Mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch iawn o’i hanes o ddarparu gwasanaethau effeithlon ac effeithiol o safon uchel i drigolion Ceredigion. Mae sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu gwasanaethau rhagorol ar gyfer y cyfnod gweinyddu nesaf rhwng 2022 a 2027 yn hanfodol.

Mae’r Strategaeth Gorfforaethol yn nodi Amcanion Llesiant Corfforaethol y Cyngor sydd â’r nod o wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol dinasyddion Ceredigion. Y pedwar Amcan Llesiant Corfforaethol yw:

  • Hybu’r Economi, Cefnogi Busnesau a Galluogi Cyflogaeth
  • Creu Cymunedau Gofalgar ac Iach
  • Darparu’r Dechrau Gorau Mewn Bywyd a Galluogi Pobl o Bob Oed i Ddysgu
  • Creu Cymunedau Cynaliadwy a Gwyrdd sydd wedi’u Cysylltu’n Dda â’i Gilydd

Byddwn yn cyfeirio ein hadnoddau i’r meysydd hyn er mwyn ailfywiogi’r economi leol a darparu amgylchedd ffyniannus, iach, diogel a fforddiadwy y gall dinasyddion a chymunedau Ceredigion ffynnu ynddo.

Mae’r rhain wedi’u nodi drwy ddadansoddi tystiolaeth ac ymgysylltu â thrigolion, gan gynnwys uchelgeisiau’r weinyddiaeth bresennol, Asesiad o Lesiant Lleol Ceredigion a’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Strategaeth Gorfforaethol ym mis Medi/Hydref 2022.

Mae’r Amcanion hefyd wedi’u nodi gan ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Roedd hyn yn cynnwys nodi sut mae modd i ni wneud y cyfraniad mwyaf posib tuag at y nodau llesiant cenedlaethol a hefyd sicrhau ein bod ni’n defnyddio’r egwyddor datblygu cynaliadwy i sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

Cefndir

Mae Ceredigion yn sir hyderus, ddeniadol lle mae llawer o’n pobl yn ffynnu ac yn datblygu, lle mae llawer wedi sefydlu busnesau llewyrchus a llwyddiannus.

Fodd bynnag, mae ein maint a’n lleoliad yn golygu ein bod yn wynebu heriau i dyfu’r economi leol, ond yn yr un modd mae yna lawer o gyfleoedd i ni fanteisio’n llawn arnynt wrth addasu’r sir i ddyfodol carbon isel a mwy o ddigideiddio.

Gellir crynhoi’r heriau allweddol fel yr angen i ddenu busnesau newydd a thyfu busnesau presennol, creu mwy o gyfleoedd gwaith a chyflogau uwch, darparu cyfleoedd i bobl iau aros yn y sir, a chynyddu enillion cyfartalog y Sir o gymharu â Chymru gyfan.

Y cryfderau a phwyntiau gwerthu unigryw'r economi leol yw bod gan fusnesau newydd rai o’r cyfraddau goroesi gorau ledled Cymru, bod gan ein gweithlu sgiliau a chymwysterau llawer uwch na’r cyfartaledd, ac mae’r economi wybodaeth yn gryf gyda dwy Brifysgol sydd â sgôr uchel.

Rydym wedi datblygu ein Hamcan Llesiant Corfforaethol i adeiladu ar ein cryfderau fel sir, manteisio’n llawn ar y cyfleoedd sydd ar gael i ni a mynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu i dyfu’r economi leol. Bydd hybu’r economi, cefnogi ein busnesau lleol a galluogi ein pobl i gael mynediad at gyflogaeth a gyrfaoedd o safon yn ein helpu i gyflawni hyn.

Hybu'r Economi

Byddwn yn parhau i symud Bargen Twf Canolbarth Cymru yn ei blaen er mwyn gwireddu manteision y buddsoddiad o £110m yn economi canolbarth Cymru. Bydd y prosiectau a gefnogir gan y Fargen Twf yn ysgogi buddsoddiad ychwanegol yn yr economi ac yn gwneud y mwyaf o effaith economaidd Ceredigion, megis creu swyddi ychwanegol a thwf economaidd o hyd at £700m.

Rhan allweddol o dyfu’r economi leol fydd cyflawni Strategaeth Economaidd Ceredigion sy’n nodi’r camau gweithredu y byddwn yn eu cymryd dros y 15 mlynedd nesaf. Byddwn yn parhau i gyflawni'r camau gweithredu yn y Strategaeth, ac yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y Sir i nodi a darparu ymyriadau pellach i ddod â thwf economaidd i'r Sir.

