilyn hynny, cyhoeddwyd Gorchmynion Traffig Dros Dro am gyfnod o 18 mis o Awst 2020.

Pryd fydd y ffyrdd ar gau?

Yn wreiddiol, roedd heolydd ar gau rhwng 11yb a 6yh yn ddyddiol. Addaswyd yr amserau yma a nawr mae amseroedd newydd ar waith. Yng Ngheinewydd, mae'r ffyrdd yn cau rhwng 12 a 5pm bob dydd tan ddiwedd mis Medi ar hyn o bryd; yn Aberystwyth, mae'r ffyrdd yn cau rhwng 11am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o'r 2il o Orffennaf hyd at ddiwedd mis Medi. Bydd y ffyrdd sy'n cau ar y Stryd Fawr yn Aberteifi rhwng 12pm a 4pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o'r 2il o Orffennaf hyd at ddiwedd mis Medi. Mae mesurau’r Parthau Diogel yn Aberaeron a Borth yn gweithredu 24/7.

Lle gaf i barcio?

Cynghorir y trigolion a’r ymwelwyr i barcio i ffwrdd o ganol y dref lle bynnag bo hynny’n bosibl. 

Mae llefydd parcio i’r anabl ar gael mewn mannau cyfleus wrth ymyl pob un o’r parthau diogel.

A oes unrhyw eithriadau i fusnesau?

Darperir eithriadau ar gyfer y Gwasanaethau Brys (gan gynnwys Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub a Doctoriaid), Darparwyr Gofal ac Ymgymerwyr Statudol (ar gyfer atgyweiriadau brys yn unig), ac ar gyfer danfon nwyddau i fusnesau o fewn y Parthau Diogel.

A oes modd i fusnesau fasnachu yn yr awyr agored?

Er mwyn cael gwybodaeth ynglŷn â masnachu yn yr awyr agored, lleoli byrddau a chadeiriau a gosod arwyddion yn ystod y cyfnod hwn, bydd angen i fusnesau gysylltu â’r Cyngor drwy anfon neges e-bost i clic@ceredigion.gov.uk neu ffonio 01545 570881.

Pryd fydd y biniau yn cael eu casglu?

Atgoffir y trigolion i roi eu gwastraff allan i’w gasglu erbyn 8am ar y diwrnod casglu arferol. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen biniau ac ailgylchu.

Pan fyddaf yn y dref, beth ddylwn ei wneud â’m sbwriel?

Mae’r Cyngor yn gofyn i ymwelwyr a thrigolion ein cynorthwyo ni i gadw ein trefi a’n sir yn lân drwy fynd â’u sbwriel gartref gyda nhw neu ddefnyddio’r biniau a ddarperir.

A fydd y toiledau cyhoeddus ar agor?

Bydd y toiledau cyhoeddus yn parhau ar agor yn ystod y cyfnod hwn.

 phwy y gallaf gysylltu?

Gallwch anfon neges e-bost i clic@ceredigion.gov.uk neu gallwch ffonio 01545 570881.

Pam y cyflwynwyd y cynigion hyn ar fyr rybudd, heb ymgynghori â’r trigolion, perchnogion y siopau a’r cyhoedd? Sut y gellir gorfodi hyn?   

Mae’r Cyngor wedi defnyddio pwerau brys wrth ymateb i’r pandemig iechyd ac felly nid oedd angen ymgynghori ynghylch y cynigion hyn cyn eu cyflwyno. Yn ddelfrydol, byddai’r Cyngor wedi ymgynghori ynghylch y cynigion ond gan fod y cyfyngiadau yn cael eu llacio’n gyflym, ychydig iawn o amser oedd ar gael i baratoi’r cynlluniau ar gyfer y Parthau Diogel. Mae’r broses ymgynghori a gynhaliwyd trwy Hydref-Rhagfyr 2020 wedi galluogi rhai newidiadau i’r ffordd y mae pob un o’r parthau diogel yn gweithredu.    

Pe na fyddai’r mesurau rheoli traffig wedi’u rhoi ar waith yn sydyn, cyn i’r ymwelwyr gyrraedd y sir dros wyliau’r haf, byddai’r perygl i’r cyhoedd yn debygol o fod wedi cynyddu gan na fyddai modd cadw pellter cymdeithasol ar y strydoedd. 

