Ergyd i Gylch Caron ond yr uchelgais a’r ymrwymiad yn parhau

07 Rhagfyr 2020

Mae prosiect partneriaeth i ddarparu Canolfan Adnoddau Integredig yn Nhregaron – Cylch Caron - wedi'i atal dros dro. Fodd bynnag, dywed partneriaid eu bod wedi’u hymrwymo o hyd i wneud gwelliannau i fodel gwledig gofal cymunedol a thai yn yr ardal.

Arolwg ynghylch Canolfan Adnoddau Integredig a Gofal Ychwanegol Cylch Caron ar agor

28 Gorffennaf 2020

Mae aelwydydd yn ardal Tregaron yn derbyn holiadur ynghylch cynllun Cylch Caron.

Gwaith yn parhau ar Gynllun Cylch Caron

23 Mehefin 2020

Yn dilyn y gwaith sylweddol a wnaed gan gwmni adeiladu WRW, mae’r cynlluniau ar gyfer Canolfan Adnoddau Integredig Cylch Caron wedi cael eu cymeradwyo.

WRW yn cael ei benodi fel contractwr Cylch Caron wrth i’r cynllun dderbyn cyllid dylunio

31 Hydref 2019

Mae’r cwmni adeiladu WRW wedi cael ei benodi yn gontractwr ar gyfer cynllun Cylch Caron. Daw'r newyddion wedi i Gylch Caron gael arian gan Lywodraeth Cymru i gynllunio'r cynllun. Roedd y cwmni o Lanelli yn llwyddiannus ar ôl proses dendro.

Mae arian o'r Gronfa Gofal Integredig wedi galluogi partneriaid Cylch Caron i roi cyfarwyddid i WRW i lunio dyluniad manwl o'r cynllun.

Cyflwyno Achos Busnes Llawn drafft Cylch Caron i Lywodraeth Cymru

29 Gorffennaf 2019

Mae Achos Busnes Llawn drafft Cylch Caron wedi’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru er mwyn pennu lefelau cyllid grant ar gyfer y cynllun.

Mae cynllun trawiadol Cylch Caron yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ceredigion, Tai Canolbarth Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Llywodraeth Cymru. Bydd yn darparu adeilad newydd sbon wedi’i gynllunio i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol; ynghyd â thai arbenigol i bobl sydd ag anghenion gofal yn Nhregaron. Bydd yr adeilad newydd yn cymryd lle Ysbyty Cymunedol Tregaron, Canolfan Adnoddau Bryntirion a’r feddygfa teulu.

Unwaith y penderfynir ar lefel y cyllid grant, bydd angen i bartneriaid Cylch Caron roi cymeradwyaeth derfynol i fwrw ymlaen â’r cynllun.

Cam pwysig i Brosiect Canolfan Adnoddau Integredig Cylch Caron

12 Mawrth 2019

Mae Canolfan Adnoddau Integredig Cylch Caron arfaethedig yn Nhregaron wedi cymryd cam pwysig yn nes i gael ei adeiladu ar ôl arwyddo a selio'r Cytundeb Datblygu rhwng partneriaid.

Mae'r Cytundeb Datblygu yn nodi'r trefniadau rhwng y partneriaid, gan amlinellu sut y caiff y cynllun ei adeiladu a'i reoli yn y tymor hir.

Llofnododd llawer o’r llofnodwyr y Cytundeb Datblygu ar ôl cyfarfod o Fwrdd Prosiect Cylch Caron. Maent yn cynnwys Delyth Raynsford, Aelod Annibynnol ar gyfer BIPHDd; Y Cynghorydd Hag Harris, Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion; Richard Martin, Aelod Bwrdd CTCC a Charles Brotherton, Ysgrifennydd y Cwmni, CTCC.

Mae llofnodwyr eraill y Cytundeb Datblygu yn cynnwys Prif Swyddog Gweithredol ac yn Is-gadeirydd BIPHDd, Steve Moore a Judith Hardisty; Morag Bailey, Cadeirydd Pwyllgor Cyllid a Risg CTCC. Llofnodwyd y gytundeb hefyd gan Swyddog Arweiniol Corfforaethol Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu Cyngor Sir Ceredigion, a Swyddog Monitro yr awdurdod, Elin Prysor.

Proses gwerthuso tendrau Cylch Caron yn mynd rhagddo

13 Tachwedd 2018

Mae'r cyfnod gwahoddiad i dendro ar gyfer dylunio ac adeiladu canolfan iechyd, gofal cymdeithasol a thai integredig newydd, Cylch Caron yn Nhregaron, wedi cau. Mae’r cyflwyniadau a dderbyniwyd yn cael eu gwerthuso ar hyn o bryd.