Bydd mynd i’r afael â thlodi a chefnogi rhieni sy’n gweithio yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r Cyngor, a byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid ar Is-grŵp Tlodi Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion i nodi camau gweithredu i liniaru’r effeithiau.

Cefnogi Busnesau

Byddwn yn parhau i gefnogi busnesau lleol i wella ar ôl COVID-19, ond hefyd yn gweithio i gefnogi busnesau newydd yng Ngheredigion a chefnogi busnesau presennol i ehangu a thyfu.

Bydd rhan o hyn yn cynnwys blaenoriaethu cynnyrch o ffynonellau lleol a chadwyni cyflenwi ym musnes y cyngor er mwyn cadw cymaint o arian a chynifer o swyddi â phosibl o fewn y gymuned leol. Lle bo modd byddwn yn torri contractau i fyny er mwyn gwneud y defnydd gorau o gyflenwyr lleol.

Galluogi Cyflogaeth

Yn ogystal â chefnogi creu swyddi, byddwn yn parhau i hybu cyfle cyfartal mewn cyflogaeth, hybu twf cynhwysol, hybu cydraddoldeb rhywiol mewn cyflogaeth ac annog mwy o fuddsoddiad mewn addysg a sgiliau trwy gydol bywyd gwaith.

Byddwn yn cyflawni hyn drwy wella'r ddarpariaeth chyfleoedd sgiliau a dysgu yn 16 oed a datblygu prentisiaethau ymhellach yn y Sir. Byddwn yn sefydlu llwybr datblygu sgiliau cyflogadwyedd ar gyfer pobl ifanc a'r rheini ag anabledd i hybu cynhwysiant yn y gweithlu.

I rieni, byddwn yn cefnogi darpariaeth gofal plant wedi’i ariannu ar gyfer pob plentyn dwy oed, yn ehangu’r Cynnig Gofal Plant i gynnwys rhieni/gwarcheidwaid sydd mewn addysg neu hyfforddiant, a hefyd ehangu Dechrau’n Deg i helpu plant i ddatblygu sgiliau cymdeithasol, emosiynol a chyfathrebu sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn yr ysgol.

Ein blaenoriaethau ar gyfer cyflawni’r Amcan Llesiant Corfforaethol yw:

  • Datblygu Bargen Twf Canolbarth Cymru gwerth £110m
  • Cefnogi busnesau lleol wrth wella o COVID-19
  • Cefnogi busnesau newydd a busnesau sy'n tyfu yn y Sir
  • Creu cyfleoedd gwaith newydd i bobl ifanc medrus
  • Hybu cyfle cyfartal mewn cyflogaeth
  • Cyflawni twf economaidd cynaliadwy
  • Mynd ar drywydd y Cynllun Datblygu Lleol
  • Blaenoriaethu cynnyrch o ffynonellau lleol a chadwyni cyflenwi
  • Gwella Band eang 4G
  • Cyllid teg o fewn rhaglen Arfor
  • Gwella cysylltedd digidol, a chysylltedd o ran trafnidiaeth ac ynni
  • Mynd i’r afael a thlodi yng Ngheredigion
  • Cefnogi rhieni sy’n gweithio yng Ngheredigion
  • Gwella’r ddarpariaeth sgiliau a chyfleoedd dysgu i bobl 16+ oed
  • Datblygu prentisiaethau yn y Sir ymhellach

Cefndir

Mae ‘Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014’ yn gosod gofyniad cyfreithiol ar y Cyngor i ddatblygu ystod o strategaethau ymyrraeth gynnar ac atal sy’n cynnwys trefniadau cydweithredol gyda chymunedau a’r sector gwirfoddol i gefnogi byw’n annibynnol.

Mae gan Geredigion boblogaeth sy'n heneiddio. Disgwylir y bydd hyn yn rhoi straen sylweddol ar ein gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig ein gwasanaeth iechyd a gofal lleol.

Bydd creu cymunedau gofalgar ac iach yn gwella llesiant trwy gefnogi byw’n annibynnol, atal problemau yn y dyfodol, darparu ar gyfer anghenion gofal, a chefnogi llesiant meddyliol yn ogystal â chorfforol yn dilyn pandemig COVID-19.

