Mae strategaeth sy’n ystyried dyfodol economaidd Ceredigion dros y pymtheg mlynedd nesaf bellach wedi’i chyhoeddi. Mae ymgysylltu ac ymgynghori manwl gyda phobl ifanc, busnesau a thrigolion wedi digwydd gan arwain at ddatblygu Strategaeth Economaidd newydd ar gyfer y sir.

Nodir pedwar maes blaenoriaeth lle bydd camau gweithredu’n cael eu rhoi ar waith i wneud gwahaniaeth. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Pobl – ysbrydoli pobl, datblygu sgiliau, iechyd a llesiant
  • Lle – hyrwyddo Ceredigion fel lle i fyw, gweithio ac ymweld ag ef
  • Menter – cynorthwyo busnesau i gychwyn a thyfu
  • Cysylltedd – cysylltu busnesau a chymunedau

Mae'r strategaeth yn cynrychioli fframwaith gweithredu sy'n cwmpasu'r cyfnod hyd at 2035. Bydd cynlluniau gweithredu manwl yn cael eu datblygu ar gyfer rhai o'r camau gweithredu, tra bod eraill eisoes yn rhan o'r gwaith sy'n cael ei gyflawni gan Gyngor Sir Ceredigion a rhanddeiliaid eraill. Gan ei fod yn fframwaith, mae hyblygrwydd i ymateb i gyfleoedd a heriau newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg, ond mae'r cyfeiriad a'r themâu cyffredinol ar gyfer ymyrraeth wedi'u nodi.

Mae'r strategaeth hon yn rhoi cyfle cyffrous i adeiladu ar sylfeini cadarn Ceredigion a chefnogi economi ffyniannus uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol.

Rhoi Hwb i Economi Ceredigion - Strategaeth ar gyfer Gweithredu 2020-35