Grŵp Gweithredol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles
Mae Grŵp Gweithredol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus dros Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles yn gweithio tuag at weledigaeth Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion sydd yn rhan o'r Cynllun Integredig Sengl.
Y mae hefyd yn gweithio at nod penodol er budd iechyd, gofal cymdeithasol a lles poblogaeth Ceredigion:
'Rydym am i bobl Ceredigion fod mor iach ac annibynnol â phosibl.'
Yr unig ffordd i fynd i'r afael â'r nod hwn a'r heriau sy'n gysylltiedig ag ef yw drwy weithio mewn partneriaeth, gan ddiwallu anghenion lleol yn benodol. O ganlyniad, mae Grŵp Gweithredol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles yn cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Sir Ceredigion, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Tîm Iechyd Cyhoeddus Hywel Dda a CMGC (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion). Drwy ymwneud, ymgysylltu a chydweithio bydd yn helpu i wella gwasanaethau, codi ymwybyddiaeth a defnyddio adnoddau yn fwy effeithiol.
Mae mwy o wybodaeth am Grŵp Gweithredol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles ar gael yn y ddogfen Cylch Gwaith.
Cysylltwch
Enw: Gaynor Toft
Teitl: Rheolwr Diogelu Iechyd y Cyhoedd
E-bos: gaynor.toft@ceredigion.gov.uk
Ffôn: 01545 574128
Name: Naomi McDonagh
Teitl: Cydlynydd Grŵp Gweithredol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles
E-bost: naomi.mcdonagh@ceredigion.gov.uk
Ffôn: 01545 574133
Name: Alun Williams
Teitl: Pennaeth Cymorth Polisi
E-bost: alun.williams2@ceredigion.gov.uk
Ffôn: 01545 574115