Creu Cymunedau Gofalgar

Mae Rhaglen Gydol Oed a Llesiant y Cyngor wedi symud ymlaen yn dda, a byddwn yn parhau i fwrw ymlaen â thrawsnewid sut y gellir cefnogi iechyd, lles a diogelwch pobl yng Ngheredigion. Nod y Rhaglen yw nodi'n gynnar yr hyn sy'n peri pryder i bobl a cheisio atal rhag gwaethygu, lle bynnag y bo modd, drwy ymateb amserol a chymesur. Bydd y dull hwn o weithredu yn helpu i sicrhau bod pobl yn cael y lefel a’r math cywir o gymorth, ar yr adeg gywir, i atal, lleihau neu ohirio’r angen am gymorth parhaus, a chynyddu annibyniaeth pobl a gallu aros yn eu cartref eu hunain yn eu cymuned eu hunain lle bynnag y bo modd.

Mae angen lefel uwch o ddarpariaeth mewn tai ar gyfer pobl hŷn a thai â gofal er mwyn cyd-fynd â dyheadau adroddiad Panel Tai Arbenigol Pobl Hŷn Llywodraeth Cymru, ac i fodloni dymuniad pobl hŷn i aros yn annibynnol a byw yn eu cartref. Bydd datblygiad posibl Canolfan Adnoddau Integredig Cylch Caron yn Nhregaron a Maes y Môr (cynllun gofal ychwanegol) yn Aberystwyth yn helpu i fynd i'r afael â'r angen hwn.

O ganlyniad, byddwn yn parhau i ddatblygu prosiect iechyd a gofal cymdeithasol integredig arloesol Cylch Caron mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a byddwn yn mynd ar drywydd cyfleusterau gofal ychwanegol pellach yn Aberaeron ac mewn mannau eraill. Agorodd Maes y Môr ym mis Hydref 2021, cymuned gefnogol o 56 o fflatiau, sy’n galluogi pobl i fyw yn eu cartrefi eu hunain gyda mynediad at ofal a chymorth 24 awr ar y safle.

Mae gan Geredigion hanes o gefnogi teuluoedd sy'n ffoi rhag rhyfel, newyn a digartrefedd. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae'r Cyngor wedi cefnogi 74 o ffoaduriaid o Syria yn llwyddiannus i'w croesawu i'r gymuned. Byddwn yn parhau i chwarae rhan flaenllaw wrth helpu ffoaduriaid o Wcráin a'u hadsefydlu yn ein cymunedau.

Creu Cymunedau Iach

Mae Ceredigion yn sir ddwyieithog yn bennaf, ac mae ein treftadaeth a’n diwylliant Cymreig yn bwysig. Mae diogelu’r iaith yn flaenoriaeth uchel i’r Cyngor, lle mae’r Sir yn parhau i fod yn un o gadarnleoedd y Gymraeg a’i bod yn iaith bob dydd sy’n cael ei chlywed a’i siarad yn naturiol gan blant, pobl ifanc ac oedolion.

Rydym am annog pob un o’n dinasyddion, waeth beth fo’u gallu, i ddod yn gorfforol egnïol fel y gallant elwa ar iechyd a llesiant cadarnhaol. Er mwyn cyflawni hyn rydym wedi rhoi cyfres o gamau gweithredu ar waith dros y pum mlynedd nesaf, gan gynnwys darparu cyfleoedd gweithgarwch corfforol allgymorth, darparu Rhaglenni Ymyrraeth Iechyd i wella lefelau gweithgarwch corfforol ymhlith oedolion hŷn a chefnogi sefydliadau cymunedol i ddarparu cyfleoedd i drigolion fod yn egnïol.

Byddwn hefyd yn symud ymlaen i drawsnewid Canolfan Hamdden Llanbedr Pont Steffan yn ‘Ganolfan Llesiant’. Bydd y Ganolfan yn gwella'r cynnig craidd o ddarpariaeth Hamdden gyda mannau ar gyfer cyfarfod, ymgynghori a thriniaeth i gyfrannu at wella lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol trigolion y Sir. Ein nod yw i Geredigion gyfan elwa o Ganolfannau Llesiant, ac o ganlyniad byddwn yn bwrw ymlaen â chynlluniau i ddatblygu Canolfannau Llesiant yng Ngogledd a De’r sir, yn ogystal â darpariaeth ‘dros dro’ mewn lleoliadau eraill.

