Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Dyletswyddau Penodol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb ar gyfer pob corff cyhoeddus.

Amlinellir y dyletswyddau penodol hyn yn y canllaw hanfodol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus: trosolwg i awdurdodau cyhoeddus rhestredig yng Nghymru, ac maent yn cynnwys datblygu Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Gweler y ddolen i’r canllawiau yma:  

Ceir crynodeb o’r dyletswyddau hyn isod:

  • Gofyniad i ddatblygu a chyhoeddi Amcanion Cydraddoldeb a Chynllun Strategol Cydraddoldeb.
  • Gofyniad i  Asesu Effaith unrhyw bolisi, strategaeth, prosiect neu benderfyniad ariannol i gael gwybod os oes materion negyddol mae’n rhaid eu hystyried unwaith eto er mwyn sicrhau ein bod wedi ymddwyn yn deg wrth wneud penderfyniadau.
  • Gofyniad i gasglu Gwybodaeth Cydraddoldeb. Mae hyn yn cynnwys data am ein gweithlu, arolygon cwsmeriaid ac adborth o unrhyw waith ymgysylltu. Yna gellir defnyddio’r wybodaeth hon fel tystiolaeth mewn unrhyw benderfyniadau rydym yn eu gwneud wrth gynllunio ein gwasanaethau.
  • Gofyniad i nodi, casglu a chyhoeddi unrhyw wybodaeth am wahaniaethau o ran tâl rhwng cyflogeion ag unrhyw nodweddion gwarchodedig a’r bobl hynny nad oes ganddynt nodweddion gwarchodedig.
  • Gofyniad i ystyried cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhob agwedd ar Gaffael.
  • Gofyniad i gyhoeddi Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol sy’n asesu effeithiolrwydd Cynllun Strategol Cydraddoldeb y Cyngor.

Y canllaw hanfodol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus: Trosolwg i awdurdodau cyhoeddus rhestredig yng Nghymru: