Ar 20fed Mehefin 2017, cytunodd Cabinet Cyngor Sir Ceredigion i'r argymhellion canlynol;
- Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Gofal, Amddiffyn a Ffordd o Fyw gynnal ymgynghoriad ynglŷn â chau Bodlondeb ar y cyd ag Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai
- Cytuno ar ddeuddeg wythnos ar gyfer yr ymgynghoriad (o 03/07/17 hyd 25/09/17) â'r preswylwyr, y teuluoedd a'r rhanddeiliaid allweddol ynghylch y cynnig ac yna ei ddwyn gerbron y Pwyllgor Craffu a'r Cabinet i wneud y penderfyniad terfynol
- Nodi na fydd neb yn cael ei dderbyn i Fodlondeb yn barhaol o ddechrau'r ymgynghoriad hyd at y penderfyniad terfynol
- Comisiynu Eiriolwyr Annibynnol ac Eiriolwyr Galluedd Meddyliol Annibynnol i sicrhau bod llais a barn y preswylwyr yn cael eu clywed drwy gydol y broses
- Nodi y caiff arfarniad llawn o'r adeilad a'r safle ei gomisiynu'n fewnol er mwyn ystyried yr opsiynau ar gyfer ei waredu
Bydd cyfnod yr ymgynghori'n ymestyn o 3ydd Gorffennaf 2017 hyd at 25ain Medi 2017 am 12yp.
Ceir manylion cefndir i’r ymghynoriad yma neu mae copïau papur ar gael yn Swyddfa Fforwm Cymunedol Penparcau (drws nesa' i'r siop sglodion) Llyfrgell Aberystwyth Library a Swyddfa Cyngor Sir Ceredigion, Chanolfan Rheidol.
Daeth ymgynghoriad Bodlondeb i ben am 12yp ar y 25ain Medi 2017.
Cefndir
Adroddiad Housing Research Ltd
Gwybodaeth Gyfoes
Cyflwyniad Gweithdy Aelodau a Theuluoedd
Papurau Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach
Ymgynghoriad
Dogfen Gefndir Cartref Gofal Preswyl Bodlondeb
Cyfarfod Cyhoeddus Bodlondeb - 17/07/2017
Nodiadau Cyfarfod Cyhoeddus Bodlondeb - 17/07/2017
Adroddiad Ymgynghoriad
Atodiad A - Adroddiad Ymgynghoriad Bodlondeb