Pam na fu’r cynigion drwy’r broses ddemocrataidd briodol? 

Mae Arweinydd a Dirprwy Arweinydd y Cyngor wedi dirprwyo penderfyniadau sy’n ymwneud â COVID-19 i Grŵp Arweiniol y Cyngor. Gallwch weld cofnod o'r penderfyniad hyn yn y ddogfen Paratoi ar gyfer COVID-19.

Ymgynghorwyd â’r Aelodau Cabinet, yr Aelod Seneddol lleol a’r Aelod lleol o Senedd Cymru a rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf iddynt drwy'r cyfnod hwn. Maent oll wedi cefnogi’r syniad o greu’r Parthau Diogel.  

Beth yw’r sefyllfa gyfreithiol? Nid oes arwyddion yn rhybuddio bod y ffyrdd ar gau ac ni chafwyd llythyron drwy’r drysau.  

Mae’r Cyngor wedi defnyddio pwerau brys wrth ymateb i’r pandemig iechyd ac felly nid oedd angen ymgynghori ynghylch y cynigion hyn cyn eu cyflwyno.  

Caiff y ffyrdd eu cau i hwyluso’r broses o greu parthau diogel yn unol ag Adrannau 1(1), 2(1), 14(1b) a (3) Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 fel y’i diwygiwyd gan y Ddeddf Traffig Ffyrdd (Deddf Cyfyngu Dros Dro 1991) sy’n caniatáu i’r ffyrdd fod ar gau am hyd at 21 diwrnod gyda’r opsiwn o ymestyn hyn am 21 diwrnod arall. 

Yn dilyn hynny, cyhoeddwyd Gorchmynion Traffig Dros Dro am gyfnod o 18 mis o Awst 2020.

Beth am ymateb y masnachwyr? Mae cynifer ohonynt yn gwrthwynebu’r cynlluniau hyn. Mae’n amlwg nad yw eu barn yn bwysig.  

Yn ddelfrydol, byddai’r Cyngor wedi ymgynghori ynghylch y cynigion hyn ond gan fod y cyfyngiadau yn cael eu llacio’n gyflym, ychydig iawn o amser oedd ar gael i baratoi’r cynlluniau ar gyfer y Parthau Diogel. Ers cyflwyno’r cynlluniau, mae’r Cyngor wedi gwrando ar farn y masnachwyr ac rydym wedi gwneud newidiadau. Byddwn yn parhau i adolygu a diwygio’r cynigion os ystyrir bod hynny’n briodol.   

A fydd hyn yn barhaol?  

Mae’r Parthau Diogel wedi’u cyflwyno fel mesur dros dro i ymateb i Bandemig Covid19 ac er diogelwch y cyhoedd. 

Beth yw statws cyfreithiol cau’r Stryd Fawr yn Aberystwyth? Roeddwn ar ddeall mai cefnffordd ydyw.  

Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y Stryd Fawr yn Aberystwyth drwy Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru. Ymgynghorwyd â hwy ynglŷn â’r cynlluniau ar gyfer y Parthau Diogel ac maent wedi cyhoeddi eu hysbysiad eu hunain. 

Pam fod angen cau ffyrdd pan nad oes llawer o gerddwyr?  

Gyda’r cyfyngiadau yn cael eu llacio’n araf yn y sir mae angen sefydlu Parthau Diogel oherwydd y tebygolrwydd o berygl i’r cyhoedd wrth i bobl ddychwelyd i siopa ac wrth i ni gael mewnlifiad o ymwelwyr ar gyfer gwyliau’r haf a fyddai’n golygu na fyddai cadw pellter cymdeithasol yn bosibl ar droedffyrdd cul.  

Mae ffyrdd ar gau i wneud mwy o le i gerddwyr ond wedyn mae caffis/tafarndai yn cael eu hannog i gael mwy o seddi yn yr awyr agored ar y ffyrdd/palmantau.  

Mae cau'r ffyrdd yn rhoi mwy o le i gerddwyr gadw pellter cymdeithasol. Dim ond pan nad ydyn nhw'n rhwystro pellter cymdeithasol diogel yn sylweddol y caniateir cyflwyno'r seddi yn yr awyr agored. Bydd y dull o weithredu’n galluogi siopau a gwasanaethau i fasnachu, yn enwedig lle gallant ond masnachu yn yr awyr agored yn gyfreithlon ac yn ymarferol wrth ddiogelu’r cyhoedd.   

Os ydw i eisiau rhoi byrddau a chadeiriau y tu allan i'm siop gyda phwy ydw i'n siarad?  

Bydd angen i fusnesau gysylltu â'r Ganolfan Gyswllt clic@ceredigion.gov.uk  / 01545 570881 i fasnachu yn yr awyr agored, gosod byrddau a chadeiriau, ac arwyddion yn ystod yr amser hwn. Bydd swyddogion trwyddedu yn cysylltu ac efallai y byddant yn ymweld fel y gallwch wneud hyn mor gyflym a diogel â phosibl. Fodd bynnag, rhoddir blaenoriaeth i gerddwyr os oes lle yn brin. 

A yw masnachu ar y palmant wedi'i gyfyngu i fusnesau lletygarwch neu a all busnesau eraill hefyd arddangos eu cynhyrchion y tu allan i'w siop? 

Na fydd, fodd bynnag, bydd angen i fusnesau gysylltu â'r ganolfan gyswllt clic@ceredigion.gov.uk / 01545 570881 i fasnachu yn yr awyr agored, gosod byrddau a chadeiriau, ac arwyddion yn ystod y cyfnod hwn. Bydd swyddogion trwyddedu yn cysylltu â chi ac efallai'n ymweld er mwyn i chi allu gwneud hyn mor gyflym ac mor ddiogel â phosibl. Fodd bynnag, rhoddir blaenoriaeth i gerddwyr os oes prinder lle. 

A all busnesau y tu allan i'r Parth Diogel hefyd gael trwydded i fasnachu yn yr awyr agored?  

Gallant – fodd bynnag, bydd angen cynnal asesiad i wirio bod digon o le ar gyfer hyn ac nad oes unrhyw berygl i ddiogelwch y cyhoedd.   

Bydd angen i fusnesau gysylltu â'r Ganolfan Gyswllt ar clic@ceredigion.gov.uk / 01545 570881 i fasnachu yn yr awyr agored, gosod byrddau a chadeiriau, ac arwyddion yn ystod yr amser hwn. Bydd swyddogion trwyddedu yn cysylltu ac efallai y byddant yn ymweld fel y gallwch wneud hyn mor gyflym a diogel â phosibl.   

A ganiateir strwythurau dros dro fel Gasebos a Phebyll Mawrion? 

Ie, ar yr amod nad ydynt yn achosi rhwystr i symudiad cerddwyr ac yn cydymffurfio â rheoliadau COVID perthnasol a dylech gysylltu â'r cyngor yn gyntaf cyn bwrw ymlaen ag archebu'r strwythurau hyn.

Sut mae pobl yn yr ardal sydd bellach ar gyfer cerddwyr yn mynd i gael eu plismona i sicrhau eu bod yn cynnal pellter 2m? 

Mae bron yn amhosibl plismona pellter cymdeithasol, fodd bynnag, bydd y cyngor yn gosod arwyddion i atgoffa cerddwyr am yr angen i gadw pellter cymdeithasol a chyfrifoldeb pob unigolyn yw dilyn canllawiau argymelledig Llywodraeth Cymru.  

Mae'r lleoedd y tu mewn i'r siopau yn fwy cyfyng na'r stryd. Pam fod angen mwy o le arnom y tu allan?  

Cyfyngir siopau i nifer y cwsmeriaid ar unrhyw un adeg yn dibynnu ar eu maint a gellir rhoi mesurau ar waith i giwio y tu allan. Nid yw'n bosibl rheoli a chyfyngu ar nifer y bobl sy'n dod i'n trefi yn yr un modd.  Bydd Parthau Diogel yn helpu pobl i ymweld â threfi, siopau a gwasanaethau yn ddiogel.   

Pam na all siopau gynyddu oriau masnachu i leihau cerddwyr yr adegau prysur?  

