Mae’r Harbyrau yn asedau sy’n dra hoff a gwerthfawr iawn, o amrywiaeth o safbwyntiau masnachol a hamdden ac sydd â rôl bwysig wrth gyfrannu at Amcan Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor o:

Hybu’r economi, cefnogi busnesau a galluogi cyflogaeth

Ymgymerir â rheolaeth yr Harbyrau gan Dîm Gwasanaethau’r Harbwr. Mae Polisi Rheoli Harbyrau Ceredigion yn rhoi’r fframwaith strategol sy’n sail i sut rydym yn cyflawni ein rhwymedigaethau fel Awdurdod Harbwr a sut rydym yn darparu’r Gwasanaeth. Cymeradwywyd a mabwysiadwyd y Polisi presennol gan y Cyngor ar 19 Hydref 2010 ac, o’r herwydd, mae adolygiad bellach yn amserol.

Mae eich barn yn bwysig i ni, felly manteisiwch ar y cyfle i ddweud eich dweud ar y Polisi drafft drwy ymateb i’r cwestiynau a ofynnir yn yr ymgynghoriad hwn. Bydd hyn yn sicrhau y gellir coladu eich ymateb yn effeithiol ac yn effeithlon ac yn sicrhau ei fod yn cael ei ystyried fel rhan o'r gwerthusiad o'r ymateb i'r ymgynghoriad.

Y cynghorydd Keith Henson

Y Cynghorydd Keith Henson
Aelod y Cabinet ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon

1) Pam ydym ni'n adolygu ac yn diweddaru Polisi Rheoli Harbyrau Ceredigion?

Cymeradwywyd a mabwysiadwyd y Polisi presennol gan y Cyngor ar 19 Hydref 2010 ac, o’r herwydd, mae adolygiad bellach yn amserol.

Wrth adolygu’r Polisi, rydym wedi ceisio cadw’r elfennau sydd wedi gweithio’n dda dros y blynyddoedd, tra’n cynnig newid a diweddaru rhai agweddau i adlewyrchu profiad ac adborth. Mae hyn yn cynnwys mynd i'r afael ag unrhyw fylchau rhwng y Polisi a gweithgareddau cyfredol sy'n ymwneud â'r Harbwr sydd wedi'u hadnabod a/neu yn deillio o brofiad.

Gellir ystyried y newidiadau arfaethedig fel mân addasiadau yn hytrach na thrawsnewidiol, gan adeiladu ar y Polisi sydd wedi gwasanaethu rhanddeiliaid yn dda ers dros ddegawd. Mae'r Polisi cyffredinol a'r newidiadau arfaethedig yn cydnabod ac yn adlewyrchu bod yr Harbyrau yn gyfleusterau aml-ddefnydd a rennir a bwriad cyffredinol y Cyngor yw cryfhau'r Polisi fel y gellir parhau i reoli'r rhain mewn modd teg, tryloyw a chytbwys er budd yr holl randdeiliaid.

2) Cyfranogwyr a Sefydliadau a Wahoddwyd

Gwahoddir unrhyw randdeiliaid sydd â buddiant yn yr Harbyrau i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.

3) Dod o hyd i Bolisïau Rheoli Harbyrau Ceredigion

Gallwch chi ddarllen y Polisi sydd ar waith ar hyn o bryd drwy fynd at:

Polisi Rheoli Harbyrau Ceredigion

Gallwch chi ddarllen y Polisi arfaethedig drwy fynd at:

Polisi Rheoli Harbyrau Ceredigion

Hefyd, mae copïau papur o’r dogfennau hyn ar gael yn y mannau a nodir isod

4) Trefniadau’r Ymgynghoriad

Mae'r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau.

Mae modd i chi weld arolwg yr ymgynghoriad drwy ddilyn y ddolen ganlynol:

Adolygiad Polisi Rheoli Harbyrau Ceredigion Arolwg Ymgynghoriad

Os byddwch chi’n llanw’r ffurflen ar-lein, bydd modd i ni gasglu’r ymatebion ynghyd a’u hadolygu mewn modd effeithlon. Serch hynny, os nad oes modd i chi wneud hynny, gallwch chi hefyd lanw’r arolwg sydd i’w weld yn Atodiad 1 a’i ddychwelyd i’r cyfeiriad canlynol, Ymgynghoriad y Polisi Rheoli Harbyrau, Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE.