Cyhoeddwyd y cyfle am gontract yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd ar 12 Chwefror 2018. Rhoddwyd gwahoddiad i’r pum contractwr a’r sgôr uchaf i dendro ar gyfer darparu'r cynllun hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Cadeirydd Bwrdd Rhanddeiliaid Cylch Caron, “Mae'r cais tendro yn gam mawr i brosiect Cylch Caron. Diolch i bob cwmni o'r diwydiant adeiladu a ddangosodd ddiddordeb mewn datblygu'r ganolfan hon ar sail dylunio ac adeiladu. Edrychwn ymlaen at glywed canlyniad y gwerthusiad.”

Datblygiad Canolfan Adnoddau Integredig Cylch Caron yn symud yn nes

20 Mehefin 2018

Mae'r cynllun arfaethedig ar gyfer Canolfan Adnoddau Integredig Cylch Caron yn Nhregaron wedi symud yn nes at gael ei wireddu, yn dilyn cwblhau cam cyn-cymhwyso y Gwahoddiad i Dendr yn llwyddiannus.

Cyhoeddwyd y gwahoddiad i gyflwyno tendr yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU) ar 12 Chwefror 2018 gyda'r pum contractwr gyda'r sgôr uchaf yn cael eu gwahodd yn awr i gyflwyno tendr ar gyfer y cynllun iechyd, gofal cymdeithasol a gofal ychwanegol integredig sydd eu mawr angen.

Cafodd y tendr ar gyfer datrysiad dylunio ac adeiladu ei ddatblygu gyda'r nod o sicrhau'r gwerth gorau am arian a chyfleusterau iechyd, gofal cymdeithasol a gofal ychwanegol modern ar gyfer cenedlaethau heddiw a'r dyfodol.

Gwahodd Tendrau ar gyfer Cylch Caron

16 Chwefror 2018

Gwahoddir tendrau ar gyfer dylunio ac adeiladu canolfan iechyd, gofal cymdeithasol a thai newydd integredig yn Nhregaron, Cylch Caron.

Hysbysebwyd y cyfle tendro yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd, a chyhoeddwyd yr Holiadur Cyn-Gymhwyso (PQQ) ar 12 Chwefror 2018. Rhaid gwneud cyflwyniadau PQQ wedi'u cwblhau ar-lein trwy etenderwales erbyn 12yp dydd Llun, 15 Mawrth 2018.

Yn dilyn ymarfer blaenorol aflwyddiannus, pleidleisiodd Bwrdd Prosiect Cylch Caron i archwilio opsiynau tendro newydd ar gyfer dylunio ac adeiladu'r cyfleuster. Yn dilyn hynny, datblygwyd y tendr hwn ar gyfer datrysiad o ddylunio ac adeiladu i ddarparu gwerth gorau am arian a chyfleusterau iechyd a gofal ychwanegol addas at y diben, ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Cylch Caron yn ymweld â chynlluniau gofal ychwanegol

18 Tachwedd 2016

Yn dilyn penodi Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru yn bartner cyflenwi ar gyfer prosiect gofal ychwanegol Cylch Caron, mae'r prosiect wedi symud ymlaen yn gyflym.
Ar 31 Hydref, bu ymweliad llwyddiannus â dwy enghraifft arfer da o gynlluniau gofal ychwanegol yng ngogledd Cymru ar gyfer aelodau prosiect Cylch Caron a Byrddau Rhanddeiliaid a drefnwyd gan Gyngor Sir Ceredigion a Chymdeithas Tai Canolbarth Cymru.

Rhoddodd yr ymweliad gyfle ardderchog i Gynghorwyr a staff y prosiect i siarad gyda staff yn Hafan Gwydir, Llanrwst ac Awel y Coleg, y Bala a chael gwybodaeth o lygad y ffynnon am sut mae'r cynlluniau'n gweithredu'n ymarferol. Bu hefyd yn gyfle i gwrdd â rhai o'r preswylwyr sy'n mwynhau byw yn eu cartrefi a'r gwasanaethau sydd ar gael.

Mae gan y ddau gynllun nifer o nodweddion yn gyffredin gyda'r cynlluniau arfaethedig ar gyfer Cylch Caron. Mae Hafan Gwydir, Llanrwst, a gaiff ei reoli gan Gymdeithas Tai Clwyd Alyn, yn ddatblygiad gofal ychwanegol a adeiladwyd yn bwrpasol. Mae'r cartrefi'n darparu fflatiau un a dwy ystafell wely ar rent ac ar gyfer rhan-brynu, gofal cartref a chefnogaeth 24 awr ar y safle, canolfan iechyd drws nesaf a meddygfa ar y safle.