Penderfyniad i fusnesau manwerthu unigol fydd p'un a yw siopau'n aros ar agor yn hirach.   

A fyddaf yn gallu gyrru i mewn i'r Parthau Diogel i fynd at y fferyllydd i gasglu presgripsiynau?  

Byddwch yn gallu gyrru i'r dref fel arfer cyn 11am neu ar ôl 5pm yn Aberystwyth, gydag amserau gwahanol yn berthnasol mewn mannau eraill. O fewn yr oriau hyn rhaid i bobl barcio y tu allan i'r parthau a cherdded at y fferyllydd. Dynodwyd cilfachau parcio i'r anabl gerllaw i roi rhywfaint o fynediad. Os yw mynediad yn anodd yna mae fferyllwyr fel arfer yn gallu cynorthwyo gyda danfon nwyddau.

Cludo nwyddau 

Sut mae busnesau'n derbyn nwyddau?  

Anogir busnesau i drefnu bod nwyddau yn cael eu cludo i’w heiddo y tu allan i'r amseroedd y mae ffyrdd ar gau. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod pobl sy'n defnyddio'r stryd i gerdded o amgylch y dref yn teimlo'n ddiogel.   

Fodd bynnag, lle nad yw hyn yn bosibl, gellir danfon nwyddau rhwng 11am a 5pm ar gyfer faniau danfon nwyddau a lorïau bach swyddogol yn unig, gydag amseroedd gwahanol yn berthnasol mewn trefi eraill. Bydd cyfyngiad 5mya ar waith. Rydyn ni'n obeithiol y bydd busnesau a siopau yn addasu trwy wneud newidiadau i'r ffordd maen nhw'n gweithredu i helpu i wneud i hyn weithio.  

Sut mae trigolion yn derbyn parseli? 

Fel uchod, lle bo hynny'n bosibl dylid trefnu hyn cyn 11am neu ar ôl 5pm (yn Aberystwyth, gydag amseroedd gwahanol yn berthnasol mewn trefi eraill). Fodd bynnag, lle nad yw hyn yn bosibl, bydd faniau danfon nwyddau neu lorïau yn gallu cael mynediad i ran o'r dref. Bydd cyfyngiad 5mya ar waith. Lle bynnag y bo modd, dylai'r trigolion geisio defnyddio loceri a mannau gollwng a gynigir gan fasnachwyr ar-lein i helpu i leihau traffig trwy'r parth diogel.  

Sut ydw i'n mynd i gael nwyddau sydd wedi’u dosbarthu gan Tesco pan fydd fy stryd ar gau?  

Dylai trigolion drefnu bod y nwyddau yn cael eu cludo i’w cartrefi y tu allan i amseroedd cau'r ffordd lle bynnag y bo modd.  

A oes unrhyw lwybrau mynediad masnachwr trwy'r trefi i wneud gwaith cynnal a chadw i eiddo yn y parth diogel?  

Rydym yn annog apwyntiadau cyn 11am ond efallai y byddwn yn caniatáu mynediad i faniau masnach mewn argyfyngau ond dim ond er mwyn gollwng / casglu.  

Trafnidiaeth Gyhoeddus / Parcio Ceir / Beicio 

Beth sy’n digwydd o ran trafnidiaeth gyhoeddus? A fydd y bysiau yn rhedeg o hyd?  

Mae bysiau yn dal i redeg ond ni fyddant yn gallu cludo cynifer o deithwyr ag o’r blaen o achos y gofynion cadw pellter a bydd llwybrau’r bysiau yn gorfod newid er mwyn osgoi’r heolydd sydd wedi cau.  

A fydd modd i gwmnïau tacsi gael mynediad i’r parthau a fydd ar gau?  

Na fydd.

Os ydych yn byw yn y parth sydd wedi’i neilltuo, a oes hawl gennych i fynd a dod yn eich car?  

Na, dim ond cyn 11am ac ar ôl 5pm yn Aberystwyth y caniateir i chi symud eich car, mae gwahanol amseroedd yn berthnasol i rywle arall.

Beth fydd y gosb am gael car wedi'i barcio y tu allan i'ch eiddo yn y parth dynodedig yn ystod cyfnod y parth cerddwyr?  