Hefyd, gallwch chi gael copïau o’r arolwg yn y mannau canlynol.

Swyddfeydd yr Harbyrau (oriau agor yn dibynnu ar y staff sydd ar gael)

Aberystwyth

Cyfeiriad: Swyddfa Harbwr Aberystwyth, Harbwr Aberystwyth, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 1JX

Aberaeron

Cyfeiriad: Swyddfa Harbwr Aberaeron, Harbwr Aberaeron, Traeth y De, Aberaeron, Ceredigion, SA46 0BE

Cei Newydd

Cyfeiriad: Swyddfa Harbwr Ceinewydd, Harbwr Ceinewydd, Y Pier, Ceinewydd, Ceredigion, SA45 9NW

Gellir cysylltu â holl swyddfeydd yr harbwr drwy:

Rhif Ffôn: 01545 570 881

E-bost: clic@ceredigion.gov.uk

Swyddfeydd y Cyngor/Llyfrgelloedd (yn ystod oriau agor)

Mae amseroedd agor Swyddfeydd y Cyngor/Llyfrgelloedd i'w gweld ar dudalen Lleoliadau Canghennau.

Aberaeron

Cyfeiriad: Neuadd y Sir, Stryd y Farchnad, Aberaeron, SA46 0AT

Rhif Ffôn: 01545 572500

E-bost: llyfrgell@ceredigion.gov.uk

Aberystwyth

Cyfeiriad: Canolfan Alun R. Edwards, Sgwâr y Frenhines, Aberystwyth, SY23 2EB

Rhif Ffôn: 01970 633717

E-bost: llyfrgell@ceredigion.gov.uk

Aberteifi

Cyfeiriad: Swyddfa’r Cyngor, Stryd Morgan, Aberteifi, SA43 1DG

Rhif Ffôn: 01545 574110

E-bost: llyfrgell@ceredigion.gov.uk

Llanbedr Pont Steffan

Cyfeiriad: Stryd y Farchnad, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7DR

Rhif Ffôn: 01570 423606

E-bost: llyfrgell@ceredigion.gov.uk

Llandysul

Cyfeiriad: Canolfan Ceredigion, Llandysul, SA44 4QS

Rhif Ffôn: 01545 574236

E-bost: llyfrgell@llandysul.cymru

Cei Newydd

Cyfeiriad: Llyfrgell Gymunedol Ceinewydd, Ystafell 4, Neuadd Goffa, Ffordd Towyn, Ceinewydd, Ceredigion, SA45 9QQ

Rhif Ffôn: 01545 560803

E-bost: newquaylibrary@gmail.com

Ar ôl llanw’r arolygon papur, gallwch chi eu cyflwyno yn y mannau hyn.

5) Gyda phwy i gysylltu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch cyn cwblhau'r arolwg

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr arolwg neu os oes angen y wybodaeth arnoch mewn fformat arall, gallwch chi gysylltu â Rheolwr yr Harbyrau drwy anfon neges i clic@ceredigion.gov.uk neu drwy ffonio 01545 570881 neu fel arall drwy'r post i Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE.

Atodiad 1 – Arolwg Ymgynghoriad Adolygiad Polisi Rheoli Harbyrau Ceredigion

Adolygiad Polisi Rheoli Harbyrau Ceredigion Arolwg Ymgynghoriad

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Defnyddir eich gwybodaeth i fod yn sail i adolygiad Polisi Rheoli Harbyrau Ceredigion.

Mae'n bwysig iawn bod Cyngor Sir Ceredigion yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir er mwyn darparu ein gwasanaethau a chynnal hyder y cyhoedd. Rydym yn cydymffurfio â’n rhwymedigaethau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data ac egwyddorion Deddf Diogelu Data 2018.

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw cyflawni tasg er budd y cyhoedd a ddarperir gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Cydraddoldeb 2010.

Eich hawliau Diogelu Data

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau ac i gael manylion cyswllt ein Swyddog Diogelu Data, ewch i wefan Cyngor Sir Ceredigion a chwiliwch am ‘Hysbysiad Preifatrwydd’ neu ewch i’r dudalen Hysbysiad Preifatrwydd.

Manylion Arolwg yr Ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad yn agor ar start date ac yn cau ar end date. Gellir dychwelyd ffurflenni arolwg wedi’u cwblhau drwy e-bost at clic@ceredigion.gov.uk neu fel arall drwy’r post i, Cyngor Sir Ceredigion Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE.