Rydym eisiau eich syniadau chi am sut i wario’r arian a gafwyd drwy werthu’r ‘Hen Ysgol Sirol’ yn Nhregaron.

Mae’n rhaid defnyddio’r arian ar gyfer gweithgareddau a fydd yn helpu plant 3-16 oed yn Nhregaron i ddysgu am bethau. Ni allwn ddefnyddio’r arian ar gyfer unrhyw beth arall.

Faint o arian sydd ar gael?

£100,645

Mae grŵp wedi cael ei greu i wneud yn siŵr bod yr arian yn cael ei wario’n iawn. Mae pobl o Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Tref Tregaron, Ysgol Henry Richard a Chylch Meithrin Tregaron yn rhan o’r grŵp.

Byddai’r grŵp yn hoffi i chi ateb erbyn 10fed Mai 2023.  Ar ôl y dyddiad hwn, bydd rhywun yn rhoi’r holl atebion mewn adroddiad ac yn ei roi i’r grŵp er mwyn helpu i benderfynu sut i wario’r arian.

Pan fydd penderfyniad wedi cael ei wneud, byddwn yn rhoi gwybod i bobl Tregaron sut fydd yr arian yn cael ei wario drwy gyhoeddi’r penderfyniad ar wefan Cyngor Sir Ceredigion, trwy rannu negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol a thrwy roi gwybod i wahanol sefydliadau.

Sut i ymateb

Pan fyddwch chi wedi darllen y manylion uchod ynghylch yr ymgynghoriad, gallwch lenwi’r ffurflen ymateb electronig.

Fel arall, gallwch ofyn am gopi dros e-bost oddi wrth clic@ceredigion.gov.uk a dylid anfon yr ymateb at yr un cyfeiriad e-bost.

Os ydych chi angen i ni anfon copi papur atoch drwy’r post neu os ydych chi ei angen mewn fformat arall, cysylltwch â clic@ceredigion.gov.uk neu 01545 570881.

Os byddwch yn cael unrhyw drafferthion wrth ymateb, cysylltwch â’r cyfeiriad e-bost neu’r rhif ffôn uchod i nodi hyn.

Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben 10 Mai 2023.