Cymuned Tregaron yn dod at ei gilydd i bartner Cylch Caron

16 Medi 2016

Daeth cymuned Tregaron a'r ardal gyfagos at ei gilydd ddydd Mawrth, 13 Medi i gwrdd â partner datblygu Cylch Caron a benodwyd yn ddiweddar, Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru. Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i weld dyluniadau cysyniad cychwynnol y pensaer ar gyfer y datblygiad.

Dechreuodd y diwrnod gyda swyddogion Cyngor Sir Ceredigion a Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru yn ymweld â Dr Sion James ym meddygfa teulu Tregaron. Ymunodd Roofus, masgot Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru, swyddogion i gwrdd â disgyblion cynradd ac uwchradd Ysgol Henry Richard ac ymweld a Canolfan Adnoddau Bryntirion ac Ysbyty Tregaron.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Cadeirydd Bwrdd Rhanddeiliaid Cylch Caron, "Roedd hwn yn ddiwrnod i'r gymuned i gwrdd â Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru, o blant lleol, i'r meddyg teulu, i drigolion Canolfan Adnoddau Bryntirion ac Ysbyty Tregaron a'r gymuned ehangach."

Y noson hynny, cynhaliwyd digwyddiad ymgysylltu â'r gymuned, a helpodd gasglu safbwyntiau pobl leol, sefydliadau, defnyddwyr gwasanaeth a busnesau ar y prosiect. Bydd y wybodaeth a gasglwyd yn helpu i lywio'r Asesiad Effaith Iechyd ar gyfer y prosiect, gan sicrhau, lle bynnag y bo modd, y bydd y cyfleuster yn rhoi’r cyfle i wella iechyd a lles y defnyddwyr gwasanaeth, staff a'r gymuned ehangach.

Ychwanegodd y Cynghorydd Catherine Hughes, "roedd y digwyddiad gyda'r nos yn Ysgol Henry Richard yn gyfle i fod yn rhan o'r sgwrs ynglŷn â sut y bydd Cylch Caron yn darparu gwasanaethau cynaliadwy Tai, Iechyd, Gofal Cymdeithasol ar gyfer ein cymuned. Roedd hefyd yn gyfle i gael golwg gyntaf o luniadau cysyniad cychwynnol y pensaer."

 

Canlyniad llwyddiannus ar gyfer Cylch Caron wrth benodi Partner Cyflawni

29 Gorffennaf 2016

Yn dilyn proses dendro agored, mae Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru wedi bod yn llwyddiannus wrth ennill y contract ar gyfer cyflawni prosiect Cylch Caron.
Dywedodd Rebecca Evans AC, y Gweinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd, "Mae penodiad Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru fel y Partner Cyflawni ar gyfer Cylch Caron yn gam pwysig arall ymlaen yn natblygiad y ganolfan arloesol. Bydd Cylch Caron yn dod â iechyd, gofal cymdeithasol a thai ynghyd o dan yr un to. Yn unol â'r egwyddor o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014, bydd y gwasanaethau hyn yn rhoi atal ac ymyrraeth gynnar wrth galon popeth y maent yn ei wneud, gan helpu pobl i aros yn iach a byw'n annibynnol."

Roedd yn ofynnol i bartïon â diddordeb i gyflwyno cynnig tendro i Gyngor Sir Ceredigion a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Fe wnaeth y Panel, a oedd yn cynnwys swyddogion o'r ddau gorff, werthuso’r cynnig yn erbyn tri cham sef Cymhwyster, Ansawdd a Masnach. Roedd pob un Gwerthuswr yn cael eu dyranu gyda cynigion i werthuso mewn perthynas â'u maes arbenigedd, gan sicrhau bod gyda’r tendrwr y gallu a’r sgiliau angenrheidiol i gyflenwi'r contract.

Dywedodd Siân Howells, Cyfarwyddwr Busnes Newydd ar gyfer Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru, "Mae Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru yn falch iawn o fod wedi ennill y contract ar gyfer darparu Prosiect Cylch Caron ac yn edrych ymlaen at weithio gyda'r gymuned a’r partneriaid sydd ynghlwm gyda’r prosiect, gan wneud y Cyfleuster Gofal Integredig yma yn realiti.”

Diwrnod Dathlu a Dysgu Cylch Caron

24 Mawrth 2016

Ar ddydd Iau, 24 Mawrth, daeth dros 100 o bobl ynghŷd yn Nhregaron i Ddiwrnod Dathlu a Dysgu Cylch Caron.

Dadorchuddiwyd arwydd ar y safle gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Athro Mark Drakeford, ynghyd â Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Bernadine Rees, Steve Moore ac Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn i nodi bod y tir wedi'i brynu.

Symudodd yr Athro Drakeford ymlaen i Neuadd Goffa Tregaron i gael ei gyfarch gan dros 20 o stondinau o sefydliadau ac elusennau sy’n gweithio gyda’i gilydd yn ardal Cylch Caron.