Adolygiad o Fannau Pleidleisio a Gorsafoedd Pleidleisio Ardal ac Etholaeth Seneddol Cyngor Sir Ceredigion 2019/2020.
Mae gan Gyngor Sir Ceredigion ddyletswydd i rannu ardal yr awdurdod lleol yn ddosbarthiadau etholiadol a dynodi man pleidleisio ar gyfer pob dosbarth etholiadol perthnasol. Rhaid cynnal yr adolygiad (Dogfen Ymgynghori) hwn bob 5 mlynedd, a chynhaliwyd yr adolygiad diwethaf yn 2014.
Rhaid cyflwyno unrhyw sylwadau'n ysgrifenedig i’r Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn dydd Mercher, 4 Rhagfyr 2019. Caiff y cynigion eu hystyried gan y Cyngor yn ystod mis Ionawr 2020 a bydd canlyniadau terfynol yr adolygiad yn cael eu cyhoeddi a’u cynnwys yn y Gofrestr Etholwyr Ddiwygiedig ar 1 Chwefror 2020.
Cliciwch yma i weld cynigion yr adolygiad.
I wneud unrhyw sylwadau’n ysgrifenedig, cwblhewch y ffurflen ymgynghori a’i dychwelyd at:
Ffurflen Ymgynghori | Ffurflen Ymgynghori
Glynis Davies
Rheolwr y Gwasanaethau Etholiadol
Neuadd Cyngor Ceredigion
Penmorfa
Aberaeron
Ceredigion
SA46 0PA
neu gallwch ei hanfon drwy e-bost at: gwasanaethauetholiadol@ceredigion.gov.uk
Ar 23 Ionawr 2020, ystyriodd y Cyngor adroddiad y Swyddog Canlyniadau Gweithredol yn dilyn yr Adolygiad o Fannau Pleidleisio a Gorsafoedd Pleidleisio 2019, a chytunodd â’r canlynol:
- Cael gwared ar yr Orsaf Bleidleisio yng Nghwmystwyth a gofyn i’r etholwyr bleidleisio yn Ysgol Gynradd Gymunedol Mynach, Pontarfynach yn y dyfodol;
- Cael gwared ar yr Orsaf Bleidleisio yng Nghapel Tyngwndwn, Talsarn a gofyn i’r etholwyr bleidleisio yn Neuadd Goffa, Felin-fach yn y dyfodol;
- Symud y Gorsafoedd Pleidleisio yn adeilad y Seindorf Arian yng Nghoedlan y Parc, Aberystwyth yn barhaol fel a ganlyn:
- Symud Gorsaf Bleidleisio Ward Canol, Aberystwyth i Adeilad Byddin yr Iachawdwriaeth, Ffordd Alexandra, Aberystwyth;
- Symud Gorsaf Bleidleisio Ward Rheidol Aberystwyth i Dy’r Harbwr, Y Lanfa;
- Symud yr Orsaf Bleidleisio yn yr Hen Ysgol, Cross Inn, Llanon i’r Hen Ysgol, Pennant, Llanon yn barhaol;
- Defnyddio’r Feithrinfa yn Ysgol Gynradd Gymunedol Comins-coch yn hytrach na’r Ysgol;
- Symud yr Orsaf Bleidleisio yn Ysgol Trewen i Festri Capel Bryngwyn;
- Symud yr Orsaf Bleidleisio yng Nghaffi Sali Mali i Festri Capel Bronant;
- Symud yr Orsaf Bleidleisio yn Festri Capel Pisgah i Neuadd Talgarreg (yn ddibynnol ar gymeradwyaeth Pwyllgor y Neuadd ar 28 Ionawr 2020). Os na fydd Pwyllgor y Neuadd yn cytuno, bydd yr Orsaf Bleidleisio yn aros yn Festri Capel Pisgah. [Ers y cyfarfod, mae Pwyllgor y Neuadd wedi cytuno.]