Ein blaenoriaethau ar gyfer cyflawni’r Amcan Llesiant Corfforaethol yw:

  • Darparu ar gyfer anghenion gofal ein poblogaeth
  • Cyflwyno’r Rhaglen Gydol Oed a Llesiant
  • Hybu'r Gymraeg yng Ngheredigion
  • Lansio Canolfannau Llesiant ar draws y Sir
  • Mynd ar drywydd mentrau i hyfforddi a recriwtio staff Gofal Plant a gofal cymdeithasol
  • Datblygu cyfleuster gofal ychwanegol Cylch Caron yn Nhregaron
  • Croesawu a chefnogi ailsefydlu ffoaduriaid
  • Datblygu seibiannau/anadliad gofalwyr a chefnogi’r dyhead o greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru
  • Cefnogi cyfleusterau iechyd meddwl cymunedol
  • Annog a galluogi pobl i fod yn gorfforol egnïol fel y gallant elwa ar iechyd a lles cadarnhaol
  • Datblygu cynllun gwella ar gyfer darpariaeth strategol cyfleusterau i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol yn y sir
  • Gwella rôl Cysylltwyr Cymunedol i gefnogi datblygiad cymunedau cydnerth
  • Datblygu digwyddiadau cyfranogiad ymhellach i sicrhau bod gan gymunedau lais
  • Datblygu a chynyddu nifer y rhaglenni gweithgareddau allgwricwlaidd a gwyliau cyffredinol â ffocws
  • Datblygu a chynyddu nifer y grwpiau a rhaglenni cymorth

Cefndir

Mae system addysg Ceredigion yn un o'r rhai mwyaf llwyddiannus yng Nghymru, ond mae enillion pobl y Sir yn is na'r cyfartaledd, ac mae'r canfyddiad bod diffyg cyfleoedd gyrfa a chyfleoedd cymdeithasol wedi arwain at allfudo gan ein hoedolion iau.

Mae Ceredigion hefyd yn economi incwm isel, gydag incwm aelwydydd ymhlith yr isaf yng Nghymru er bod ganddynt lefelau cymhwyster cymharol uchel yn y gweithlu. Mae tlodi mewn gwaith a thlodi plant yn sylweddol ac yn effeithio ar gyfran uwch o drigolion ein sir nag yn yr ardaloedd difreintiedig cydnabyddedig yn y Cymoedd a Dwyrain Cymru.

Bydd darparu'r dechrau gorau mewn bywyd a helpu pobl o bob oed i ddysgu yn sicrhau y bydd y rhaglenni hyfforddiant priodol yn galluogi dysgwyr i ddiwallu anghenion busnesau Ceredigion yn awr ac yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys rhoi’r set sgiliau angenrheidiol i ddysgwyr ôl-16 ac oedolion i’w galluogi i fod yn weithwyr hyblyg, dwyieithog sy’n gallu addasu i ofynion cyflogaeth yn y dyfodol.

Darparu'r dechrau gorau mewn bywyd

Er mwyn darparu’r dechrau gorau mewn bywyd i’n plant a’n pobl ifanc byddwn yn cefnogi’r gwaith o ddarparu Prydau Ysgol Am Ddim i ddisgyblion cynradd o fis Medi 2022 ymlaen. O dan y fenter, bydd holl blant y Dosbarth Derbyn yn derbyn prydau ysgol maethlon am ddim. Mae hon yn fenter bwysig wrth i'r argyfwng costau byw barhau.

Mae Dechrau’n Deg yn darparu gofal plant o’r ansawdd uchaf ac mae wedi bod yn hynod effeithiol yng Ngheredigion ar gyfer teuluoedd yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig. Byddwn yn cefnogi’r gwaith o ehangu’r ddarpariaeth gofal plant blynyddoedd cynnar drwy Ddechrau'n Deg ar gyfer pob plentyn dwy oed, o fis Medi 2022.

Mae Dechrau'n Deg yn cefnogi datblygiad iaith alleferydd a sgiliau cyfathrebu plant; cymorth irieni; a gwasanaeth ehangach o ran ymwelwyr iechyd.

Galluogi pobl o bob oed i ddysgu

Yn ystod y tymor nesaf byddwn yn adeiladu ar y buddsoddi a wnaed yn ein hysgolion yn y blynyddoedd diwethaf. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyno’r estyniad 3-llawr carbon sero net newydd yn ysgol gynradd Aberteifi, a fydd yn darparu prif fynedfa newydd a dwy ystafell ddosbarth newydd.

Mae ymchwil yn dangos y gall datblygu’r Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar annog teimlad o berthyn a chynnig llwybr i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. O ganlyniad byddwn yn cyflwyno Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg i gryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg a sicrhau bod disgyblion yn hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg ym mlwyddyn 6. Cefnogir hyn gan ddatblygiad Strategaeth Ddiwylliannol a Strategaeth Tegwch i gefnogi lles yn ein cymunedau.

