Datganiad Polisi Iaith Gymraeg

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymrwymo i gefnogi’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg, gan sicrhau bod ei wasanaethau a’i weithgareddau yn hyrwyddo ac yn hybu defnydd o’r Gymraeg ledled y Sir.

Lawrlwythwch gopi o'r Datganiad Polisi yn llawn yma: Datganiad Polisi Iaith Gymraeg

Lawrlwythwch neges 'Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg' yma: Defnyddio'r Gymraeg wrth gysylltu â'r Cyngor

Cyngor Sir Ceredigion yn dathlu ‘Diwrnod Hawliau’r Gymraeg.’

hawl

Heddiw, 7 Rhagfyr 2020, bydd Cyngor Sir Ceredigion  yn cymryd rhan yn ‘Diwrnod Hawliau’r Gymraeg.’ Diwrnod yw hwn i ddathlu’r gwasanaethau Cymraeg mae sefydliadau’n eu cynnig, a’r hawliau sydd gan bobl i ddefnyddio’r Gymraeg wrth ddelio gyda nhw.  Mae’n  gyfle i hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg ac i geisio cynyddu’r nifer sy’n dewis eu defnyddio.

Heddiw ar Ddiwrnod Hawliau’r Gymraeg, mae Cyngor Sir Ceredigion yn cyhoeddi rhestr o hawliau er mwyn i’n defnyddwyr gwasanaethau wybod bod hawliau ganddynt i ddefnyddio’r Gymraeg. Yn ogystal â hyn , fel Cyngor hoffem weld mwy o bobl yn defnyddio ein gwasanaethau yn Gymraeg.  Rydym wedi  mynd ati i greu gweithlu fydd yn gallu gweithio’n hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg, ac felly rydym am annog pobl i gysylltu gyda ni yn y Gymraeg.

Datblygwyd hawliau’r Gymraeg yn unol â gofynion Safonau’r Gymraeg. Ewch i’n tudalen ‘Safonau’r Gymraeg’ i gael mwy o wybodaeth.

Gyda ni, mae gennych chi hawl i…

Dyma rai o’ch hawliau. I gael rhestr lawn, ac union fanylion yr hawliau sydd gennych chi i ddefnyddio’r Gymraeg, ewch i:

Y Comisiynydd y Gymraeg

Dywedodd Ellen ap Gwynn, Arweinydd y Cyngor, “Mae Cyngor Sir Ceredigion yn hapus iawn i ddathlu Diwrnod Hawliau’r Gymraeg 2020. Rydym am annog pawb i ddefnyddio a rhannu’r Gymraeg. Mae gyda ni staff gweithgar ac ymroddedig sy’n siarad Cymraeg ar draws gwasanaethau’r Cyngor, ac rydym am annog pobl i gysylltu gyda ni yn y Gymraeg, ac i ddefnyddio’r gwasanaethau Cymraeg hynny sydd ar gael. Os ydych chi’n siaradwr Cymraeg neu’n ddysgwr, sicrhewch eich bod yn gwneud defnydd o’r iaith a’r hawliau hynny sydd ar gael i chi".

Eich Cyngor, eich Iaith, eich dewis