Caniateir parcio mewn rhai mannau. Rhoddir cosbau yn y mannau lle bydd cyfyngiadau ar waith, yn unol â’r hysbysiadau.  

A oes hawl gan feicwyr i reidio eu beiciau yn y Parthau Diogel?

Nac oes, dylai beicwyr ddod oddi ar y beic wrth fynediad y Parth Diogel gan y bydd pobl yn cerdded ar y strydoedd.  

Anableddau 

Sut y bydd pobl anabl yn cael mynediad i’r trefi?  

Gall pawb fynd i’r Parthau Diogel cyn 11am ac ar ôl 5pm yn Aberystwyth, gydag amseroedd gwahanol yn berthnasol mewn trefi eraill. Mae llefydd parcio i bobl anabl ar gael hefyd yn agos i’r ardaloedd lle bydd y ffyrdd ar gau. Nodir y rhain ar fapiau'r dref.    

  A yw'r Cyngor yn torri'r gyfraith drwy beidio â rhoi mynediad i bobl sydd ag anghenion o ran symud neu anableddau?   

Nac ydy. Cyflwynir y Parthau Diogel yn unol â’r pwerau argyfwng a nodir uchod.  

Cysylltu â phwy? 

Gyda phwy y dylwn gysylltu i drafod cau’r ffyrdd?  

Gwasanaeth Cwsmeriaid Clic Ceredigion yw'r pwynt cyswllt yn y lle cyntaf a bydd y swyddogion yno yn cyfeirio'r ymholiad at y swyddogion perthnasol os na allant ymdrin ag ef. Gallwch ffonio 01545 570881  neu gysylltu ar-lein: Clic – Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid.

Aberaeron 

Ydy Pen Cei wedi’i gau am 24 awr y dydd?

Ydy.

Gyda Lôn Ganol a Cadwgan wedi’u cau, sut mae preswylwyr yn cael mynediad i’r garejys?

Bydd y preswylwyr yn gallu cael mynediad i garejys. Rhwystrau yn unig sydd wedi'u gosod yno er mwyn caniatáu mynediad cyfyngedig.

Ydych chi’n gallu troi oddi ar y system unffordd i'ch tŷ chi ac yn meddwl am sut allwch chi gyrraedd Heol y Frenhines?

Ydych, ond mae’n rhaid i chi fynd i mewn trwy faes parcio Ffordd y Gaer.

Fydd ymwelwyr yn gallu parcio yn yr ysgol ac ym Mhenmorfa drwy'r gwyliau?

Byddant, os nad oes lle yn y dref neu gerllaw. Bydd pobl yn rhydd i ddefnyddio maes parcio Penmorfa yn ystod cyfnod yr argyfwng.

Sut y bydd y bobl sy'n byw ger Gwesty’r Harbourmaster neu bobl anabl sydd am fynd yno yn gallu cael mynediad?

Ar hyn o bryd nid oes mannau parcio i bobl anabl yn yr ardal a effeithir o amgylch Cadwgan a Phen Cei. Mae’r drefn bob amser wedi bod ar sail y cyntaf i'r felin. Mae parcio i'r anabl ar gael ym maes parcio Ffordd y Gaer. Ac wrth gwrs, i gael mynediad i'r ddwy fferyllfa, mae llefydd parcio ar gael y tu allan i ‘London House’.

Mae gennym broblemau mawr yn Heol y Dŵr o ran troi i Lôn Peniel fel y mae.

Bydd yn rhaid gosod bolardiau/conau yno i ddiogelu'r mynediad.

Mae llawer o'r newidiadau hyn er budd un busnes.

Mae'r holl newidiadau wedi'u cyflwyno at ddibenion diogelwch y cyhoedd, ac nid yw'n fater o gefnogi unrhyw fusnes penodol.

A oes toiledau cyhoeddus ar agor i'w defnyddio?

Bydd prif doiledau cyhoeddus y Cyngor ar agor fel arfer.

Aberteifi

Pam fod y drefn hon wedi’i chyflwyno mor ddirybudd ar adeg pan yr ydym i gyd yn paratoi i ail-agor ein busnesau?

Mae'r broses o lacio'r cyfyngiadau ond yn caniatáu cyfnod byr iawn i baratoi cynlluniau.