Rydym o blaid pobl ifanc a byddwn hefyd yn cefnogi Cyngor Ieuenctid Ceredigion fel fforwm i blant a phobl ifanc rannu eu barn, trafod prosiectau cyfredol a mynegi eu pryderon.

Ein blaenoriaethau ar gyfer cyflawni’r Amcan Llesiant Corfforaethol yw:

  • Buddsoddi mewn ysgolion ar draws y Sir, gan gynnwys yr estyniad 3 llawr carbon sero net yn Ysgol Uwchradd Aberteifi
  • Cyflwyno’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2022 i 2032
  • Sicrhau bod disgyblion yn gyfathrebwyr hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg erbyn digwydd Cyfnod Allweddol 2 (blwyddyn 6)
  • Cefnogi Cyngor Ieuenctid Ceredigion fel fforwm i blant a phobl ifanc
  • Datblygu sgiliau, gwybodaeth a hyder Plant a Phobl Ifanc i wneud ymarfer corff
  • Datblygu sgiliau arwain ein Plant a’n Pobl Ifanc ar y cyfle cyntaf
  • Cefnogi’r gwaith o ddarparu Prydau Ysgol am ddim i ddisgyblion ysgolion cynradd
  • Cefnogi’r ddarpariaeth gofal plant a ariennir ar gyfer pob plentyn dwy oed
  • Gweithio gyda phartneriaid i gyflawni Strategaeth Mamolaeth a Blynyddoedd Cynnar Gorllewin Cymru
  • Cefnogi’r gwaith o ddatblygu cyfleusterau Theatr Felinfach
  • Sicrhau bod pob dysgwr sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael eu cefnogi i fod yn unigolion annibynnol
  • Darparu cymorth i ysgolion weithredu’r cwricwlwm newydd i Gymru yn llwyddiannus
  • Datblygu Strategaeth Ddiwylliannol a Strategaeth Tegwch i gefnogi llesiant mewn ysgolion a chymunedau

Cefndir

Mae gan y Cyngor rôl arweiniol i'w chwarae wrth warchod a gwella adnoddau naturiol y Sir gan ymdrechu i warchod ansawdd aer, tir a dŵr. Ym mis Mawrth 2020, bu i’r Cyngor ddatgan argyfwng hinsawdd byd-eang. Mae’r penderfyniad yn amlygu’r angen i gymryd camau llym pellach i leihau ein hallyriadau carbon.

Mae ganddo hefyd rôl allweddol o ran hyrwyddo, sicrhau a gwella bioamrywiaeth. Mae cyfrifoldeb stiwardiaeth amgylcheddol y Cyngor hefyd yn ymestyn i’r amgylchedd adeiledig ac mae rheoli datblygiadau a defnydd tir mewn modd cadarnhaol yn y dyfodol yn hanfodol i gyflawni’r amcanion hyn.

Mae heriau allweddol o ran cyflawni hyn megis lefelau ffosffadau yn Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Teifi sy’n atal adeiladu yn Nyffryn Teifi.

Mae fforddiadwyedd tai yn parhau i fod yn her fawr i lawer yn y sir. Mae’r galw am dai yng Ngheredigion wedi gweld prisiau tai cyfartalog yn cyrraedd y lefelau uchaf erioed, gan ei gwneud yn gynyddol anodd i bobl leol aros yn eu cymuned leol ac i brynwyr tro cyntaf fynd ar yr ‘ysgol dai’.

Creu Cymunedau Cynaliadwy

Byddwn yn parhau i weithio gyda chymdeithasau tai lleol i gynyddu ein stoc o dai cymdeithasol i ddiwallu anghenion pobl leol a’n poblogaeth sy’n heneiddio, yn enwedig y 1,700 o bobl sydd ar y rhestr aros am dai. Byddwn hefyd yn cymryd camau i barhau i fynd i’r afael â mater ail gartrefi a defnyddio’r adolygiad o’r Cynllun Datblygu Lleol i alluogi mwy o bobl ifanc i adeiladu eu cartrefi gydol oes er mwyn sicrhau cynaliadwyedd ein cymunedau gwledig.