Os yw’r palmentydd i gael eu clirio, pam ydym yn awr yn annog bod byrddau a chadeiriau yn cael eu gosod arnynt?

Mae deunyddiau ar balmentydd wedi bod yn broblem ers amser hir. Fodd bynnag, y nod o ran cyflwyno seddau yn yr awyr agored yw gwneud canol y dref yn fwy deniadol ac felly annog mwy o bobl i ymweld â’r dref.

Y prif bwrpas yw helpu i ddiogelu'r cyhoedd. Bydd seddau yn yr awyr agored ond yn cael eu caniatáu os na fyddant yn amharu'n sylweddol ar y pellter cymdeithasol diogel. Bydd y drefn hon yn galluogi siopau a gwasanaethau i fasnachu, yn enwedig os ydynt ond yn gallu masnachu yn yr awyr agored wrth ddiogelu'r cyhoedd.

Aberystwyth

Ymhle mae’r fynedfa er mwyn danfon nwyddau i Neuadd y Farchnad? 

Mae modd cael mynediad i ddanfon nwyddau i Neuadd y Farchnad drwy Faes Iago. 

O ran y meysydd parcio y tu allan i’r dref, a fydd y gwasanaeth Parcio a Theithio yn cael ei ailgyflwyno? 

Na fydd.  

Beth am y maes parcio gyferbyn â’r orsaf dân? Mae ffens o’i amgylch ac mae’n wag. 

Mae hwn mewn dwylo preifat a thu hwnt i reolaeth y Cyngor. 

Ymhle mae beiciau modur i fod parcio ar benwythnosau? 

Bydd y maes parcio arferol ar gyfer beiciau modur ar gael ar y promenâd. Os bydd hwn yn llawn, dylai beiciau modur barcio mewn llefydd parcio gwag ar yr heol neu mewn meysydd parcio cyfagos.  

A fydd mwy o arwyddion gan ei bod hi’n anodd gyrru o amgylch y dref? 

Caiff ymwelwyr â'r dref eu hannog i barcio y tu allan i'r dref a cherdded i mewn. Bydd hyn yn lleihau tagfeydd, traffig ac anawsterau parcio yn ardal y promenâd. Hefyd codir mwy o arwyddion i gyfeirio gyrwyr i'r mannau parcio y tu allan i'r dref ac i’w helpu i yrru tuag at y ffordd allan o ardal y promenâd. 

Ceinewydd

Fydd lansio cychod yn cael ei ganiatáu?

Caniateir lansio cychod ar yr amod bod rheolau priodol yr Harbwr yn cael eu bodloni a’r ffioedd perthnasol wedi’u talu.

Fydd mynediad i gerbydau cwsmeriaid y Swyddfa Bost sy’n henoed, yn bobl eiddil ac yn anabl yn cael ei ganiatáu?

Gall pobl gael mynediad i’r gwasanaethau fel arfer cyn 12pm. Caniateir deiliaid bathodyn glas trwy rwystrau’r Parth Diogel i gael mynediad at fannau bathodyn glas ychwanegol y tu allan i Westy Penwig. Caniateir mynediad i gerbydau o amgylch y Wellington ac ar hyd Stryd y Cware

Sut mae disgwyl i'r henoed a'r anabl allu cerdded i fyny'r rhiw serth?

Caniateir deiliaid bathodyn glas trwy rwystrau’r Parth Diogel i gael mynediad at fannau bathodyn glas ychwanegol y tu allan i Westy Penwig. Caniateir mynediad i gerbydau o amgylch y Wellington ac ar hyd Stryd y Cware.

Bydd traffig yn cael ei gynyddu ar Heol y Parc a Heol y Bryn. Sut y bydd ymbellhau cymdeithasol yn cael ei sicrhau ar y strydoedd hyn?

Yn gyffredinol mae cerddwyr yn gwneud llai o ddefnydd o'r strydoedd hyn na'r strydoedd sydd ar gau rhwng 12 a 5pm. Gofynnir i’r cerddwyr sicrhau eu bod yn bodloni’r rheolau ymbellhau cymdeithasol, fel sydd eisoes yn digwydd.