Creu Cymunedau Gwyrddach

Yn ystod y tymor nesaf byddwn yn parhau i flaenoriaethu lleihau allyriadau carbon er mwyn mynd ar drywydd ein nod o ddod yn Gyngor carbon sero net erbyn 2030. Mae rhai o'r camau gweithredu y byddwn yn eu cymryd yn cynnwys bod pob ysgol newydd a ddatblygir yng Ngheredigion yn rhai carbon sero net, ac edrych mewn i drawsnewid cerbydau ein fflyd gorfforaethol i gerbydau Allyriadau Isel Iawn er mwyn sicrhau gostyngiad o 3% mewn allyriadau carbon o flwyddyn i flwyddyn. Bydd cynllun gweithredu pum mlynedd bresennol y Cyngor yn parhau i gael ei gyflawni wrth i ni anelu at warchod ein hamgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Byddwn hefyd yn bwrw ymlaen â phrosiectau pellach i gynyddu cynhyrchiant ynni gwyrdd ac adnewyddadwy ar dir y Cyngor. Er enghraifft, cwblhau’r rhaglen o osod bylbiau arbed ynni LED mewn goleuadau stryd, rhesymoli stoc adeiladau’r Cyngor, a gosod mwy o ganopïau solar. Bydd ein polisi gweithio hybrid newydd yn lleihau’n barhaol faint o deithio y mae’n rhaid i Gynghorwyr a swyddogion ei wneud, gan leihau traffig ac allyriadau.

Creu Cymunedau sydd wedi’u Cysylltu’n Dda

Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi dangos mor bwysig yw bod yn gysylltiedig â’n trigolion a’n busnesau. O ganlyniad byddwn yn gryf o blaid mwy o ddarpariaeth ar gyfer cerdded a beicio, parhau i gynnal a chadw ac atgyweirio ein rhwydwaith priffyrdd a gwthio am gyswllt rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin.

Mae cynnydd da wedi’i wneud yn y blynyddoedd diwethaf o ran cryfhau cysylltedd digidol y Sir, a byddwn yn parhau i wthio am gysylltedd gwell ar draws y sir, gan gynnwys cefnogi’r gwaith o gyflwyno mastiau Band Eang 4G dros y tair blynedd nesaf, gan gynnwys yn ein hardaloedd mwyaf gwledig, i leihau anghydraddoldeb mewn gwasanaethau. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau y gall trigolion a busnesau Ceredigion ddod yn aelodau llawn o Gymru sy’n rhyng-gysylltiedig.

Ein blaenoriaethau ar gyfer cyflawni’r Amcan Llesiant Corfforaethol yw:

  • Blaenoriaethu lleihau allyriadau carbon a dilyn ein nod o fod yn Garbon Sero Net erbyn 2030
  • Adeiladu ar berfformiad gwych Ceredigion ym maes ailgylchu
  • Symud tuag at fflyd o gerbydau ag allyriadau isel iawn yn y Cyngor
  • Gweithio gyda Chymdeithasau Tai i gynyddu ein stoc tai cymdeithasol
  • Byddwn yn parhau i fynd i'r afael a materion ail gartrefi, perchnogaeth tai haf, a throsi cartrefi preswyl i dai gwyliau drwy geisio cefnogaeth Llywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth o dan y Ddeddf Cynllunio a’r Gwasanaeth Trethi
  • Galluogi mwy o bobl ifanc i adeiladu cartref am oes
  • Annog cadw enwau lleoedd Cymraeg
  • Rydym wedi cydnabod difrifoldeb y mater sy'n gysylltiedig â lefelau ffosffadau ar hyd Dyffryn Teifi yn y Gofrestr Risg Gorfforaethol. Gwneir pob ymdrech drwy’r Bwrdd Rheoli Maetholion i ddod o hyd i atebion cynnar i’r broblem
  • Chwilio am atebion i’r llifogydd a geir yn nyffryn Teifi
  • Mynd ar drywydd cyllid ar gyfer amddiffynfeydd i’r arfordir yn Aberaeron ac Aberystwyth a datblygu cynigion ar gyfer cam nesaf yr amddiffynfa arfordirol yn y Borth ac ar gyfer y lan yn Llangrannog
  • Atal a dad-wneud y dirywiad mewn bioamrywiaeth gan gynnwys yn ein hamgylchedd morol
  • Cefnogi rhagor o ddarpariaeth ar gyfer cerdded a beicio
  • Dadlau’n gryf o blaid cyswllt rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin

Strategaeth Gorfforaethol 2022-2027

Crynodeb o'r Strategaeth Gorfforaethol 2022-2027

Strategaeth Gorfforaethol 2022-2027 - Fersiwn Hawdd ei Ddarllen